Gwyliau, penwythnosau a diwrnodau i'w cofio yng Nghymru
2018 yw ein Blwyddyn y Môr.
Rydym ni’n dathlu arfordir rhagorol Cymru ac yn eich gwahodd i ddarganfod profiadau epic ar hyd pob rhan o’n glannau. Beth am ddechrau gyda Llwybr Arfordir Cymru, pob 870 milltir ohono, sy’n mynd heibio i bob math o forlun – y cyffrous, llonyddwch pur a phopeth rhwng y ddau. Fe basiwch chi gannoedd o draethau, porthladdoedd, cilfachau ac ynysoedd - wrth wylio’r llamhidyddion yn chwarae a’r dolffiniaid yn dawnsio yn y pellter.
Penderfynwch mai eleni fydd y flwyddyn i roi cynnig ar weithgaredd arfordirol newydd – fel caiacio, rhwyf-fyrddio neu arfordira. Neu dilynwch yr afonydd i gyfeiriad y bryniau i ddarganfod glannau gwledig ein llynnoedd a’n cronfeydd dŵr.
Â’i diwylliant unigryw, croeso cynnes Cymreig a’r bwyd a diod gorau, mae Cymru’n cynnig rhai o brofiadau arfordirol mwyaf cyffrous 2018. Croeso i’n Glannau Epic.
Gwyliwch ein ffilm newydd sbon ar gyfer 2018, sy’n cynnwys yr actor Hollywood Luke Evans. Dysgwch ragor am y broses ffilmio a chymerwch gipolwg y tu ôl i’r llenni.
#GwladGwlad
Noder fod gwefan croeso.cymru wedi ei theilwra’n arbennig ar gyfer cynulleidfa sy’n siarad Cymraeg.