Llwybr y Bencampwriaeth: Cyrsiau o ansawdd ac anturiaethau arfordirol

Chwarae

Dilynwch yn ôl troed y mawrion gyda rownd yng Nghlwb Golff Brenhinol Porthcawl. Dyma'r cwrs y gwnaeth Tom Watson, a enillodd y bencampwriaeth Agored bump o weithiau, ‘syrthio mewn cariad ag ef' o’r cychwyn cyntaf, tra bod Fred Couples, Is-gapten Cwpan Ryder yr Unol Daleithiau sydd wedi ennill y Daith PGA sawl gwaith, yn ei ddisgrifio fel un 'cwbl ryfeddol'. Peidiwch â disgwyl y bydd pethau’n hawdd. Mae hwn yn lle sy'n gwobrwyo cywirdeb a phŵer, gyda llinellau troellog a grîns cyflym, a haen ychwanegol o her pan ddaw’r gwyntoedd annisgwyl o’r môr. Mae'r ail dwll yn esiampl berffaith, lle mae angen taro’r bêl yn hyderus a chywir i gyrraedd grîn sydd â thir gwyllt bygythiol o’i gwmpas.

Dyn yn taro'r bêl ar grîn sy’n edrych dros yr arfordir.
Dyn yn taro pêl golff mewn byncer tywodlyd.
Dau ddyn yn sefyll wrth far mewn clwb golff gyda phaneli tywyll.

Y Twll Cyntaf a’r Clwb yng Nghlwb Golff Brenhinol Porthcawl, Gorllewin Cymru

Oddi ar y cwrs

Mae llawer o bethau i rai sy’n mwynhau’r awyr agored a byd natur eu gweld a'u gwneud yn y rhan yma o Gymru. Ewch am y môr yn Rest Bay am beth o syrffio gorau'r DU, neu crwydrwch eangderau tywodlyd Gwarchodfa Natur Merthyr Mawr - cartref y twyni ail dalaf yn Ewrop. Am anturiaethau trefol, ewch ar y daith fer ar hyd yr arfordir i Abertawe, y ddinas ger y môr. Ewch i Amgueddfa Genedlaethol y Glannau i ddysgu am ein treftadaeth ddiwydiannol a morwrol, i weld cartref plentyndod yr awdur enwog Dylan Thomas ac ymlaciwch yn y bariau, y caffis a'r bwytai o gwmpas y marina bywiog. Gallwch hefyd gael blas ar wisgi Cymreig bendigedig gyda thaith o amgylch atyniad newydd Distyllfa Gwaith Copr Penderyn Abertawe.

Aros

Arhoswch yng Ngwesty a Sba Heronston Best Western ym Mhen-y-bont ar Ogwr sy'n agos at y cwrs – yn ogystal â sawna, ystafell stêm a phwll. Fel arall, mwynhewch ychydig o swyn tŷ gwledig yng Ngwesty Tŷ Gwledig Coed-y-Mwstwr. Yn swatio mewn llecyn deiliog, mae'r faenor Fictoraidd hon yn gyfuniad deniadol o steil hen ffasiwn a dyluniad cyfoes. I aros ar lan y môr, beth am The Oyster House yn y Mwmbwls? Mae'r gwesty bwtîc trawiadol hwn yn llawn cyffyrddiadau anarferol – yn ogystal â theras hyfryd ar y to gyda golygfeydd trawiadol o’r môr.

Rownd arall?

A beth am ymestyn eich llwybr golff drwy chwarae yn un (neu bob un) o bedwar cwrs y Bencampwriaeth Agored Hŷn - Machynys, Ashburnham, Pîl a Chynffig a Southerndown. Yn llawn o beryglon dŵr heriol, Machynys yw'r unig gwrs yng Nghymru sydd wedi’i ddylunio gan Nicklaus ac Ashburnham yw un o'r cyrsiau Pencampwriaeth Lincs gorau ym Mhrydain. Mae gan gwrs Pîl a Chynffig ddau ran cwbl wahanol, gyda naw twll o rostir garw a naw yn y twyni, tra bo cwrs lincs Southerndown yng nghanol yr eithin wedi cael ei ddisgrifio fel 'clasur tragwyddol' gan gylchgrawn Golf Monthly.

