Os gwelsoch chi raglen deledu lwyddiannus y BBC, Gavin & Stacey, byddwch chi’n gyfarwydd ag awyrgylch hwyliog glan-môr y Barri. Mae Barri’n gefndir i nifer o olygfeydd mwyaf cofiadwy’r gyfres, ac mae gan y dref rôl bron mor fawr i’w chwarae â’r prif gymeriadau. Ond does dim angen bod yn ffan i fwynhau atyniadau’r dref.

Gallwch ddod o hyd i nifer ohonynt ar benrhyn bach a elwir yn Ynys y Barri. Yn y gorffennol, roedd yn ynys go iawn, ond yn ystod oes Fictoria, adeiladwyd y porthladd, gan gysylltu’r ynys â’r tir mawr.

Erbyn hyn mae’r Barri ar ei phrifiant – ffefryn gyda thrigolion Caerdydd sy’n gallu picio yma i’r traeth tywodlyd, y parciau deiliog a’r siopau a bwytai annibynnol.

Traethau’r Barri

Bae Whitmore

Ar flaen Ynys y Barri, mae Bae Whitmore yn gilgant eang o dywod euraidd. Dyma le perffaith i deuluoedd fwynhau yn yr haul, gyda thraeth llydan sy’n disgyn yn raddol i’r dŵr. Mae’r promenâd â’i golofnres ddeniadol yn llawn o gaffis, siopau sgod a sglod ac arcêds difyr prysur – popeth, i bob pwrpas, sydd ei angen arnoch am ddiwrnod gwych ar lan y môr. Gellir benthyca cadeiriau olwyn traeth yn rhad ac am ddim a gallwch hyd yn oed logi un o’r cytiau traeth eiconig hefyd. Hufen iâ, unrhyw un?

Tri pherson yn gwthio cadeiriau olwyn traeth i lawr y llethr tuag at draeth tywodlyd
Golygfa o’r promenâd, y traeth a’r pentir yn y pellter. Ynys y Barri, De Cymru.

Mae digonedd o le i bawb ar dywod euraidd Bae Whitmore

Bae Jackson

Mae’r cilgant llai hwn o dywod yn gweld llawer llai o ymwelwyr. Dyma gyfrinach y bobl leol! Mae yng nghesail y trwyn i gyfeiriad Caerdydd. Does dim cyfleusterau yma yn ystod misoedd y gaeaf, ond os ydych chi’n chwilio am fwy o dawelwch a llonydd, mae’n ddelfrydol. Gall y cerrynt fod yn gryf yma, a does dim achubwyr bywyd ar ddyletswydd. Mae’n hawdd cerdded yma ar hyd Rhodfa Clement Colley o Fae Whitmore o gwmpas Trwyn Nel ar flaen y penrhyn. Yn wahanol i Fae Whitmore, caniateir cŵn yma drwy gydol y flwyddyn.

Bae Cold Knap

Ar ochr arall y Barri, mae cildraeth bach caregog Bae’r Tŵr Gwylio ac wedyn ddarn hir o draeth cerrig mân Cold Knap. (Mae yma dywod pan fydd hi’n drai.) Mae digonedd o le ac mae’n dawel a hamddenol. Pysgota a hwylfyrddio yw’r diddordebau poblogaidd yma, ac mae modd mynd am dro pleserus ar hyd y prom, sy’n ddelfrydol ar gyfer cadeiriau olwynion, bygis a sgwteri. Pan fydd y llanw allan mae digonedd o byllau creigiau i’w darganfod hefyd.

Atyniadau’r Barri

Parc Pleser Ynys y Barri

Perffaith ar gyfer pobl ifanc ac oedolion sy’n hoffi antur a chyffro, bydd Parc Pleser Ynys y Barrin bendant yn codi curiad eich calon. Mae reidiau ffair o bob math yma, gan gynnwys rollercoaster, reid ddŵr, dodgems a waltzer. Mae digon i ddiddanu’r plant llai hefyd gyda thrampolinau, cychod pedal ac atyniadau ffair traddodiadol.

Cwpanau te enfawr ar reid ffair plant ym Mharc Pleser Ynys y Barri.
Looking up at the ferris wheel at Barry Island Pleasure park on a sunny day.
Reid ffair ar siâp draig goch fach ym Mharc Pleser Ynys y Barri.

Bydd plant o bob oedran yn dwlu ar yr atyniadau ym Mharc Pleser Ynys y Barri

Rheilffordd Ymwelwyr y Barri

Mae Rheilffordd Ymwelwyr y Barri’n cynnal reidiau trên treftadaeth rheolaidd ar ddarn byr o drac sy’n gadael o Orsaf Ynys y Barri yn ystod misoedd yr haf. Locomotifs disel hanesyddol yw’r trenau, ond mae ganddyn nhw injans stêm fydd yn ymweld yn aml dros y tymor brig. Gallwch fwynhau coffi a theisen yng nghaffi cyfeillgar yr orsaf wrth i chi aros i adael.

Amgueddfa Ryfel y Barri

Lleolir Amgueddfa Ryfel y Barri, a gynhelir gan dîm brwd o wirfoddolwyr, yng Ngorsaf Reilffordd Ynys Y Barri hefyd, felly mae’n hawdd ei gyfuno â’r rheilffordd. Mae’n cynnig cipolwg unigryw ar fywyd yma yn ystod y ddau ryfel byd. Mae digon i’w ddarganfod gan gynnwys ail-grëad o ffos o’r Rhyfel Mawr a chysgod Anderson o’r Ail Ryfel Byd.

