Gwlad chwedlau: lleoedd i'w gweld yn 2017

Beth sy'n gwneud lle chwedlonol? Mae'n fwy na phobl ac adeiladau. Mae ‘na chwedl ynghlwm wrth bron pob llyn, craig a mynydd yng Nghymru.

Dros y canrifoedd, mae hanes a chwedloniaeth wedi plethu yn ei gilydd – ac rydym yn hoff o hyn. Wnawn ni ddim ymddiheuro am y ffaith fod yna chwedlau o gwmpas pob cornel; rydym yn boddi mewn pobl a lleoedd chwedlonol! Os ydych chi'n meddwl 'Wel … ble ydw i’n dechrau?' dyma gipolwg o'r lleoedd ble y gallwch ddechrau ar eich antur yng Nghymru.

1.) Yr Ysgwrn (man geni Hedd Wyn)

Hedd Wyn oedd ffugenw’r bardd Ellis Evans, fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae’r Eisteddfod Genedlaethol, a gynhelir ar Ynys Môn yn 2017, yn cofio canmlwyddiant ei farwolaeth eleni, a bydd ei fan geni, Yr Ysgwrn, yn dadorchuddio’r ganolfan ymwelwyr newydd. Gall ymwelwyr weld 'Y Gadair Ddu’, y gadair farddol enwog a orchuddiwyd gan orchudd du pan ddarganfuwyd i’r bardd gael ei ladd rhai wythnosau cyn y Seremoni Gadeirio.

An image of a bridge and stream running through Beddgelert

Beddgelert, Gwynedd

2.) Castell Caernarfon

Cynlluniwyd y gaer Normanaidd enfawr hon er mwyn dwyn rhamant yr Ymerodraeth Rufeinig a Macsen Wledig (Magnus Maximus) i gof – rhyfelwr o’r 4edd ganrif oedd Macsen Wledig, oedd wedi breuddwydio am dywysoges Gymreig, ac yna priododd hi. Saif y castell yn urddasol mewn man hyfryd wrth ymyl yr harbwr, yn agos iawn i’r Black Boy Inn; lle llawn hanes a thraddodiad ble gallwch fwynhau peint a sgwrsio gyda’r bobol leol.

A long distance shot of Caernarfon Castle with a number of small boats in front of it

Castell Caernarfon, Gwynedd

 gan Helia Phoenix
 

3.) Beddgelert

Dyma enw un o'r pentrefi mwyaf prydferth Eryri, ac fe’i enwyd ar ôl Gelert, ci hoff Llywelyn Fawr a achubodd fab y tywysog rhag blaidd. Lladdwyd yr hen gi ffyddlon mewn achos anffodus o ddryswch. Dewch â hances gyda chi yn barod ar gyfer darllen yr hanes – hynod o drist!

An image of a bridge and stream running through Beddgelert

Beddgelert, Gwynedd

4.) Ynys Enlli

Dywedir fod Ynys Enlli yn fan gorffwys 20,000 o seintiau. Mae’r ynys hardd hon yng Ngogledd Cymru yn llawn bywyd gwyllt megis morloi llwyd sy’n mwynhau bywyd ar y creigiau. Mae'n lle gwych ar gyfer teithiau diwrnod, hefyd. Neidiwch ar gwch o Aberdaron neu Bwllheli a hwylio at y man ble mae Cristnogion wedi bod yn ymweld ag ef ers y 6ed ganrif, pan sefydlodd Cadfan Sant fynachlog ar yr ynys.


Sunset and Bardsey Island courtesy of Bardsey Island Trust

Ynys Enlli, Gwynedd

 gan Bardsey Island Trust
 

5.) Cantre'r Gwaelod

Pan fo’r llanw’n isel, cewch weld olion coedwig hynafol yn ymddangos yn y tywod ar draethau Borth ac Ynyslas, Ceredigion. Wedi'i leoli ger Gwarchodfa Natur Genedlaethol Dyfi, mae’r olygfa o goed derw 4,000 mlwydd oed yn fythgofiadwy. Yn ôl y chwedl, dyma Gantre'r Gwaelod - hen deyrnas hynafol. Ysgrifennodd y bardd J.J Williams am y lle chwedlonol hwn: Hyd fedd mi gofia'r tywod / Ar lawer nos ddi-stŵr / A chlychau Cantre'r Gwaelod / Yn canu dan y dŵr.

