Hysbyseb Teledu Croeso Cymru 2017

2017 yw Blwyddyn Chwedlau Cymru ac mae hysbyseb eleni yn dangos mawredd y tirlun yng Nghymru, a’r anturiaethau y gellir eu mwynhau yng nghanol y tirlun chwedlonol hwn.

Wrth i’r tirlun yng Nghymru ein hannog i neidio, dringo, arnofio neu ddawnsio – mae’r hysbyseb newydd yn ceisio ein hysbrydoli i feddwl. Wedi ei gyfarwyddo gan Marc Evans, cyfarwyddwr Hinterland, mae’r hysbyseb newydd yn creu ysbryd y gorffennol gyda dychymyg y dyfodol.

Mae’n cynnwys yr actor o Gymru, Luke Evans, sydd wedi actio mewn ffilmiau o Hollywood megis The Hobbit, Girl on the Train ac fel Gaston yn y ffilm Beauty and the Beast sydd ar fin cael ei rhyddhau.

Creu anturiaethau ym mhrydferthwch Cymru…

Mae cyfraniad Luke yn cyfleu ymgyrch Blwyddyn y Chwedlau: ble y mae hanes a chwedleua yn gysylltiedig â digwyddiadau ac atyniadau cyfoes.

Mae hysbyseb 2017 yn dangos storïau o’r gorffennol mewn dull newydd a chyfoes – gyda’r tirlun deinamig yn dod yn rhan o’r digwyddiadau ar y sgrîn.

Mae’r sgript yn yr hysbyseb yn tynnu sylw at chwedlau ac arwyr y gorffennol a’r tirlun sy’n ein synnu a’n hysbrydoli.

Mae wedi ei ffilmio yn Llyn Llydaw, llyn naturiol ym Mharc Cenedlaethol Eryri sy’n gefndir perffaith i’r antur a hanes arwrol gorffennol a dyfodol Cymru.