Golffwraig yn taro’r bêl ar gwrs golff yng nghanol twyni glaswelltog.

Cwrs Golff Pîl a Chynffig, Pen-y-bont ar Ogwr, De Cymru

Y Gorllewin sy'n mynd â hi: Grîns gogoneddus a threfi trendi

Chwarae

Ger y lli ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro, mae’n werth ymweld yn unswydd â Chwrs Golff Trefdraeth ar gyfer ei olygfeydd godidog o'r môr. Ond peidiwch â gadael iddyn nhw dynnu’ch sylw’n ormodol – bydd angen canolbwyntio’n llwyr er mwyn cwblhau rownd gyda sgôr barchus. Cafodd naw twll gwreiddiol y cwrs eu creu yn y 1920au gan un o gewri’r penseiri golff, James Braid (sydd hefyd yn gyfrifol am gyrsiau lincs fel Carnoustie a Gleneagles), cyn ychwanegu naw twll arall yn ddiweddarach. Gwyliwch am y 15fed twll par-tri, sy’n cael ei chwarae dros dwyni i grîn bach uwchlaw. Yn ôl cylchgrawn Today’s Golfer, hwn yw un o’r 10 twll anoddaf yn y DU.

Golygfa o'r awyr dros gwrs golff wrth ymyl traeth tywodlyd.

Clwb Golff Trefdraeth, Traeth Mawr, Sir Benfro, Gorllewin Cymru

Oddi ar y cwrs

Y gylchdaith gerdded o amgylch Pen Dinas ychydig filltiroedd i'r gorllewin o Drefdraeth yw un o uchafbwyntiau ein 870 milltir o Lwybr Arfordir Cymru. Byddwch yn dringo rhai mannau serth wrth grwydro’r llwybr ar hyd y clogwyn, ond eich gwobr fydd rhai o'r golygfeydd gorau yn Sir Benfro. Cymerwch amser i fynd am dro yn Nhrefdraeth, pentref bach tawel ar un adeg sydd bellach yn un o gyrchfannau mwyaf ffasiynol Cymru. Mae’n gartref i fwytai anarferol fel Pwnc (sy’n cynnig coffi blasus a wal ddringo ar y safle) a thrysorfa hudolus Canolfan Carningli o hen bethau a llyfrau. Mae pethau'r un mor anghyffredin yn Aberteifi, lle gwelwch strydoedd hanesyddol a chastell wedi'i adnewyddu ochr yn ochr â siopau bwtîc a bwytai unigryw. Mwynhewch fwyd mor y Canoldir gyda ryw dro Cymreig yn Belotti’s, neu ddanteithion wedi'u pobi â llaw yn Bara Menyn.

Aros

Mwynhewch foethusrwydd Llys Meddyg yn Nhrefdraeth. Mae'r tŷ tref Sioraidd hwn yn cynnig ystafelloedd chwaethus a bwyty gwobredig, sy’n canolbwyntio ar gynnyrch tymhorol gorau Sir Benfro. Mae golygfeydd hyfryd o’r môr yng Ngwesty a Sba’r Cliff ger Aberteifi, sy'n eistedd wrth geg aber Afon Teifi. Fel arall, arhoswch yn agos at hanes yn un o'r ystafelloedd hunanarlwyo neu wely a brecwast yng Nghastell Aberteifi ar ei newydd wedd.

Rownd arall?

Mae’r chwarae’n aruchel yng Nghlwb Golff Aberteifi, sy’n mewn llecyn fry uwchben y bae. Cymharodd yr awdur chwaraeon o'r Unol Daleithiau, Furman Bisher, y golygfeydd yma â'r rhai yn Pebble Beach. Yr unfed twll ar bymtheg par-tri yw’r gorau ohonyn nhw i gyd, gyda’i grîn tonnog yn cael ei fframio gan ddyfroedd glas Bae Ceredigion. Neu croeswch draw i ochr ddeheuol Sir Benfro am rownd yn Ninbych-y-pysgod. Y cwrs golff lincs yma, a ddyluniwyd gan James Braid, yw'r cwrs hynaf yng Nghymru.

