Gydag amrywiaeth eang o opsiynau, o gerdded mynyddoedd at lynnoedd rhewlifol, i grwydro coetiroedd heibio rhaeadrau, a dilyn llwybrau ar hyd clogwyni i faeau cudd, mae de Cymru yn lleoliad delfrydol ar gyfer llwybrau cerdded a throchi.

Nia Knott ydw i, tywysydd cymwys gyda fy nghwmni fy hun Wild Trails Wales. Mae'r llwybrau canlynol yn ddetholiad o'r rhai yn fy arweinlyfr. Mae eich diogelwch yn hollbwysig ac mae mynd mewn grŵp yn llawer mwy o hwyl! Rwy’n brofiadol iawn, felly gadewch i mi eich tywys ar rai o fy hoff deithiau cerdded a throchi.

Trwyn yr As a’r As Fawr, Arfordir Treftadaeth Morgannwg

Rwy’n ddigon ffodus i fyw ar Arfordir Treftadaeth Morgannwg ac felly rwy’n treulio llawer o amser ar deithiau cerdded nofio gwyllt yma; mae hi’n ardal hyfryd sydd â thraethau llanw enfawr a milltiroedd o lwybrau arfordirol a chefn gwlad.

Mae un o fy hoff deithiau cerdded yn dechrau yng ngoleudy Trwyn yr As. Er ei fod yn lle gwych i chwarae yn y tonnau pan fo’r llanw ar drai, nid yw’n lle da i nofio ar benllanw oherwydd erydiad anwastad y gwely craig. O'r bae, mae'r llwybr yn troi i mewn tua’r tir trwy ddyffryn coediog diarffordd, yna trwy gaeau ac i lawr lôn wledig dawel cyn troi yn ôl tuag at yr arfordir, gan fynd heibio i adfeilion sy'n gysylltiedig â maenor fynachaidd o'r cyfnod canoloesol cynnar. Mae’r llwybr trwy ddyffryn arall sy’n arwain at y môr yn un i’w fwynhau, gyda’r coed yn ffurfio bwa o’ch cwmpas, nes i chi ddod allan i sŵn y tonnau. Mae'r dŵr yn fan hyn yn debyg i'r dŵr yn Nhrwyn yr As, ar ei orau pan fo’r llanw ar drai, gyda'r clogwyni uchel a'r traeth yn cael eu datgelu wrth i’r llanw fynd allan.

Yr hyn rwy’n ei garu am y lle hwn yw nad yw byth yn rhy brysur. Mae hyd yn oed llwybr yr arfordir yn dawel yma. Bydd yr hebog tramor a’r frân goesgoch yn nythu yn y clogwyni. Byddwch yn gweld y gylfinir a phioden y môr yn y dŵr ar hyd y glannau. Dilynwch lwybr yr arfordir yn ôl i Drwyn yr As sydd â golygfeydd dros y sianel tua Dyfnaint a'r ddau oleudy i’ch tywys yn ôl.

 Cefndir ymyl clogwyn
Edrych dros y bêls gwair
Nofwyr yn y môr

Arfordir Treftadaeth Morgannwg

Llyn y Fan Fawr, Bannau Brycheiniog

Ardal orllewinol a thawelach Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yw fy man cychwyn delfrydol pan fydda i eisiau lle i’r enaid gael llonydd. Wrth i chi gychwyn o’r lôn fechan sy’n ymdroelli drwy’r cwm mynyddig poblogaidd hwn, bydd copaon y Mynydd Du i’w gweld yn y pellter.

