Rydyn ni’n ennill gwobrau

Mae tipyn o chwyldro gwin yn digwydd yma yng Nghymru. Dros y degawd diwethaf, fwy neu lai, rydyn ni wir wedi dechrau ennill enw da am ansawdd ein gwin a’i flas rhagorol.

Mor bell yn ôl â 2012, cafodd gwin o Ystâd Ancre Hill yn Sir Fynwy, un o’r ychydig winllannoedd yn y DU oedd yn defnyddio dulliau ecolegol o dyfu’n fioddeinamig, ei enwebu fel gwin pefriog gorau’r byd yng Nghystadleuaeth Ryngwladol Bollicine del Mondo yn yr Eidal.

Ers hynny, mae’r gwobrau wedi parhau i ddod yn ddi-baid – hyd yn oed mor ddiweddar â mis Mai 2021, enillodd tair gwinllan o Gymru fedalau yn yr Her Win Ryngwladol nodedig. Enillodd Gwinllan Conwy fedal efydd am win gwin llonydd a phefriog; enillodd Gwinllan Maldwyn o Ganolbarth Cymru fedal efydd hefyd gyda gwin gwyn llonydd a gwin rosé pefriog ynghyd â medal arian am win gwyn pefriog.

Ac er na ystyrir ein rhan ni o’r byd fel cadarnle gwin coch, oherwydd ein hinsawdd fwy claear, enillodd Gwinllan White Castle fedal arian ac aur IWC yn ddiweddar yng Ngwobrau Gwin y Byd Decanter am un o’i winoedd coch hefyd! Mae White Castle hefyd yn cynhyrchu gwin cadarn blasus yn arddull port a enwyd yn 1581, ar ôl y sgubor rhestredig Gradd II Tuduraidd a leolir ar waelod y winllan.

Dyma adeg gyffrous i fod yn cynhyrchu gwin yng Nghymru, ac mae digon i edrych ymlaen ato!"

Teithiau gwinllannoedd yng Nghymru

Plannwyd y winllan fasnachol gyntaf honno yn y DU yn 1975 ger Castell Coch ar gyrion Caerdydd. Ychydig dros ganrif yn ddiweddarach, gwelir gwinllannoedd masnachol ledled y wlad. Mae nifer ar agor i’r cyhoedd – felly gallwch ymweld a blasu’r cynnyrch lleol drosoch eich hun. Byddai’n well archebu ymlaen llaw yn fy marn i, i osgoi cael eich siomi, am mai niferoedd bychain gaiff fynd ar deithiau, a gallan nhw lenwi’n gyflym.

Golygfa o'r grawnwin a'r gwesty yng Ngwinllan Llanerch.
Grŵp o ymwelwyr yn mynd ar daith o gwmpas Gwinllan Llanerch.

Ar daith o gwmpas gwinllannoedd Gwinllan Llanerch

Mae Sir Fynwy wedi bod yn arbennig o ran bwyd a diod erioed, felly does ryfedd fod sawl un i ddewis o’u plith yma. Yn ogystal â’r gwinllannoedd ym Mryn Ancre a’r White Castle, mae Gwinllan Parva Farm wedi cynhyrchu sawl gwin arobryn hefyd. Fe’i lleolir ar y llethrau sy’n edrych dros adfeilion Abaty Tyndyrn, un o’r lleoliadau hanesyddol mwyaf adnabyddus yng Nghymru.

Gallwch hefyd fynd ar daith o gwmpas 7,000 gwinwydd Gwinllan White Castle, a mwynhau platiau bwyd blasus ynghyd â’r gwinoedd coch, gwyn a rosé a gynhyrchir yma. Ychydig i’r gogledd, mae Gwinllan Penarth yn cynhyrchu gwin pefriog gwyn a phinc yn ogystal â brandi grawnwin cyntaf Cymru.

Mae gwinllannoedd ar gael ledled y wlad. Mae sawl un ar agor i’r cyhoedd."

Draw yn Sir Benfro yn ein Gwinllan Velfrey ni ein hunain, rydyn ni’n cynnig teithiau blasu a the prynhawn i fynd gyda’n gwinoedd pefriog dull traddodiadol a wneir o rawnwin Pinot Noir a Seyval Blanc a ddetholir yn arbennig a’u medi â llaw.

Mae Gwinllan Meadow View yn cynhyrchu gwinoedd gwyn a gwinoedd pefriog dull traddodiadol o’r enw Gwin Y Fro o rawnwin Seyval Blanc a Madeleine Angevine.Yr un teulu sydd wedi bod yn berchen ar Winllan Glyndwr ac yn gyfrifol am ei rhedeg ers 1979, gan gynhyrchu gwinoedd gwyn, rosé, coch a phefriog a weinwyd ar fyrddau Tŷ’r Arglwyddi, y Cwpan Ryder a hyd yn oed uwchgynhadledd NATO. 

