Chwedlau teledu: pwy ydy pwy yn hysbyseb newydd Croeso Cymru

Mae hysbyseb deledu newydd Croeso Cymru yn galw ar gast o enwau chwedlonol o lên gwerin a hanes Cymru, o dywysogion i fôr-ladron, o ddewiniaid i forynion dirgel. Ond pwy ydyn nhw – a pham bod eu henwau yn dal i’n cyffroi yma yng Nghymru? Dyma bopeth sydd angen ei wybod am y cymeriadau chwedlonol hyn.

Y Brenin Arthur

Yn fwy na thebyg, roedd yr Arthur go iawn yn bennaeth Rhufeinig-Prydeinig a fu’n brwydro yn erbyn yr Eingl-sacsonaidd ymosodol yn y 5ed ganrif. Roedd beirdd a chyfarwyddiaid Cymreig y canol oesoedd yn hoff o adrodd chwedlau arwrol Arthur, a’r chwedlau hynny’n tyfu o ran eu manylder dros amser. Mae cysylltiad rhwng y Brenin Arthur a’i osgordd â nifer helaeth o safleoedd ledled Cymru, o feini hirion ac ogofâu i lynnoedd ac ynysoedd. 

King Arthur's Labyrynth.

Labrinth y Brenin Arthur, Machynlleth

Owain Glyndŵr (tua 1359–tua 1415)

Fe welwch faner Owain Glyndŵr, pedwar llew ungoes ar gefndir aur a melyn, yn dal i gyhwfan yn falch ar bolion ledled Cymru heddiw. Ganwyd yr arwr cenedlaethol mawreddog hwn i deulu o Gymry pendefig tua 1359, a gwasanaethodd coron Lloegr fel milwr. Roedd Glyndŵr wedi ymddeol i’r gororau ag yntau’n ganol oed ... hyd nes i un o’i gymdogion a oedd yn farwn ei dwyllo dros fater o dir. Bu brwydr Glyndŵr am gyfiawnder yn fodd i danio gwrthryfel digyfaddawd yn erbyn Harri IV. Erbyn 1404 roedd Glyndŵr yn rheoli’r rhan fwyaf o Ogledd a Chanolbarth Cymru o’i lys yng Nghastell Harlech. Yn 1404, cynhaliodd ei senedd gyntaf ym Machynlleth,  yno fe’i coronwyd yn Dywysog Cymru - y Cymro brodorol diwethaf i ddwyn y teitl. Llethwyd y gwrthryfel ar ddechrau’r 14a0au; ni chipiwyd Glyndŵr ei hun, gan iddo ddiflannu i’r dirgel.

Owain Glyndwr.

Canolfan Owain Glyndŵr, Machynlleth 

Llywelyn ap Gruffudd (tua 1223–1282)

Llywelyn Ein Llyw Olaf oedd tywysog sofran olaf Cymru. Roedd ganddo linach pendefig; ei daid oedd Llywelyn Fawr a oedd wedi teyrnasu dros Gymru am 45 mlynedd. Digon sigledig oedd teyrnasiad ei ŵyr; er bod Llywelyn erbyn 1270 yn rheoli tri chwarter Cymru o’i gadarnle yn Eryri, coron Lloegr, Arglwyddi’r Mers, tywysogion llai Cymru a hyd yn oed ei frodyr ei hun yn ddraenen yn ei ystlys. Yn 1282, arweiniodd Llywelyn ei fyddin tua’r de i ennyn cefnogaeth yng Nghanolbarth Cymru. Fe’i lladdwyd gan filwyr Lloegr ger Llanfair ym Muallt; heddiw, mae cofeb iddo yng Nghilmeri.

