O ddechreuwyr i hen lawiau profiadol, mae Cymru’n berffaith ar gyfer gwyliau canŵio a chaiacio. Mae digon o ddewis o blith llynnoedd mynyddig, camlesi cysgodol ac arfordir gwyllt y wlad. Os ydych chi’n chwilio am weithgareddau â phellter cymdeithasol, mae mynd allan ar y dŵr yn berffaith. 

Beth i ddod gyda chi ar gyfer taith mewn caiac

Mae pob un o’r cwmnïau caiac a chanŵ wedi cael eu gwirio ar gyfer diogelwch, ac maen nhw’n darparu’r holl offer ar gyfer eich amser ar y dŵr – felly does dim angen i chi boeni am siaced achub na rhwyfau. Yn amlwg dylech wisgo dillad ac esgidiau nad oes ots gennych eu gwlychu!

Gwiriwch ragolygon y tywydd cyn i chi gychwyn. Os yw hi’n addo tywydd gwyntog ewch â siaced sy’n atal gwynt, a menig hyd yn oed. Os yw’n heulog, dewch â het a sbectol haul. Hyd yn oed ar ddiwrnodau cymylog, mae’n syniad cael eli haul, am ei bod hi’n rhyfeddol o hawdd llosgi eich croen ar y dŵr.

Mae potel ddŵr a byrbryd bach wastad yn syniad. Ac os ydych chi’n bwriadu tynnu lluniau ar eich ffôn wrth i chi ganŵio, buddsoddwch mewn daliwr sy’n atal dŵr er mwyn ei hongian o gwmpas eich gwddf.

Menyw mewn canŵ.
Dau berson mewn canw ar yr Afon Gwy.
Storfa caiacs.

Wedi gwisgo’r offer ac yn barod i rwyfo

Pryd i fynd

Mae'r rhan fwyaf o bobl yn dueddol o fynd ar daith gaiacio yng Nghymru yn ystod misoedd cynhesach yr haf, diwedd y gwanwyn a dechrau’r hydref, ond gyda’r offer cywir, mae’n hollol bosib rhwyfo drwy gydol y flwyddyn, yn enwedig os oes tywysydd gyda chi.

Lleoliadau ar gyfer teithiau caiacio a chanŵio

Mae digonedd o leoliadau gwych yng Nghymru ar gyfer teithiau mewn caiac a chanŵ. Bydd rhwyfwyr mwy mentrus yn dwlu ar gyffro caiacio yn y môr a’r fraint o weld bywyd gwyllt prin. Bydd teuluoedd yn mwynhau hwyl rhwyfo ar lynnoedd llonydd cefn gwlad, tra bo’r afonydd yma’n cynnig rhywbeth ar gyfer pob gallu. 

Canŵio a chaiacio yn y môr

Gall caiacio yn y môr fod yn brofiad llawn adrenalin drwy ddŵr brochus y llanw a thonnau mawr. Os yw’n well gennych hamddena’n fwy araf, gallwch fwynhau rhwyfo’n ymlaciol ar hyd yr arfordir gan fwynhau’r golygfeydd sy’n gyforiog o fywyd gwyllt. 

Caiacio yn y môr

Sir Benfro, Gorllewin Cymru

Arfordir troellog a bywyd gwyllt prin – ewch mewn caiac yn Sir Benfro, a byddwch yn sicr o gael hwyl. Efallai y gwelwch loi bach morloi tua diwedd mis Awst hyd yn oed. I’r caiaciwr mwy profiadol, mae’r mannau gorau’n cynnwys mynd o Abereiddi i Abercastell ac archwilio’r môr o gwmpas Ynys Dewi. Mae Penrhyn Sant Gofan hefyd yn lle heriol, ond hardd, i rwyfo.

Ynys Dewi, Sir Benfro.
Ynys Dewi, Sir Benfro.
Ynys Dewi, Sir Benfro.

Caiacio yn y môr o gwmpas Ynys Dewi, Sir Benfro

Gall rhwyfwyr â sgiliau canolig a dechreuwyr hyderus fynd ar deithiau hirach, tawelach o archwilio’r cildraethau a’r pyllau bach o gwmpas gogoniant yr arfordir hwn, gyda neb ond ambell forlo a llamhidydd yn gwmni. I rwyfo mewn lle cysgodol, rhowch gynnig ar fynd o Borth-clais i Neigwl.