Glannau'r Gogledd: Cyrsiau glan môr gwych a chestyll mawreddog

Chwarae

Ar ôl dechrau ei oes fel rhyw gasgliad bras o dyllau a grëwyd gan amaturiaid brwd ym 1869, bellach mae Clwb Golff Conwy yn gwrs golff lincs pencampwriaeth gyda phedigri proffesiynol go iawn. Ymhlith ei restr hir o ddigwyddiadau pwysig, y clwb hwn oedd y cwrs cyntaf (a'r unig un) yng Nghymru i gynnal y rownd gymhwyso derfynol ar gyfer y Bencampwriaeth Agored yn 2006 ac yn fwy diweddar hwn oedd lleoliad Cwpan Curtis 2021. Mae’n anodd dewis uchafbwynt, ond gwyliwch yr ail dwll par-tri gyda'i grîn ar lethr, yng nghanol y bynceri tywod. Hefyd y seithfed twll par-pedwar, sy'n glynu at yr arfodir ac yn cynnig golygfeydd ysblennydd o'r Gogarth wrth i chi wneud eich ffordd tuag at y grîn bowlen bwnsh.

Grŵp o bobl yn chwarae golff ar gwrs golff arfordirol.
Pobl yn chwarae golff ar gwrs golff arfordirol.

Clwb Golff Conwy, Gogledd Cymru

Oddi ar y cwrs

Byddwch yn rhan o hanes go iawn wrth i chi grwydro’n cestyll sy’n Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO (ym Miwmares, Caernarfon, Conwy a Harlech). Mae'n amser arbennig o dda i ymweld â Chaernarfon, gan fod gwaith adnewyddu diweddar yn agor y rhannau uchaf o'i ragfuriau anferthol i ymwelwyr am y tro cyntaf. Mae yna hyd yn oed lifft i fynd â chi yna (fu hi erioed mor hawdd ymosod ar gastell). Teithiwch o gwmpas mannau bwyd a diod gwych Gogledd Cymru. Dewiswch o blith yr anhygoel Jackdaw, sy'n gweini creadigaethau gastronomig arloesol o fewn muriau hynafol Conwy, bwydlenni blasu tymhorol hyfryd Sheeps and Leeks yng Nghaernarfon a bwyd môr ffres ar yr arfordir yn Dylan's ym Mhorthaethwy. Os ydych chi'n chwilio am fwy o gyffro, beth am daclo via ferrata yn y to, rhaffau uchel a chwrs ninja ym Mharc Antur Eryri, neu mwynhewch don o adrenalin yn un o atyniadau gweithgaredd Zip World yng Ngogledd Cymru.

Aros

Gorffwyswch am y nos yn Y Capel yng Nghonwy. Mae'r hen gapel hwn sydd wedi’i droi’n llety bwtîc o fewn muriau canoloesol y dref ac yn llawn nodweddion unigryw (gan gynnwys yr hen bwll bedyddio sydd i’w weld drwy'r llawr). Gallwch hefyd gysgu o fewn muriau Caernarfon yn Nhafarn y Black Boy, tafarn blith draphlith sydd â’i gwreiddiau’n ymestyn yn ôl i'r 16eg ganrif.

Rownd arall?

Mae Clwb Golff Caernarfon yn cyfuno cwrs lincs glan môr a golff parcdir o'r radd flaenaf. Ymhlith yr uchafbwyntiau mae'r 14eg twll par-pedwar, sy’n cael ei chwarae tuag at fyncer tywod bach, cysgodol uwchlaw Afon Menai. Fel arall, mentrwch i Glwb Golff Porth Llechog yn Ynys Môn. Dyma'r cwrs mwyaf gogleddol yng Nghymru ac fe'i disgrifiwyd gan enillydd Cwpan Ryder, Jamie Donaldson, fel 'un sy’n rhaid ei chwarae'.

Straeon cysylltiedig