Ac ar Ynys Môn, mae Gwinllan Traeth Coch wedi bod yn gwneud gwin unigryw allan o gyfuniad o rawnwin o’r DU a Sbaen ers 2010. Maen nhw’n cynnig teithiau blasu, sy’n berffaith wrth fwynhau diwrnod ar y traeth yn Nhraeth Coch. Mae Gwinllan Conwy’n cynnig platiau pori Cymreig fel rhan o’r daith dywys a blasu, tra bo Pant Du yng ngogoniant Dyffryn Nantlle yn Eryri yn falch o’i pherllan yn ogystal â’r winllan y gallwch ymweld â nhw ar eu teithiau tywys.

 

Gadewch y car...

Mae nifer o’n gwinllannoedd yn cynnig bwyd a llety hefyd, felly gallech aros am noson (neu ddwy!).

Mae Bro Morgannwg yn wych ar gyfer pobl sy’n hoffi gwin, diolch i’r tir cleiog a’r hinsawdd gymharol ddi-rew. Tyfir gwinoedd buddugol Cariad ar 28 erw o lethrau Gwinllan Llanerch. Mae Llanerch yn lleoliad gwych ar gyfer dianc iddo, gyda 37 ystafell pedair seren a bwyty dau rosèt yr AA ble gallwch baru’r gwinoedd gyda phob math o fwyd blasus. Mae yma ysgol goginio ragorol hefyd.

Mae gan Ancre Hill, ger Trefynwy, fwthyn gwyliau hunanarlwyo ar y safle. Mae'n cysgu hyd at chwech, ac fe gewch hamper croeso wrth gyrraedd, gan gynnwys potel o win.

Bwrdd wedi ei osod ar gyfer pryd o fwyd a gwin gyda gwinllan i'w weld yn y cefndir.
Ystafell wely gwesty moethus gyda dau gi yn gorwedd ar lawr.

Gwinllan Llanerch 

Ymhellach i’r gorllewin, Mae Gwinllan ac Ystâd Cwm Deri’n swatio yng ngogoniant Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro. Gallwch letya mewn un o’r cytiau bugail braf a geir yma, ynghyd â dewis o blith cyfleusterau gwersylla a charafanio.

Mae gan Winllan Hebron, ar y ffin rhwng Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin, ddewis o winoedd organig, ac mae’n cynnig teithiau a chyfle i flasu yn ogystal â llety mewn hen feudy a drawsnewidiwyd. Gerllaw, mae Jabajak yn cynnig teithiau gwinllan, ystafelloedd a bwyty sy’n gweini’r gwinoedd gwyn a rosé pefriog a gynhyrchir o rawnwin a dyfir ar y safle.

Gwin y gwan – a’r cryf!

Dyma adeg gyffrous i fod yn cynhyrchu gwin yng Nghymru, ac mae digon i edrych ymlaen ato! Mae llawer o waith plannu newydd yn golygu bod llawer mwy ar y gweill.

Mae gan Sticle yn Sir Gaerfyrddin 10,000 o winwydd a chynlluniau uchelgeisiol ar gyfer creu gwin organig. Hefyd yn sir Gaerfyrddin, mae gwneuthurwr gwin Bryn Ancre, Antonio Rizzo, wedi plannu’i winllan fechan ei hun o’r enw Llwyn Pur. Mae Gwinllan Dell yn Sir Fynwy dan reolaeth newydd, ac mae’n bwriadu ychwanegu pum erw ychwanegol.

Gwinllan fechan yng Nghanolbarth Cymru yw Whinyard Rocks, sy’n dilyn y dull naturiol o gynhyrchu, ac mae’n disgwyl rhyddhau’r gwinoedd cyntaf yn 2022. Mae Gwinllan Sain Hilari ger y Bontfaen wedi plannu Pinot Noir, Pinot Meunier a Chardonnay a bydd yn ychwanegu Seyval Blanc cyn bo hir hefyd.

Mae gan Winllan y Dyffryn yn Nyffryn Clwyd 7500 o winwydd ac mae’n paratoi i ryddhau’r gwin cyntaf. Ac mae Gwynfyd Môn ar Ynys Môn, Maldwyn yng Nghanolbarth Cymru a Llaethliw yng Ngheredigion hefyd oll yn cynhyrchu dewis o win o’r safon uchaf yn barod.

Gallwch wybod y diweddaraf am bopeth ar wefan vineyards.wales.

Straeon cysylltiedig