Os ydych chi’n rhwyfo ar y môr, ein cyngor ni fyddai mynd gyda thywysydd profiadol, yn enwedig os ydych chi’n mentro dipyn o’r lan. Rydych chi’n llawer mwy tebygol o weld amrywiaeth ehangach o fywyd gwyllt fel hyn hefyd.

Chwilio am weithgareddau caiac a chanŵ yn Sir Benfro

Tyddewi, Sir Benfro.
Canŵ gyda dau rwyfwr mewn porthladd.

Porthladd Porth-clais, Sir Benfro

Ceredigion, Canolbarth Cymru

Mae dyfroedd cysgodol aber afon Teifi yn Aberteifi’n ddelfrydol ar gyfer mynd am dro bach hamddenol mewn canŵ neu gaiac, a gallwch eu llogi yn y dref. Mae Bae Ceredigion i’r gogledd o Aberteifi ychydig yn fwy gwyllt, a byddai’n well i chi fynd gyda thywysydd. Un llwybr braf yw mynd o draeth Llangrannog tua’r gogledd i Gwmtydu. Gallwch fynd mewn i gildraethau cudd ar hyd y ffordd i nofio, edrych am adar y môr yn plymio oddi ar y clogwyni a chael tamaid i’w fwyta yn un o gaffis y traeth yng Nghwmtydu.

Chwilio am weithgareddau caiac a chanŵ ger Aberteifi

Aber afon Teifi gan edrych dros bentref i gyfeiriad y môr.

Gwbert ac aber afon Teifi, Ceredigion

Caiacio ar lynnoedd

Does fawr ddim mor braf â rhwyfo canŵ’n hamddenol ar lyn llonydd. Heb yr un cerrynt i’ch pryderu, gallwch eistedd yn ôl ac ymlacio – gan fwynhau ennyd o lonydd hyfryd.

Eryri, Gogledd Cymru

Mae cyfoeth o ddewis yn Eryri. Ar Lyn Padarn, ger Llanberis, gallwch rwyfo islaw creigiau serth yr hen chwareli llechi wrth i drenau stêm rheilffordd llyn Llanberis ymlwybro wrth eich ochr. Mae golygfeydd Llyn Gwynant, gan edrych i fyny i gyfeiriad yr Wyddfa, yn syfrdanol, ac mae gan y llyn ei hudoliaeth arbennig ei hun. A Llyn Tegid, ger y Bala, yw un o lynnoedd naturiol mwyaf Cymru, ac mae’n boblogaidd gyda hwylfyrddwyr a rhwyf-fyrddwyr hefyd. Mae’r tri lleoliad yn cynnig cyfleusterau llogi caiac, ynghyd â hyfforddwyr hefyd.

Chwilio am weithgareddau caiac a chanŵ yn Eryri

Edrych dros lyn sy’n llechu rhwng bryniau coediog.
Llyn Tegid yn adlewyrchiadau arian.

Llyn Gwynant, Eryri a Llyn Tegid, Y Bala

Bannau Brycheiniog, Canolbarth Cymru

Rhowch gynnig ar Lyn Syfaddan – yn ôl y chwedl, mae dinas wedi boddi o dan y llyn mawr hwn yn y Bannau. Nid y bydd angen i chi boeni am hynny, am fod y golygfeydd uwchlaw’r dŵr mor fendigedig! Cadwch lygad am bob math o adar dŵr diddorol wrth i chi rwyfo. Gallwch logi rhwyf-fyrddau sefyll, caiacs, canŵau Canada a phedalos oddi wrth Llangorse Lake Boat Hire.

Caiacio ar y gamlas

Ochr yn ochr â phob math o fywyd gwyllt ac adar, mae rhwyfo ar hyd un o’n camlesi’n datgelu cipolwg hynod ddiddorol ar ddoniau peirianneg oes Fictoria.

Camlas Llangollen, Gogledd Cymru

Gerllaw tref ddeniadol Llangollen, gallwch ddarganfod darnau o dreftadaeth ddiwydiannol fwyaf syfrdanol Cymru wrth i chi rwyfo canŵ Canada agored. Mae’n cymryd diwrnod cyfan i rwyfo rhyw wyth milltir drwy gefn gwlad amaethyddol, gan fynd yn hamddenol heibio planhigion dŵr, chwilod sy’n plymio i’r dyfroedd, a glas y dorlan. Fel rhan o’r daith, cewch rwyfo ar draws Dyfrbont Pontcysyllte, y Safle Treftadaeth y Byd anhygoel fry uwchlaw yr Afon Dyfrdwy (peidiwch ag edrych i lawr!) a thrwy ddau dwnnel brics arswydus.

