Yn gartref i balod, adar drycin Manaw, dolffiniaid, morloi a llawer mwy o fathau o fywyd gwyllt, mae selogion byd natur a ffotograffwyr wrth eu boddau yn ymweld ag Ynys Sgomer.

Pam mae’n werth ymweld ag Ynys Sgomer

Un o'r pethau sy'n gwneud Sgomer mor arbennig yw ei chyfoeth o fywyd gwyllt trwy gydol y flwyddyn. Yn dibynnu ar bryd y byddwch yn ymweld, byddwch yn cael gweld gwahanol anifeiliaid anghyffredin a phrin yn eu cynefin naturiol. Ar unrhyw adeg o’r flwyddyn, efallai y gwelwch forloi llwyd yn y dŵr (mae eu morloi bach ciwt yn dueddol o ddod allan rhwng Mis Awst a Mis Tachwedd), llamhidyddion neu frain coesgoch acrobatig yn hedfan.

Mae'n un o safleoedd gorau Prydain ar gyfer nythfeydd adar môr. Mae gan Sgomer y nythfa fridio fwyaf o adar drycin Manaw yn y byd - rhyw 350,000 o barau magu - sy'n dychwelyd bob mis Mawrth tan fis Medi. Ceir hefyd gigfrain y gogledd, llursod, gwylogod, pedrynnod y storm a gwylanod coesddu, i enwi dim ond rhai o'r ffrindiau pluog eraill sy'n galw Sgomer yn gartref.

Aderyn môr du a gwyn, gyda phig streipïog oren lliwgar, a choesau oren.
Aderyn môr du a gwyn gyda phig du pigfain.
Aderyn môr du a gwyn yn eistedd ar y ddaear.

Pâl, gwylog a llurs ar Ynys Sgomer, oddi ar arfordir Sir Benfro

Efallai mai palod Ynys Sgomer yw ei thrigolion enwocaf, sy’n aros ar yr ynys o fis Mawrth i fis Awst. Mae palod llawndwf yn gwneud nythod ac yn dodwy eu hwyau tan ganol mis Mai, pan fydd y cywion yn dechrau deor. O hynny ymlaen, mae'n gyfnod gwyllt o fwydo; mae palod aeddfed yn pysgota am fwyd yn y dyfroedd ac yn dod ag ef i'w cywion, tra bod y rhai bach yn ymarfer bywyd bob dydd yn eu cyrff sy'n tyfu. Mae'r cywion yn magu plu ym mis Gorffennaf ac Awst, gyda'r oedolion yn gadael yn fuan wedyn.

Menyw yn edrych ar grŵp o balod o'r tu ôl i raff lorweddol.

Gwylio palod ar Ynys Sgomer

Os byddwch yn ymweld ym mis Mai a mis Mehefin, mae'n debygol y gwelwch garpedi o glychau'r gog a blodau'r gludlys coch ar draws yr ynys. Yn ddiweddarach yn y flwyddyn, mae clustog Fair a gludlys arfor yn frith ar hyd ymylon y clogwyni. Fel ynys agored gyda brigiadau creigiog, mae digonedd o gorstir, rhedyn a glaswelltir trwy gydol y flwyddyn.

Yn ystod y tymor agored, mae Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru yn cynnal digwyddiadau ar Sgomer, gan gynnwys teithiau tywys, encilion ioga a phrofiadau bywyd gwyllt dros nos.

Er mwyn gwarchod cyfanrwydd, ecosystemau a thrigolion naturiol yr ynys, uchafswm yr ymwelwyr a ganiateir i'r ynys yw 250.

Dau berson yn cerdded ymysg clychau'r gog.
Pâl yn eistedd yng nghanol carped o flodau golau.

Clychau’r gog, blodau gwyllt a phalod, Ynys Sgomer

Faint mae'n ei gostio i fynd i Ynys Sgomer?

