Croeso i’r Flwyddyn Chwedlau.

Ydi, mae Cymru’n dirwedd hynafol, gyda miloedd o flynyddoedd o hanes a chwedlau ble bynnag rydych chi’n edrych. Mae ein iaith yn gyswllt byw gyda’n cyndeidiau Celtaidd. Mae’n wlad o fynyddoedd mawreddog ac wybrennau enfawr, o fewn arfordir sy’n enwog am ei brydferthwch. Ond mae hefyd yn wlad llawn syniadau mawr ac anturiaethau cyffrous. Ble bynnag yr ewch mae yna syniadau newydd, mewn hen lefydd: gwifrau gwib, llwybrau beicio mynydd, syrffio mewndirol – a llwybr arfordirol cyflawn cynta’r byd.