Os ydych chi’n dipyn o anturiwr adrenalin, yn chwilio am brofiadau newydd, yn mwynhau ymarfer corff, neu’n berson gyda gormodedd o egni sydd angen ei losgi, mae Caerdydd yn le gwych i gael eich ffics ffitrwydd. Byddwch yn siŵr o chwysu chwartiau os byddwch yn dewis rhai o’n hawgrymiadau.

Ble i: sglefrfyrddio

Spit and Sawdust

Mae’r parc sglefrfyrddio hwn dan do yn anferth - oddeutu 7,000 troedfedd sgwâr. Mae’n addas ar gyfer pob oed a gallu, gydag opsiynau i sglefrfyrddio’n rhydd, ymuno â dosbarthiadau, derbyn hyfforddiant, llogi offer a chwrdd â phobl newydd. Yn ogystal â’r llethrau, blociau, talcenni, cicwyr symudol a bariau, mae ramp fertigol 11 troedfedd y tu allan ar gyfer sglefrfyrddwyr profiadol (a dewr!).

RampWorld

Mae croeso yma i unrhyw un gydag olwynion sy’n hoffi chwaraeon eithafol, gan gynnwys sgwteri, sglefrolwyr, sglefrfyrddau, beiciau BMX a chadeiriau olwyn eithafol. Mae RampWorld yn lle cyfeillgar lle gallwch ymarfer unrhyw beth o’r sgiliau sylfaenol i’r fflips, triciau cydio a llifanu. Mae ardal siâp powlen, meingefn, rampiau bychain, adrannau stryd a hanner peip. Mae’r pwll sbwng a’r ramp Resi yn gwneud yn siŵr eich bod yn glanio heb wneud niwed i chi eich hun pan fyddwch yn ceisio dysgu sgil newydd.

Ble i: Ddringo

Canolfan Ddringo Dan Do Boulders

Mae Boulders yn lleoliad gwych os ydych chi am gael hwyl a bod yn actif ar eich pen eich hun, gyda ffrindiau neu fel teulu - ac mae'n addas ar gyfer pob oed. Nid oes angen profiad o gwbl arnoch i roi cynnig arni, byddwch yn dringo wal o dan gyfarwyddyd gwych yr hyfforddwyr profiadol mewn chwinciad. Mae’r waliau yn amrywio mewn uchder o 4-12m ac mae offer yn cael ei ddarparu ar eich cyfer.

Ble i: Sglefrio Iâ

Canolfan Iâ Cymru Ice Arena Wales

Dyma gartref tîm hoci iâ enwog y Cardiff Devils. Mae Canolfan Iâ Cymru yn arena bwrpasol gyda dau lawr sglefrio. Mae sesiynau sglefrio iâ ar gael i’r cyhoedd yn ddyddiol, cyrsiau ar gyfer pob gallu, yn ogystal â sesiynau ymarfer sglefrio ffigur. Gallwch ddefnyddio eich esgidiau sglefrio eich hun, neu mae’n bosib llogi pâr yn yr arena.

 

Adeilad mawr modern.
Dau berson yn sglefrio ar draws yr iâ.

Canolfan Iâ Cymru, Caerdydd

Ble i: Reidio ar ddŵr

Canolfan Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd

Dyma’r adnodd dŵr gwyn o safon Olympaidd bwrpasol cyntaf yn y DU, ac mae wedi’i leoli ym Mhentref Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd. Ar safle Canolfan Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd, gallwch gymryd rhan mewn ystod o weithgareddau dŵr yn cynnwys canŵio, caiacio, rafftio dŵr gwyn, tiwbio, padlfyrddio ar eich traed a syrffio tonnau dan do. Mae hwyluswyr wedi’u hyfforddi ar gael i’ch arwain ar eich antur, ond os ydych eisoes yn brofiadol, gallwch wneud unrhyw beth yn eich amser eich hun.

Caiacs ar y dŵr
Pobl yn eistedd ar rafft las ar y dŵr

Canolfan Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd, Bae Caerdydd

Ble i: Sŵmio mewn go-cartiau

Teamsport Cardiff

Ydych chi’n hoff o rasio mewn go-cartiau? Bydd eich calon a’ch corff yn llythrennol yn curo wrth i chi rasio yn Teamsport Cardiff, adeilad pwrpasol ar gyfer go-cartio sydd wedi’i leoli ger Heol Casnewydd. Mae’r trac aml lefel hwn yn 500 metr o hyd, gyda’r lonydd syth yn eich caniatáu i godi cyflymder, troadau llym a llydan a digonedd o gyfleoedd i chi wibio heibio'ch ffrindiau. Mae’r go-cartiau 200cc yn medru cyrraedd cyflymder cyfartalog o 40mya, gyda phob lap yn cymryd tua 40 eiliad i’w chwblhau. 

Ble i: Redeg a Cherdded

Caerdydd yw’r ddinas ddelfrydol ar gyfer y rhai sy’n hoffi rhedeg neu gerdded. Mae’r gymysgedd o ardaloedd trefol, ardaloedd gwyrdd a llwybrau dynodedig yn golygu fod rhywbeth at ddant pawb. Mae'r Llwybr Taf yn ymestyn o Fae Caerdydd yr holl ffordd i Aberhonddu, gyda dros 50 milltir o lwybrau. Gallwch ei fwynhau mewn adrannau o faint sydd yn addas i chi.

Neu beth am fentro ar hyd Llwybr Arfordir Cymru: cychwynnwch o Warchodfa Natur y Gwlypdiroedd ym Mae Caerdydd, cylchdroi o amgylch Yr Eglwys Norwyeg lle cafodd Roald Dahl e fedyddio, yna croesi’r morglawdd i gyrraedd tref glan môr Penarth.

Os ydych chi’n chwilio am barciau, yna mae Parc Bute, tu ôl i Gastell Caerdydd, yn lle hyfryd i grwydro. Mae Parc y Rhath yn boblogaidd gyda rhedwyr oherwydd bod cylchdaith wastad 5km o hyd o amgylch gerddi rhosod hardd, llyn cychod mawr a’r goleudy adnabyddus. Mae’r daith ar hyd y palmentydd wedi’u goleuo’n dda sy’n ei gwneud yn daith addas ar unrhyw adeg o’r flwyddyn neu gyda’r nos.

Mae hefyd nifer o sesiynau ParkRun yn cael eu trefnu ar draws parciau Caerdydd, gyda llwybrau ym Mharc Bute, Parc Trelái, Grangemoor a Thremorfa. Ewch i wefan ParkRun am fwy o wybodaeth. 

 

llwybr pren, gwyrddni a ffensys, gyda chychod yn y cefndir.
Eglwys wen wedi’i gwneud o bren gyda meinciau y tu allan

Gwarchodfa Natur y Gwlypdiroedd a’r Eglwys Norwyeg ym Mae Caerdydd

Rhagor o syniadau

 

Straeon cysylltiedig