Owain Glyndwr Centre, Machynlleth

Canolfan Owain Glyndŵr, Machynlleth 

Branwen

Y straeon a gasglwyd yn y Mabinogi (neu Bedair Cainc y Mabinogi) yw gweithiau rhyddiaith cynharaf Prydain. Fe’u trosglwyddwyd ar lafar am ganrifoedd cyn eu hysgrifennu yn Gymraeg yn y 11eg ganrif. Mae gan Branwen ran flaenllaw yn yr Ail Gainc fel chwaer Bendigeidfran, cawr o frenin Prydain, sy’n trefnu ei bod yn priodi brenin Iwerddon. Nid oes diwedd hapus i’r stori: ar ôl cyfres o ddigwyddiadau gwaedlyd, ceffylau wedi’u hanffurfio, pennau wedi’u torri a phair hud, mae Branwen yn dychwelyd i Gymru ac yn marw o dor-calon. Yn ôl yr hanes, claddwyd Branwen ger pentref Llanddeusant yn Ynys Môn,  lle ceir claddfa o Oes yr Efydd a elwir yn Fedd Branwen.

Brynsiencyn, Anglesey
Brynsiencyn, Ynys Môn 

Blodeuwedd

Rydym yn dod ar draws ein harwres Blodeuwedd ym mhedwaredd Gainc y Mabinogi. Mae gŵr o’r enw Lleu wedi cael ei felltithio: ni chaiff fyth briodi gwraig ddynol. Mae dau ddewin medrus yn gwneud gwraig i Lleu allan o flodau - Blodeuwedd. Mae’r pâr yn ymgartrefu mewn castell ger Trawsfynydd hyd nes bod Blodeuwedd yn syrthio mewn cariad gydag arglwydd Penllyn (Bala heddiw. Daliwyd Blodeuwedd wrth Lyn y Morwynion ger Blaenau Ffestiniog, ac er mwyn dial arni, fe’i trowyd yn dylluan.

Capel Curig near Trawsfynydd, Snowdonia, North Wales

Capel Curig, Môr a Mynyddoedd Eryri 

Myrddin

Mae Myrddin yn gymeriad amlwg yn llenyddiaeth Geltaidd gynnar fel gŵr gwyllt y coed, ond y clerigwr Sieffre o Fynwy yn y 12fed ganrif sy’n gyfrifol am wreiddiau delwedd gyhoeddus Myrddin fel cydymaith goruwchnaturiol y Brenin Arthur. Myrddin y dewin ifanc oedd yn gyfrifol am ddarganfod pam bod muriau castell Dinas Emrys, ger Beddgelert yn chwalu byth a hefyd: roedd dwy ddraig, un goch ac un wen, yn ymladd mewn pwll islaw’r castell (y ddraig goch orfu wrth gwrs – gan ddod yn symbol y frwydr yn erbyn y gelyn Sacsonaidd). Wrth i’r chwedl dyfu, daeth Myrddin yn gynghorydd doeth i Arthur ac yn ddewin yn ei lys. Yng Nghymru, mae cysylltiad arbennig rhwng Myrddin a thref Caerfyrddin: fel yr awgryma’r enw.

Merlin - Beddgelert near Dinas Emrys.

Beddgelert, Môr a Mynyddoedd Eryri 

Llyn y Fan

Neu’n fwy penodol, Llyn y Fan Fach, llyn rhewlifol hardd ar gyrion gorllewinol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Roedd Merch y Llyn hardd yn byw yma. Priododd y ferch â mab fferm lleol, ar yr amod na fyddai’n ei tharo deirgwaith; pe byddai hynny’n digwydd, byddai’r ferch yn dychwelyd i’r llyn ac yn dwyn holl anifeiliaid y fferm gyda hi. Fel llawer o arwresau eraill o Gymru, diwedd trist fu i’r briodas, ond aeth eu meibion ymlaen i fod yn feddygon llysieuol enwog a adwaenir heddiw fel Meddygon Myddfai