Mae ymweliad ag Ynys Sgomer yn ddiwrnod allan bythgofiadwy. Dim ond un trefnydd teithiau sy'n rhedeg Teithiau Glanio Ynys Sgomer. Ewch ar y gwch yn Lockley Lodge, Martin's Haven, am daith 15 munud i Ynys Sgomer. Byddwch yn cael eich gollwng i fwynhau'r ynys ar eich liwt eich hun, yna'n hwylio yn ôl 4.5 awr yn ddiweddarach. Mae tocynnau'n costio £24-£44 yn dibynnu ar oedran y teithiwr a'r adeg o'r flwyddyn. Archebwch eich tocynnau ymlaen llaw gan fod lle yn gyfyngedig, a gwiriwch am ddiweddariadau tywydd yn nes at yr amser.

Dau berson yn edrych oddi ar ben cwch fferi.

Fferi i Ynys Sgomer, oddi ar arfordir Sir Benfro

Pa mor hir yw'r daith fferi i Ynys Sgomer?

Mae'r daith i Ynys Sgomer yn cymryd 15 munud bob ffordd. Mae glaniadau yn rhedeg o ddydd Mawrth i ddydd Sul rhwng Ebrill a Medi (a dydd Llun Gwyliau’r Sulgwyn). Cyrhaeddwch awr cyn teithio, pan fyddwch yn cael cwch i ddychwelyd. Mae ymadawiadau bob hanner awr rhwng 10am a 12pm, gyda hwyliau dwyffordd yn cael eu dyrannu fesul hanner awr rhwng 3pm a 5pm.

Dau berson yn dringo grisiau serth o harbwr.
Bwrdd gwybodaeth yn dangos map o Ynys Sgomer.

Crwydro Ynys Sgomer

A oes llety ar Ynys Sgomer?

Nifer cyfyngedig o lety sydd ar Ynys Sgomer, ac mae’n cael ei ddarparu gan Ymddiriedolaeth Natur Cymru. Mae llety Ynys Sgomer yn cynnwys hostel ffermdy wedi'i drawsnewid yng nghanol yr ynys. Mae'n cysgu hyd at 16 o bobl mewn gwelyau sengl a bynciau, gyda'r opsiwn i archebu bync neu ystafell breifat. Mae cyfleusterau cegin ac ystafell ymolchi sylfaenol.

Ond y rhan orau? Unwaith y bydd cwch olaf y dydd yn hwylio o'r ynys, byddwch yn cael Sgomer i chi'ch hun! Gwyliwch y machlud, edrychwch ar adar yn dod adref am y noson neu siaradwch â Thîm Sgomer am yr hyn rydych wedi’i weld. Archebwch eich llety ar Ynys Sgomer ymhell ymlaen llaw i sicrhau eich lle.

Hygyrchedd ar Ynys Sgomer

Gan ei bod yn ynys anghysbell, mae hygyrchedd a chyfleusterau ymwelwyr yn gyfyngedig ar Ynys Sgomer. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw hyn mewn cof cyn teithio. Mae pedwar toiled compost yng nghanol yr ynys ar y Fferm, ond dim cyfleusterau bwyd na diod heblaw am ddŵr potel ar werth. Sylwch:

  • Fod 87 o risiau serth i'w dringo i gyrraedd yr ynys
  • Bod y llwybrau'n anwastad, yn greigiog ac yn fryniog
  • Bod cyfleusterau toiledau cyfyngedig a dim cyfleusterau caffi (dŵr ar gael i'w brynu)
  • Na chaniateir cŵn
  • Bod yr ynys yn agored gydag ychydig iawn o gysgod
  • Nad oes biniau (ewch â'r holl sbwriel adref, gan gynnwys deunydd organig)
  • Y gellir llogi ysbienddrych am £5 ar yr ynys
Cwch yn y môr oddi ar ynys, mae adar yn hedfan ger ymyl clogwyn.

Ynys Sgomer, oddi ar arfordir Sir Benfro

Straeon cysylltiedig