Mae'r rhostir eang yn ymestyn allan o'ch blaen, gan roi addewid o antur mynydd gwyllt. Dilynwch gyfres o raeadrau byrlymus; lle hyfryd i drochi ar ddiwrnod braf o haf, yr holl ffordd i fyny i Lyn y Fan Fawr. Byddwch yn mynd i mewn i’r llyn ar lethr ysgafn, ac mae’n aros yn fas am gryn bellter, felly byddai'n rhaid i chi fynd yn eithaf pell i fynd allan o'ch dyfnder. Gall fod yn agored i’r elfennau yma, felly bydda i bob amser yn pacio digon o ddillad cynnes ac yn newid yn gyflym ar ôl nofio. Mae'r llwybr, yn aml, yn anodd ei weld ar y tir corsiog, felly mae sgiliau cyfeiriadu’n bwysig. Bydd y llwybr wedyn yn dychwelyd i lawr yr allt o’r llyn heibio cyfres arall o raeadrau, at gylch cerrig cynhanesyddol Cerrig Duon a maen hir Maen Mawr, cyn cyrraedd yn ôl i’r man cychwyn.

Nant ym Mannau Brycheiniog

Bannau Brycheiniog

Llangynidr, Dyffryn Wysg

Saif pentref Llangynidr yn y ‘bwlch’ rhwng y Mynydd Du i’r gogledd, a’r Bannau Canolog i’r gorllewin, ar waelod rhostir Mynydd Llangatwg a Mynydd Llangynidr. Mae afon Wysg yn naddu trwy'r dyffryn, ar ôl ei thaith i'r dwyrain o Aberhonddu a thu hwnt, o'i tharddiad ar waelod y Mynydd Du.

Mae fy nhaith yma yn cychwyn o'r maes parcio / safle bws ar ffordd Tal-y-bont i Grucywel. Mae llwybr y gamlas yn cynnig taith hamddenol, ond yn bendant dim nofio! Mae'r llwybr yn disgyn trwy gaeau i lawr at yr afon, ac ar hyd ei glannau, at bwll nofio syfrdanol o hardd islaw rhaeadr. Gallwn i’n hawdd dreulio awr neu ddwy yn fan hyn, yn nofio, wedyn sychu ar y creigiau, cael picnic hamddenol a gwylio adar. Wrth barhau ar hyd llwybr glan yr afon mae rhagor o lefydd i drochi yn yr afon cyn i'r daith gylchu yn ôl i'r pentref.

Camlas wrth ymyl llwybr cyhoeddus

Camlas Aberhonddu, Llangynidr

Penallt, Dyffryn Gwy

Cyfeirir yn aml at Ddyffryn Gwy fel man geni twristiaeth olygfaol Prydain, diolch i’w rinweddau ‘darluniadwy’. Mae’n cynnig mannau padlo gwych ar ei hyd 130 milltir, ond Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Dyffryn Gwy isaf yw fy hoff le i fynd am dro gwyllt.

Mae'r daith yn dechrau’n gyffrous, wrth i chi groesi traphont haearn fawr a adeiladwyd yn 1876. Yna bydd taith serth yn mynd â chi i fyny at Hen Eglwys Penallt gyda’i phorth mynwent draddodiadol a rhodfa o goed pisgwydd. Ewch i lawr at yr afon ar drac drwy'r coetir.

Golygfa o’r draphont haearn
Teulu’n cerdded tuag at y llwybr ger hen eglwys Penallt

Dyffryn Gwy

Mae hwn yn llwybr gwirioneddol wych i deuluoedd; es i â thair cenhedlaeth o fy nheulu, o 4 oed i 64 oed ar hyd y daith hon, heb fawr ddim protestio am y rhiw serth ar y dechrau.

Pen Pych, Y Rhondda

Rydw i wedi fy swyno gan Gymoedd De Cymru. Nid yn unig am eu rôl hollbwysig yn hanes diwydiannol modern Cymru, ond am y ffordd mae byd natur yn adennill y tirweddau a fu unwaith yn gartref i aneddiadau diwydiannol aruthrol, pyllau glo a gweithfeydd haearn.