Remains of an ancient sunken forest are seen appearing from low tide at Borth beach, Ceredigion

Coedwig hynafol ar draeth Borth, Ceredigion

 gan Iestyn Hughes

6.) Dewi Sant

Adeiladwyd yr Eglwys Gadeiriol hon gyda thywodfaen porffor tywyll yn y 12fed ganrif, ac mae’r adeilad, sy’n sefyll ger yr Afon Alun, yn un o safleoedd crefyddol mwyaf eiconig Cymru. Mae’r safle mor chwedlonol fel i’r Pab gyhoeddi yn y 12fed ganrif fod dwy bererindod i Dyddewi yn Sir Benfro yn gyfwerth â phererindod i Rufain, ac bod tair taith yma yn gyfwerth ag un daith i Jerwsalem. Mae etifeddiaeth Dewi Sant (y dyn) yn byw bob blwyddyn ar 1af Mawrth - diwrnod llawn cyngherddau, eisteddfodau a gorymdeithiau.

An image of St Davids Cathedral and path leading towards it

Eglwys Gadeiriol Tyddewi, Sir Benfro

7.) Bedd Twm Siôn Cati

Lleidr, twyllwr ac arwr tebyg i Robin Hood o’r 16eg Ganrif oedd Twm Sion Cati. Fe’i ganwyd yn Nhregaron, ac oherwydd ei orchestion cuddiodd Twm Siôn Cati rhag y gyfraith am flynyddoedd cyn derbyn pardwn gan y frenhines. Mae ei le gorffwys honedig wedi ei lleoli mewn llechwedd serth sy'n edrych dros warchodfa natur hardd RSPB Gwenffrwd-Dinas. Gallwch weld copi o'i ewyllys yng Nghanolfan y Barcud Coch, a hyd yn oed ddilyn llwybr Twm Siôn Cati yn Nhregaron.

Image of a hillside near Twm Siôn Cati's Grave, looking up the wooded hillside towards the sky

Bryn wrth ymyl bedd Twm Siôn Cati, ger Llanymddyfri

 gan Phil Fitzsimmons

8.) Castell Pennard

Mae Abertawe yn llawn hanesion chwedlonol am smyglwyr a chestyll arswydus. Ym Mhennard, mae yna sïon i arglwydd y castell wneud y camgymeriad angheuol o ddigio'r tylwyth teg lleol, gyda’r tylwyth teg yn dial trwy foddi’r gaer dan dywod. Mae gweddillion y castell bellach yn sefyll ar gyrion Afon Pennard, sy'n arwain i lawr i Three Cliffs Bay. Efallai y bydd rhaid i chi sgrialu i fyny bryniau tywodlyd i gyrraedd y brig, ond mae’n bendant yn un o’r golygfeydd gorau y gwelwch mewn unrhyw gastell yn y DU, gyda golygfeydd o’r môr a’r bae tuag at Dwyni Penmaen.

An image of Pennard Castle with the sun shining through the top part of the ruin

Castell Pennard, Penrhyn Gŵyr

 gan City and Council of Swansea
 

9.) Llyn y Fan Fach

Mae Llyn y Fan Fach yn gorwedd wrth droed y Mynydd Du ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae'n gartref i wraig hardd y llyn, a briododd fachgen fferm leol. Eu meibion oedd y cyntaf o sawl cenhedlaeth o lysieuyddion a meddygon Myddfai. Credir i chwedl Llyn y Fan Fach ysbrydoli chwedl enwog arall – chwedl Arthuraidd y Wraig o’r Lyn a Chaledfwlch. Y dyddiau hyn, mae’r llyn yn fan gwych ar gyfer padlo a nofio gwyllt.

;An image of Llyn y Fan Fach with reflections of clouds on the lake

Llyn y Fan Fach, Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

 gan Chris J Richards

10.) Ynys Llanddwyn

Roedd Santes Dwynwen yn anlwcus mewn materion serch. Ac felly aeth i fyw fel lleian ar Ynys Llanddwyn, Ynys Môn, lle'r bu’r santes yn gweddïo er mwyn i gwir gariadon gael lwc gwell na chafodd hi. Ac felly daeth Santes Dwynwen yn nawddsant cariadon Cymru, ac rydym yn dathlu ei diwrnod bob blwyddyn ar 25ain Ionawr. Mae ei chartref, Llanddwyn, yn un o'r mannau gwyllt mwyaf rhamantus yng Nghymru, ac yn lle gwych i ymweld ag ef ar gyfer antur Ynys Môn.

Image of Llanddwyn Island at sunset
Ynys Llanddwyn, Ynys Môn