Er bod golff yn rhan fawr o'i magwraeth, ac er iddi ddarlledu o Gwpan Ryder 2010 a chyflwyno Golffio ar S4C, mae Llinos yn chwaraewr di-brofiad. Ar y llaw arall mae Chris wedi treulio amser fel golffiwr proffesiynol ar yr European Long Drive Tour, ac mae i’w weld yn rheolaidd yn ei glwb lleol, Caernarfon. Dyma rai o uchafbwyntiau eu taith golff gourmet.

Golff a gastronomeg yng Ngogledd Cymru gyda Llinos Lee a Chris Roberts

Paid â bod ofn rhoi cynnig arni

Llinos. Mi wnes i weithio ar ddigwyddiad yng Nghlwb Golff Brenhinol Dewi Sant yn Harlech ar gyfer Golffio, felly roeddwn i wedi gweld pa mor heriol y gallai fod, hyd yn oed i’r rhai proffesiynol. Pan glywais ein bod yn chwarae yno, roeddwn yn eithaf nerfus i ddechrau, ond gyda Chris yno’n gefn i mi, roedd yn iawn ar ôl i ni ddechrau. Does dim ots os nad chi yw'r chwaraewr gorau. Os ydych chi’n mwynhau golff, gallwch chi chwarae mewn unrhyw le.

Chris. Mi wnaeth Llinos fwynhau ei hun yn arw. Roedd yn braf cael rhoi cyngor iddi a’i gweld yn smashio fo.

Llinos. Ar y dechrau roedd chwarae gyda Chris yn frawychus oherwydd mae'n gallu taro’r bêl yna mor bell. Rydw i wedi cael ychydig o wersi yn y gorffennol ac roeddwn i'n eithaf rhydlyd, ond ar ôl ychydig funudau gyda Chris fe gywirodd fy swing ac roeddwn i'n eu taro'n syth am unwaith. Fe gawsom amser mor dda!

Dau golffiwr yn sgwrsio ar gwrs golff o dan gastell enfawr.

Llinos a Chris, Clwb Golff Brenhinol Dewi Sant, Harlech

Mae golff yn fwy na gêm 

Chris. Does dim rhaid i chi fod yn dda mewn golff i gael amser gwych yn chwarae’r cyrsiau yma yng Ngogledd Cymru. Mae’r cyrsiau gwnaethom ni chwarae arnyn nhw yn Nefyn, Conwy a Harlech yn wych, gyda’r arfordir, cestyll a mynyddoedd yn gefndir anhygoel. Hyd yn oed os nad ydych chi mor dda â hynny, gallwch chi fynd am dro ac anadlu gwynt y môr. 

Llinos. Dyna'r peth am golff. Er ei fod yn gamp mor anodd, mae’n gallu bod mor ymlaciol hefyd. Rydych yn cael sgwrs dda, mwynhau'r awyr iach a gwerthfawrogi’r holl olygfeydd hardd. Mae’r cyrsiau y buon ni’n chwarae arnyn nhw mor drawiadol, fe fyddech chi’n cael amser gwych hyd yn oed pe baech chi ddim ond yn mynd am dro o’u cwmpas.

Dau golffiwr ar gwrs arfordirol.
Person yn paratoi i roi pêl golff mewn twll ar gwrs golff arfordirol.

Chris a Llinos yn chwarae yng Nghlwb Golff Conwy, a chwaraewyr yng Nghlwb Golff Nefyn, Pen Llŷn  

Mae llawer i’w fwynhau hefyd i'r rhai sydd ddim yn golffwyr

Chris. Mae digon o bethau i'r rhai sydd ddim yn golffwyr eu gwneud hefyd. Mae yna fynyddoedd a digonedd o arfordir i gyd o fewn tafliad carreg i'w gilydd. Dw i’n byw ar yr arfordir yng Nghaernarfon ond dim ond munudau ydw i o fynyddoedd Eryri.

Llinos. Os oes yna rywun yn eich criw sydd ddim eisiau chwarae golff, mae llawer mwy o bethau y gallant eu gwneud yma, boed hynny’n daith i’r traeth, crwydro'r trefi a’r pentrefi cyfagos neu ymlacio yn y clwb. Mae rhywbeth yma at ddant pawb, p’un a ydych yn golffiwr brwd ai peidio.

Dyn yn taro pêl aur ar gwrs golff gyda chastell a mynyddoedd yn y cefndir.

Clwb Golff Brenhinol Dewi Sant, Harlech

Mae bwyd da a chynnyrch gwych ar gael ym mhobman 

Chris. Roedd bwyta yn The Jackdaw yng Nghonwy yn ffantastig. Mae enw’r bwyty yn dod o’r llysenw ar gyfer pobl Conwy sy’n cael eu geni o fewn muriau’r castell. Mae Nick Rudge yn gogydd mor anhygoel ac mae ganddo dîm gwych. Cafodd ei fagu yn Llandudno ac mi weithiodd am flynyddoedd efo Heston Blumenthal, felly mae’n grêt ei fod yn ôl yma yng Ngogledd Cymru yn creu’r prydau eithriadol yma drwy ddefnyddio cynhwysion o’r ardal. Dim coginio yn unig yw hyn, ond dathlu cynnyrch lleol.