Chwilio am weithgareddau caiac a chanŵ ger Llangollen

Cwch camlas yn mynd dros Draphont Ddŵr Pontcysyllte.

Dyfrbont Pontcysyllte

Camlas Aberhonddu a Sir Fynwy

Mae camlas gysgodol Aberhonddu a Sir Fynwy’n cychwyn o dref hyfryd Aberhonddu draw i Ddyffryn Wysg. Mae gennych dros 30 milltir i’w darganfod, ac mae’r rhan fwyaf yn ddi-fflodiart. Gallwch ddisgwyl golygfeydd bendigedig yn y Parc Cenedlaethol, hufen iâ mewn pentrefi tlws a digonedd o hwyaid cyfeillgar. Mae sawl lle ar hyd glannau’r gamlas ble gallwch logi caiac a chanŵ gan gynnwys Aberhonddu, Llangatwg a Glanfa Goetre.

Cychod ar y gamlas wedi'i hangori o dan goeden gyda phont yn y cefndir.
Golygfeydd o fynydd o fad cul.

Dyfroedd heddychlon camlas Aberhonddu a Sir Fynwy

Caiacio ar afonydd

I weld rhai o olygfeydd gorau Cymru o ongl wahanol, ystyriwch fynd ar daith ar hyd ein hafonydd dolennog. Gallwch fwynhau diwrnod ar y dŵr a darganfod dolydd a choedwigoedd na fyddai’r un llwybr troed byth yn ei ddatgelu. Wrth gwrs, mae nifer o dafarndai da ar lan sawl afon i dorri syched. 

Afon Gwy, De Cymru

Mae ochr orau un o hoff afonydd Cymru i'w gweld o ganŵ. Ewch i lan yr Afon Gwy a llogi offer yng Nghlas-ar-Wy. Wedyn gallwch deithio’n hamddenol i lawr yr afon, heibio adar y dŵr a thros ambell ddarn o ddŵr gwyn i gael cinio a chip drwy siopau llyfrau dirifedi’r Gelli Gandryll. Neu beth am fynd dros nos? Bydd rhai darparwyr yn cynnig anturiaethau aml-ddiwrnod, fydd yn mynd â chi i ddarnau o’r afon nad yw rhwyfwyr eraill fel arfer yn eu gweld. Efallai y croeswch chi’r ffin â Lloegr a chyrraedd Symond’s Yat, a hyd yn oed rwyfo heibio i olion dirgel Abaty Tyndyrn

Chwilio ble i logi caiac a chanŵ ar hyd Afon Gwy

Adeilad gwyn wrth ochr yr afon Gwy
Dau ganŵ ar Afon Gwy.

Afon Gwy

Afon Teifi, Canolbarth Cymru

I gael profiad rhwyfo hudolus gyda’r teulu, ewch ar yr Afon Teifi. Dechreuwch yn y dyffrynnoedd coediog, cysgodol, a chwiliwch am ambell ddyfrgi, crëyr, bwncath a barcud, wedyn ewch ling-di-long nes cyrraedd y môr ger Aberteifi. Ar eich taith, byddwch yn arnofio heibio i Gastell Cilgerran, drwy geunant ac yna drwy wlyptiroedd ble mae’r byffalo dŵr yn pori. Mae tafarn gyfleus yn Llandudoch, sy’n berffaith ar gyfer cinio neu goffi. Y gamp yw dechrau ychydig cyn y penllanw, ac wedyn prin y bydd angen i chi rwyfo o gwbl.

Darllen mwy: Afonydd a dyfrffyrdd bendigedig Cymru

Llun o adfeilion castell
Llun o bedwar person yn canŵio

Castell Cilgerran ac Afon Teifi, Ceredigion

Cadwch yn ddiogel!

Mae darganfod yr awyr agored yn llawer iawn o hwyl, ac mae’n gyfle gwych i wneud gweithgareddau anturus, ond cofiwch ddarllen am y peryglon, a gwnewch yn siŵr eich bod wedi paratoi o flaen llaw.

Straeon cysylltiedig