Ar fy nhaith Pen Pych, sydd ar flaen Cwm Rhondda, byddwch yn darganfod ochr wyllt y cymoedd; rhaeadrau yn byrlymu dros sgarpiau creigiog a llethrau coediog. O Flaencwm, mae’r llwybr yn dringo’n serth gan ddilyn Nant y Gwair at bwll bach ag argae cored wedi’i amgylchynu gan goetir. Ar ôl un ddringfa arall, byddwch yn cyrraedd copa Pen Pych lle cewch olygfeydd rhyfeddol dros Flaenrhondda a Threorci. Ymlaen â chi at raeadr Nant Melyn, sy'n llifo i lawr y rhiw tuag at bwll argae sy'n eistedd yn daclus ym mhen uchaf y cwm. Mae'r dŵr yn fan yma’n lân ac yn ffres ond yn hynod o oer, felly mae angen dillad priodol. Efallai y gwelwch chi froga neu grëyr yma. Ar ddiwedd yr haf, bydd llus yn gorchuddio'r llethrau.

Gan ddilyn y cwm uwchben y gwastadeddau diffaith, a fu unwaith yn gartref i byllau glo Blaenrhondda a Fernhill, bydda i fel arfer yn cyrraedd yn ôl i’r pentref gyda bysedd wedi’u staenio’n borffor a llond bocs o aeron i’w rhoi yn y rhewgell.

 

Cerddwr ar daith gylchol Pen Pych

Pen Pych, Cwm Rhondda

De-orllewin Cymru

Mae cymaint o deithiau cerdded a nofio gwyllt gwych yn ardal Penrhyn Gŵyr – Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol sydd â moroedd glas pefriog a hanes hynod ddiddorol o gladdu defodol cynhanesyddol, llongddrylliadau a môr-ladron. Rydw i wrth fy modd â’r llwybr o amgylch pentir Oxwich oherwydd yr amrywiaeth o gynefinoedd a thirweddau sydd i’w gweld.

Mae fy nhaith gerdded bum milltir yn dechrau ym Mae Oxwich. Mae'r dŵr tawel yn donnau mân gwyrdd, yn adlewyrchu canopi'r coetir cyfagos. Ewch pan fo’r llanw’n uchel, gan ei fod yn mynd yn fwdlyd ac yn fas pan fydd y llanw allan. Dilynwch y llwybr heibio'r eglwys yn y goedwig; cewch glywed cân yr adar a gweld blodau gwyllt. Unwaith y byddwch allan o'r coetir, bydd y llwybr yn mynd â chi ar hyd arfordir creigiog i'r traeth llanw sy’n cael ei alw’n Slade yn lleol. Y llanw canolig i isel sydd orau yn fan hyn; bydda i wrth fy modd yn chwarae yn y tonnau ewynnog, gan fod yn ofalus o unrhyw greigiau o dan y dŵr a chofio bod yn ymwybodol o'r llwybr yn ôl oddi ar y traeth wrth i'r llanw ddod i mewn. Oddi yma mae'r llwybr yn dringo’n ôl tua’r tir trwy gaeau a heibio Castell Oxwich cyn dychwelyd i Fae Oxwich.

Tu allan i Gastell Oxwich.
heather on cliff, with beach in background.

Castell Oxwich, Penrhyn Gŵyr

Byddwch yn ddiogel!

Gallai nofio a cherdded, yn enwedig mewn ardaloedd deinamig heb eu rheoli, fod yn beryglus. Does dim achubwyr bywyd ym mhob un o'r lleoliadau yma ac mae pob un yn agored i beryglon dŵr a’r tywydd.

  • Defnyddiwch eich crebwyll eich hun bob amser cyn nofio.
  • Arhoswch o fewn eich terfynau a pheidiwch byth â neidio'n syth i mewn i ddŵr oherwydd gall hyn achosi sioc dŵr oer, neu anaf oherwydd dyfnder bas neu beryglon cudd.
  • Paciwch ddillad cynnes, ac esgidiau cryf.
  • Rhowch wybod i rywun ble rydych chi'n mynd a phryd rydych chi'n bwriadu dod yn ôl.

Ewch i Adventure Smart UK i gael canllawiau pellach a dilynwch y Cod Nofio Gwyllt.

Straeon cysylltiedig