Llinos. Roedd ein pryd o fwyd yn The Jackdaw yng Nghonwy wir yn rhagorol. Dydw i ddim yn meddwl fy mod i erioed wedi bwyta dim byd tebyg iddo. Mae Chris yn caru bwyd. Mi ddysgais i lawer ganddo yn ystod y prydau bwyd. Mae'n gwybod cymaint am fwyd fel ei fod yn gwneud i chi ei werthfawrogi'n llawer mwy.

Chris. Mae sîn fwyd Cymru ar i fyny. Mae yna gymaint o gynhyrchwyr da. Mi wnaethom ni hefyd fynd i’r Groser yn Harlech, deli sy’n llawn bwyd blasus gan gynhyrchwyr a chyflenwyr Cymreig. Mae gennym ni rai o’r cynnyrch gorau yn y byd yma yng Nghymru. Rydw i wedi bod yn tynnu sylw at hyn ers blynyddoedd, felly mae’n dda gweld pobl leol ac ymwelwyr yn ei fwynhau.

Dau berson mewn bwyty yn cael potel o win gan y gweinydd.
Person yn arllwys cawl ar ddysgl bysgod mewn powlen.
Powlen fach bren gyda chiwbiau o gig a llysiau.

Llinos a Chris yn mwynhau pryd o fwyd yn The Jackdaw, Conwy

Mae profiadau a llefydd unigryw ar garreg ein drws

Llinos. Pan chi'n byw yng Nghymru, rydych chi weithiau'n anghofio am yr holl lefydd rhyfeddol sydd ar garreg eich drws. Mi gawson ni bicnic yng Nghastell Harlech a stopio am ddiod yn nhafarn anhygoel Tŷ Coch yn Nefyn. Roedd y daith yma yn ein hatgoffa cymaint sydd i’w weld a’i fwynhau yma.

Chris. Mae Tŷ Coch yn Nefyn yn ffantastig. Dydw i ddim yn gwybod am unrhyw dafarn arall yn y byd sydd â golygfa fel yna.

Llinos. Nid y dirwedd yn unig sy’n gwneud Cymru mor arbennig, ond hefyd ein diwylliant a’n hiaith unigryw. Rydyn ni mor falch o ble rydyn ni'n dod ac rydyn ni am ei ddangos i weddill y byd.

Dau berson yn cael diod ar fainc ar draeth.
Golygfa o gildraeth creigiog ar arfordir gydag adeiladau yn y cefndir.

Llinos a Chris yn nhafarn Tŷ Coch, Porthdinllaen, Pen Llŷn 

Mwy o wybodaeth

Golff

Aeth Llinos a Chris i chwarae yng Nghonwy, Cwrs Golff Brenhinol Dewi Sant a Nefyn, ond cewch eich difetha gyda’r dewis o gyrsiau rhagorol sydd yn y rhan hon o Gymru. Dewiswch o blith llefydd fel Maesdu a Gogledd Cymru (y ddau yn Llandudno), Caernarfon, Porthmadog, Pwllheli a Phorth Llechog ar Ynys Môn – y clwb mwyaf gogleddol yng Nghymru.

Bwyd

Cafodd Chris a Llinos flas ar fwyd cain The Jackdaw yng Nghonwy, casglu’r picnic perffaith o’r Groser yn Harlech a mwynhau diod yn Nhafarn y Tŷ Coch ym Mhorthdinllaen. Mae yna fwyd a diod bendigedig ym mhobman. Rhowch gynnig ar gregyn gleision Conwy wedi’u tynnu’n ffres o ddyfroedd Gogledd Cymru, bwytewch i mewn neu ewch â bwyd i fynd o fwytai a delis Dylan’s (yng Nghricieth, Llandudno a Phorthaethwy), a dewiswch o blith y cynnyrch lleol gorau ym Mwyd Cymru Bodnant ger Bae Colwyn.

Arddangosfa o basteiod mewn siop.
Y tu allan i siop groser wedi'i hadeiladu o gerrig.

Y Groser, Harlech

Oddi ar y cwrs

Mae Castell Harlech yn un o bedwarawd o gaerau canoloesol yng Ngogledd Cymru – ynghyd â Chonwy, Caernarfon a Biwmares – sydd i gyd yn ffurfio Safle Treftadaeth y Byd UNESCO. Mae Gogledd Cymru hefyd yn gartref i rai o draethau gorau’r DU – gan gynnwys traethau Harlech, Porth Iago, a glan môr caregog Llandudno (ynghyd â phier Fictoraidd llawn hwyl).

Straeon cysylltiedig