An image of Llyn y Fan Fach with reflections of clouds on the lake

Llyn y Fan Fach, Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

 gan Chris J Richards

Rhiannon

Mae’r merched yn y Mabinogi yn aml yn cael amser digon anodd, ond mae Rhiannon yn enwog fel un o’r cymeriadau cryfaf a mwyaf hoffus o’r holl geinciau. Roedd yn briod (yn weddol hapus) â Phwyll, tywysog Dyfed ac ar ôl ei farwolaeth, priododd â Manawydan, rhyfelwr sy’n dod i’r amlwg fel un o farchogion y Brenin Arthur mewn cerddi diweddarach. Mae Rhiannon yn fwy na thebyg yn seiliedig ar dduwies ceffylau Celtaidd – mae’n ymddangos gyntaf ar geffyl gwyn – ac mae ganddi dri aderyn hudol sy’n gallu ‘deffro’r meirw a suo’r byw i gysgu’ gyda’u cân. Mae un o ganeuon Fleetwood Mac yn canu amdani, ac mae’n parhau i fod yn ffigwr gwerin poblogaidd yng nghyffiniau Narberth, lle roedd ei chartref.

St Davids near Narberth, Pembrokeshire.

Tyddewi, Sir Benfro 

Bendigeidfran

Roedd Bendigeidfran yn gawr o frenin Prydain, yn rheoli’r ynys o’i lys yn Harlech. Trefnodd i Branwen ei chwaer briodi Brenin Iwerddon, ond pan glywodd nad oedd yn cael ei thrin yn dda, aeth draw i’w hachub. Ag yntau’n gawr, mae’n camu dros Fôr Iwerddon, ac yna’n gorwedd dros yr Afon Llinon er mwyn i’w fyddin gerdded drosto. Cafodd y cawr o frenin ei glwyfo’n angheuol yn y frwydr a ddilynodd; roedd wedi gorchymyn i’w ŵyr dorri ei ben a’i gludo i Lundain - yn wynebu Ffrainc fel na fyddai Prydain fyth yn cael ei goresgyn o gyfeiriad y môr.

Harlech Castle, Snowdonia National Park.

Castell Harlech, Môr a Mynyddoedd Eryri 

Barti Ddu

O’r holl gapteniaid môr-ladron oedd yn enedigol o Gymru (ac rydym wedi cynhyrchu sawl un – yn enwedig o Sir Benfro) Bartholomew Roberts (1682–1722) oedd y mwyaf llwyddiannus. Tynnwyd Barti Ddu i fyd y môr-ladron pan gipiwyd ei long gan fôr-leidr arall o Gymro, Hywel Davies. O fewn ychydig wythnosau, lladdwyd Davies a dewisodd y môr-ladron Barti Ddu i fod yn gapten yn ei le. Derbyniodd Barti Ddu gan ddweud mai ei ddyhead oedd: “Bywyd llawen ac oes fer.” Am y dair blynedd nesaf, cipiodd Barti Ddu fwy na 400 o longau wrth hwylio arfordiroedd yr Americas, y Caribî a Gorllewin Affrica. Daeth diwedd Barti Ddu ger arfordir Gabon, pan saethwyd ef yn farw o long rhyfel y Llynges Brydeinig, HMS Swallow.

Ramsey Island, Pembrokeshire.

Ynys Dewi, Sir Benfro

Twm Siôn Cati

Ganwyd Twm Siôn Cati yn Nhregaron oddeutu 1530. Roedd yn lleidr a ffugiwr digywilydd a’i anturiaethau ffraeth yn gyfrifol am ei wneud yn rhyw fath o arwr gwerin fel Robin Hood ac yn destun straeon lu. Byddai’n cilio gyda’i nwyddau i’w guddfan mewn ogof unig a diarffordd ar lethrau serth uwchlaw gwarchodfa natur Gwenffrwd-Dinas, dyma un o lwybrau cerdded mwyaf godidog Cymru. Mae llwybr Twm Siôn Cati yn lwybr arbennig iawn yn Nhregaron, a gallwch weld copi o’i ewyllys yng Nghanolfan y Barcud ac Amgueddfa’r dref. 

Image of a hillside near Twm Siôn Cati's Grave, looking up the wooded hillside towards the sky

Bryn wrth ymyl cuddfan Twm Siôn Cati, ger Llanymddyfri

 gan Phil Fitzsimmons