Nadolig ym Mae Abertawe
15 Tachwedd 2023 - 02 Ionawr 2024. Mae Gwledd y Gaeaf ar y Glannau Abertawe yn dychwelyd i Barc yr Amgueddfa, gyda Phentref Alpaidd estynedig. Mae llu o atyniadau ac amrywiaeth o fwyd a diod Nadoligaidd. Mae sesiynau hygyrch i sglefrio ar gael yn ystod yr awr gyntaf o sesiynau sglefrio bob dydd Mawrth.
Marchnad Nadolig Caerdydd
09 Tachwedd 2023 - 23 Rhagfyr 2023. Mae Marchnad Nadolig Caerdydd ar Stryd Sant Ioan, Stryd y Gwaith, yr Aes, Stryd y Bryniau a Stryd y Drindod. Mae'n cynnwys cymysgedd cyffrous ac eclectig o arddangoswyr sy'n creu cynnyrch gwreiddiol wedi'i wneud â llaw.
Darllen mwy: Siopa Nadolig a marchnadoedd y Nadolig yng Nghymru
Sioeau Nadolig i'r teulu
22 Tachwedd - 20 Rhagfyr 2023. Lapiwch yn gynnes ac ymunwch â Swyn a’i ffrindiau ar gyfer sioe swynol yn seiliedig ar y llyfr ‘Whimsy’ gan Krystal S. Lowe. Yn cyfuno’r Gymraeg ac Iaith Arwyddion Prydain (BSL), dyma gynhyrchiad arbennig fydd yn tanio dychymyg cynulleidfaoedd ifanc gyda stori a dawns. Bydd Swyn, cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru, mewn lleoliadau ar hyd a lled y wlad.
03 Tachwedd 2023 - 06 Ionawr 2024. Hansel a Gretel yw sioe Nadolig Theatr Sherman eleni. Bydd y sioe, sy'n addas i blant rhwng 3 a 6 oed, yn teithio i Sefydliad y Glowyr, Coed Duon, Theatr Brycheiniog, Aberhonddu, Canolfan y Celfyddydau Memo, Y Barri a llawer mwy.
Ffair Fwyd a Chrefftau Portmeirion
01 - 03 Rhagfyr 2023. Mae Ffair Fwyd a Chrefft Nadolig Portmeirion yn gyfle i flasu a phrynu bwyd a diod leol a phrynu anrhegion Nadolig i ffrindiau a theulu. Yn ogystal â chynnyrch a chrefftau lleol, mae rhaglen lawn o adloniant at ddant pawb.
Nadolig yn Amgueddfa Cymru
03-22 Rhagfyr 2023. Mwynhewch hwyl yr ŵyl yn Amgueddfa Cymru. Dewch i gwrdd â Siôn Corn a’i ffrindiau a chanu carolau yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, mwynhau Marchnad Nadolig Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, creu crefftau Nadoligaidd yn Amgueddfa Wlan Cymru, mwynhau te prynhawn Nadoligaidd yn Amgueddfa Lechi Llanberis a llawer mwy!
Nosweithiau Nadoligaidd
15 + 16 Rhagfyr 2023. Bydd Al Lewis a'i ffrindiau yn dathlu 10 mlynedd o'r nosweithiau Nadoligaidd hynod boblogaidd gyda dwy noson yn Eglwys Sant Ioan Treganna.
09 Rhagfyr - 21 Rhagfyr 2023. Nosweithiau Cabarela – carolau Nadolig fel nad ydych erioed wedi eu clywed o'r blaen..! Nosweithiau yn Wrecsam, Bala, Caerdydd, Llanelli ac Aberystwyth.
22 Rhagfyr 2023. Ymunwch â Mared, Malan a DJ Ffresco am noson glud, Nadoligaidd yn Galeri Caernarfon.
Nofio ar Ŵyl San Steffan, Dinbych-y-Pysgod
26 Rhagfyr 2023. Eisiau ffordd newydd o gael gwared o gorfoledd y Nadolig? Beth am gymryd rhan yn y digwyddiad elusennol hwn? Mae bron i 600 o bobl yn rhedeg i'r môr ar draeth y Gogledd yn eu gwisg ffansi ar Ŵyl San Steffan. Wrth gwrs, gallwch ddewis gwylio o'r lan gyda phaned ac aros yn gynnes a sych. Mwy o wybodaeth am Nofio ar y Ŵyl San Steffan, Dinbych-y-Pysgod.
Darllen mwy: Nofio Nadoligaidd yng Nghymru
Rasys Nos Galan
31 Rhagfyr 2023. Dathlwch Guto Nyth Brân (Griffith Morgan) ar Nos Galan yn Aberpennar yng Nghymoedd De Cymru gyda Rasys Nos Galan. Ceir nifer o hanesion am Guto, gan gynnwys un y gallai redeg mor gyflym ag aderyn yn hedfan. Bob blwyddyn mae personoliaeth chwaraeon enwog yn cymryd rhan, felly dewch draw i ddarganfod pwy yw nhw eleni! Croeso i chi wisgo gwisg ffansi yn y Ras Hwyl 5 cilomedr. Mwy o wybodaeth am y Rasys Nos Galan.
Mwy o ddigwyddiadau ym mis Rhagfyr
18 Tachwedd - 24 Rhagfyr 2023. Mae Gower Fresh Christmas Trees, Three Crosses, Abertawe, yn gartref i Ŵyl y Gaeaf Abertawe a Grotto.
22 Tachwedd - 31 Rhagfyr 2023. Llwybr Goleuadau Luminate Wales, Parc Margam. Taith hudolus trwy gerddi a chastell Parc Gwledig Margam. Dilynwch llwybr milltir o hyd Luminate Wales, gyda gosodiadau golau syfrdanol ac elfennau rhyngweithiol gwych i'r plant.
24 Tachwedd - 24 Rhagfyr 2023. Mae gan Reindeer Lodge, Yr Wyddgrug, profiad saffari ceirw, groto Siôn Corn a sioe theatr, pentref corachod cudd a gweithdy tegannau.
29 Tachwedd i 24 Rhagfyr 2023. Llwybr Golau Gaeaf Gardd Cymru, Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Sir Gaerfyrddin.
03 Rhagfyr 2023. Santa Dash Caerdydd.
27 Rhagfyr 2023. Coral Welsh Grand National, Cas-gwent. Gwyliwch y ceffylau a mwynhewch adloniant byw yn un o rasys ceffylau mwyaf y flwyddyn.
31 Rhagfyr 2023. Helfa ysbrydion, Castell Gwrych, Abergele.