Eglwys Sant Baruc

Credir bod y Barri wedi’i enwi ar ôl sant Celtaidd o’r chweched ganrif, Baruc Sant. Gallwch ymweld ag olion y capel a enwyd ar ei ôl sy’n dyddio’n ôl i’r wythfed ganrif. Does fawr ddim i’w weld, ond arferwyd ystyried bod pedair pererindod i eglwys Sant Baruc ar Ynys y Barri’n gyfystyr ag un daith i Rufain. Cynhelir gwasanaeth arbennig yma bob blwyddyn ar Ddydd Sant Baruc – 27 Medi.

Parciau a gerddi yn y Barri

Mae Llyn a Gerddi Knap yn llecyn delfrydol i gerdded yn hamddenol yn yr heulwen neu gael picnic ar y borfa. Bydd elyrch a hwyaid yn nofio ar y llyn yn y canol, sy’n hoff fan gan rai sy’n hoffi hwylio cychod model. Rywsut, does neb yn taro yn erbyn ei gilydd! Mae’r gerddi’n cefnu ar bromenâd eang gwastad sy’n arwain at draeth caregog Bae Cold Knap.

O fewn golwg ymhellach i’r gorllewin rownd y trwyn mae Parc Gwledig Porthceri. Yma ceir 220 erw o goedwig a dolydd heddychlon mewn cwm cysgodol glaswelltog, a groesir gan draphont fawr o Oes Fictoria. Mae ardal chwarae i blant a llwybrau drwy’r goedwig hefyd, ynghyd â chaffi cyfeillgar a byrddau picnic. Gallwch gerdded i lawr i lan y môr oddi yma hefyd.

I’r gogledd o Erddi Knap, mae Parc Romilly’n barc hollol nodweddiadol o Oes Fictoria. Fe’i adeiladwyd ar dir o eiddo teulu cyfoethog Romilly, ac mae'r ardd gerrig wreiddiol yn dal yma. Mae digon o le i blant redeg o gwmpas yma, llwybrau deiliog rhwng coed hynafol, ardal chwarae i blant, toiledau a chyrtiau tenis.

Bwâu traphont Fictoraidd yn croesi’r cwm ym Mharc Gwledig Porthceri.

Y draphont Fictoraidd drawiadol ym Mharc Gwledig Porthceri

Siopa yn y Barri

Fe gewch y gorau o ddau fyd wrth siopa yn y Barri. Mae ymdeimlad hyfryd o stryd fawr draddodiadol ar Stryd Fawr y Barri. Wrth gerdded ar ei hyd, gallech ddychmygu eich bod wedi camu’n ôl i oes arall o siopau teuluol a gwasanaeth cyfeillgar. Mae’r manwerthwyr wedi enwi’r ardal yn Ardal Siopa’r Stryd Fawr, ac fe gewch gaffis, cigydd, fferyllfa, siopau anrhegion a gwerthwyr blodau yma.

Wedyn, herc cam a naid i ffwrdd mae datblygiad trefol ffasiynol newydd ar dir hen gei cychod o’r enw Goodsheds. Ceir llond llaw o siopau annibynnol mewn hen gynwysyddion llongau metel yn ardal yr Iard Gychod. Cwrw crefft, recordiau, nwyddau i’r cartref a ffasiwn – mae bwtics sy’n gwerthu pob math o stwff diddorol. Peidiwch â cholli The Tracks, ble mae hen goetsys rheilffordd yn gartref i fwy o fasnachwyr crefft a sinema hyd yn oed!

Darllen MwyBlas ar draethau, siopau a bwytai annibynnol Bro Morgannwg gydag Annes Elwy

Bariau a bwytai yn y Barri

Mae'r Goodsheds hefyd yn gartref i sawl caffi a bwyty blasus. Gallwch fwyta Tex Mex, Pitsa, bwyd Groegaidd ac Indiaidd yn yr Iard Gychod. Rhennir y lle eistedd ar draws y caffis, felly gall pawb ddewis ei ffefryn. Mae digonedd o fariau gwych yn gweini diodydd hefyd.

Os ydych eisiau rhywbeth mwy ‘chwaethus’, mae gan y cogydd seren Michelin James Somerin ei fwyty The Shed yma, sy’n gweini clasuron traddodiadol ag ambell dwtsh modern gan ddefnyddio’r cynhwysion lleol gorau.

Llwybrau cerdded o gwmpas y Barri

Mae Llwybr Arfordir Cymru’n dilyn yr arfordir o gwmpas y Barri. Tua 4 milltir (6km) yw hi i’r arfordir yn Nhrwyn Rhws, pwynt mwyaf deheuol Cymru. Mae’r golygfeydd o’r fan hon dros y môr yn fendigedig. Mae llwybr cylchynol pleserus 3.5 milltir (5.5km) o gwmpas cefn Parc Gwledig Porthceri, gan gynnwys Gerddi Knap a Pharc Romilly, yn ogystal ag olion Castell y Barri. Disgrifir y ddau lwybr yn Llwybr y Fro Rhif 4.

Darllen Mwy: Llwybrau i chi a’ch babi o gwmpas Caerdydd a’r Fro

Golygfeydd dros y môr pefriog ger y Barri.

Golygfeydd hardd o’r môr rhwng dwy goeden ger y Barri, De Cymru

Straeon cysylltiedig