Hedd Wyn: y bardd trwm dan bridd tramor

Llun portread o Hedd Wyn

Hedd Wyn

 gan Yr Ysgwrn

Yr anrhydedd fwyaf i unrhyw fardd o Gymru yw ennill y gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae dal yn ganolbwynt yr ŵyl hyd heddiw.

Yn Eisteddfod Genedlaethol 1917 galwodd yr Archdderwydd ffugenw’r bardd buddugol dair gwaith, ond camodd neb ymlaen. Yna cyhoeddodd yn ddifrifol i’r bardd gael ei ladd mewn brwydr chwe wythnos ynghynt.

Gorchuddiwyd y gadair gyda lliain du, ac fe soniodd yr Archdderwydd am ‘ŵyl mewn dagrau a’r bardd yn ei fedd’. Heddiw fe gyfeirir at Eisteddfod 1917 fel ‘Eisteddfod y Gadair Ddu’. Ellis Humphrey Evans oedd y bardd - yn cael ei adnabod wrth ei enw barddol, Hedd Wyn. 

Ganwyd Hedd Wyn ar 13 Ionawr 1887 yn Nhrawsfynydd, y cyntaf o 14 o blant. Dechreuodd farddoni yn 11 oed, meistrolodd y gynghanedd yn 12 oed, a parhaodd i farddoni ar ôl gadael yr ysgol i weithio ar y fferm pan yn 14 oed. Erbyn ei fod yn 19, roedd yn cystadlu’n rheolaidd mewn eisteddfodau, ac fe enillodd y gyntaf o’i chwe chadair yn Eisteddfod Bala 1907. Yn 1910, cymerodd yr enw barddol Hedd Wyn.

Llun o deulu Hedd Wyn

Teulu Hedd Wyn

 gan Yr Ysgwrn

Cafodd y lladdfa yn y Rhyfel Byd Cyntaf effaith ddwys ar ei fywyd a’i farddoniaeth. Yn heddychwr Cristnogol, doedd Hedd Wyn ddim wedi enlistio, ond ban ddechreuodd gorfodaeth filwrol ym 1916, roedd rhaid i’r teulu Evans anfon un mab i’r rhyfel. I arbed ei frawd iau, Robert, gwirfoddolodd Ellis.

Fis Mawrth 1917, cafodd ddychwelyd am ychydig i Drawsfynydd i gynorthwyo gyda’r aredig a’r plannu ar fferm y teulu, Yr Ysgwrn. Tra ei fod adref, dechreuodd weithio ar gerdd newydd, Yr Arwr, a dyma oedd i fod ei gynnig ef ar gyfer cadair yr eisteddfod. Cymerodd y gwaith ar y fferm yn hirach na’r disgwyl ac fe arhosodd Ellis yn hwy na’i ryddhad o’r fyddin, a bu’n rhaid i’r heddlu milwrol ddod i’w hebrwng yn ôl. Yn y dryswch, gadawodd y gerdd anorffenedig ar ôl. Ysgrifennodd Hedd Wyn y gerdd eto wrth iddo deithio i ymuno â 15fed Bataliwn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yn Fléchin, Ffrainc, ac o’r fan honno anfonodd ei gerdd at yr Eisteddfod. 

Ar 31 Gorffennaf 1917, lladdwyd Ellis Evans yng Nghefn Pilckem ger Ypres. Roedd yn un o 9,300 o filwyr Prydeinig fu farw yn ystod tri diwrnod cyntaf Brwydr Passchendaele. Adref yn Nhrawsfynydd, daeth yr holl bentref i alaru wrth i’r Gadair Ddu gael ei chludo i fferm y teulu.

Parhaodd nai Hedd Wyn, Gerald Williams, i ffermio yn Yr Ysgwrn, a chadw’r drws ar agor i’r llu o ymwelwyr oedd yn gwneud pererindod i gartre’r bardd. Wrth iddo gyrraedd ei 80au, dechreuodd Gerald feddwl am ddyfodol y fferm. Yn 2012 fe werthodd y fferm i Barc Cenedlaethol Eryri, ond gydag amodau: dylai barhau ar agor i ymwelwyr, a dylai deimlo fel cartref, nid fel amgueddfa.

Llun o tu mewn i'r gegin yn Yr Ysgwrn

Y gegin yn Yr Ysgwrn, Trawsfynydd

 gan Yr Ysgwrn

Ar ôl cael ei adfer yn ofalus, mae Yr Ysgwrn yn ailagor fel canolfan ymwelwyr yn ystod haf 2017. Mae’r Gadair Ddu yn dal yno fel symbol pwerus o’r genhedlaeth ifanc o ddynion a ymladdodd ac a fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Ble i ddod o hyd i Hedd Wyn yn 2017

Yr Ysgwrn

Mae cartref teulu Hedd Wyn yn fferm fynydd draddodiadol ger Trawsfynydd, Eryri. Bydd yna arddangosfeydd am fywyd a gwaddol barddol Hedd Wyn, yn ogystal â themâu yr iaith a’r diwylliant Cymraeg, y traddodiad barddol, hanes cymdeithasol a gwledig, a’r Rhyfel Byd Cyntaf. Y canolbwynt yw’r ffermdy ei hun, sydd prin wedi newid ers dyddiau Hedd Wyn.

Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn (4-12 Awst)

Gŵyl gelfyddydol fwyaf Cymru yw gŵyl hynaf Cymru hefyd, yn dyddio nôl i 1176. Mae’n gyfuniad eclectig o’r hen a’r newydd, y traddodiadol a’r cyfoes, ac mae’n ddathliad o’n diwylliant a’n hiaith. Eleni yw canmlwyddiant Eisteddfod y Gadair Ddu 1917, felly byddwn yn cofio Hedd Wyn gyda chyngherddau, digwyddiadau ac arddangosfeydd.

Tair cadair Eisteddfodol yn Yr Ysgwrn a lluniau o Hedd Wyn ar y wal

Cadeiriau Eisteddfodol Hedd Wyn, yn cynnwys y Gadair Ddu ar y dde, Yr Ysgwrn, Trawsfynydd

 gan Yr Ysgwrn

A tra eich bod yn yr ardal…

Mae Trawsfynydd fwy neu lai yng nghanol Parc Cenedlaehtol Eryri, gydag atyniadau gwych o fewn taith 30 munud yn y car. I’r gogledd mae Blaenau Ffestiniog, sy’n lle gwych ar gyfer gwifrau gwib a beicio mynydd. I’r de mae Coed y Brenin, canolfan beicio mynydd gyntaf y DU. I’r gorllewin mae pentref Eidalaidd Portmeirion, a Chastell Harlech i lawr yr arfordir. I’r dwyrain, mae Afon Tryweryn yn gartref i’r Ganolfan Dŵr Gwyn Genedlaethol, ac ym mhob cyfeiriad mae yna olygfeydd mynyddig godidog.