P’un ai ydych chi’n chwilio am daith gerdded fynyddig heriol, taith fwy hamddenol drwy’r goedwig neu dro ar hyd traeth hir tywodlyd, fe ddewch chi o hyd i’r cyfan yng Nghymru. Dyma’r lle delfrydol i grwydro gyda’ch cyfaill pedair-coes.

Ble mae cŵn yn cael mynd yng Nghymru?

Mae cŵn yn cael cerdded ar hyd holl lwybrau troed a llwybrau cyhoeddus Cymru. Dim ond iddyn nhw a’u perchnogion ymddwyn yn gyfrifol, gall anifeiliaid anwes ddod gyda chi ar y rhan fwyaf o ddiwrnodau allan. Er bod rhai traethau teuluol yn cyfyngu mynediad i gŵn yn ystod yr haf, mae sawl traeth yn eu croesawu drwy gydol y flwyddyn. Gyda mwy o bobl yn berchen ar gŵn, mae parciau, safleoedd hanesyddol ac atyniadau Cymru yn dod yn fwy addas i anifeiliaid anwes. Felly gall diwrnod allan gyda’ch ci mewn castell neu barc gael eu hychwanegu’n llawen at amserlen eich gwyliau.

Mae digonedd o lefydd i aros yng Nghymru gyda’ch ci mewn llety sy’n caniatáu anifeiliaid anwes. Cewch ddewis o fythynnod cartrefol hunan-arlwyo, meysydd gwersylla cyfeillgar a gwestai moethus. Ac fe allwch chi fod yn saff y bydd digon o lefydd yn lleol i fynd am dro gyda’ch ci lle bynnag y byddwch chi’n aros.

Yn britho cefn gwlad, parciau cenedlaethol ac arfordir garw Cymru fe ddewch chi o hyd i ddigon o dafarndai lleol sy’n caniatáu cŵn lle gallwch chi fwynhau peint gyda’ch ci. Ar ôl taith gerdded hir, does dim yn well na chyrraedd tafarn â’r drws yn llydan agored a sŵn sgwrsio a chwerthin yn dod o’r tu mewn.

Pan ddaw hi at fynd â chŵn am dro yng Nghymru, byddwch yn berchennog cyfrifol a dilyn y Cod Cefn Gwlad. Er mwyn bod yn ddiogel a hapus yn mynd am dro gyda’ch ci, ac er mwyn osgoi achosi problemau i bobl eraill, cyfeiriwch ar y Cod Cerdded Cŵn gan Gyfoeth Naturiol Cymru.

Ci â siaced mewn tafarn, Gatto Lounge, Pontypridd.
Dwy ddynes a chŵn mewn gardd gwrw.

Mae cŵn yn mwynhau tafarndai hefyd

Llefydd i fynd â’r ci am dro yng ngogledd Cymru

Mae gogledd Cymru â chopaon serth Eryri a thirwedd garw Ynys Môn yn lle hyfryd ar gyfer cerddwyr. Yma gallwch chi fentro allan am ddiwrnod o gerdded yn y bryniau, darganfod safleoedd hynafol neu fwynhau gwynt y môr wrth grwydro traethau unig. Chewch chi unman cystal â gogledd Cymru sy’n cynnig y fath amrywiaeth o lefydd i fynd â’r ci am dro.

Mae Ynys Môn yn lle perffaith ar gyfer gwyliau gyda’ch ci ac yn dipyn o ffefryn gan gerddwyr brwdfrydig. Mae teithiau cerdded arfordirol arbennig i’w cael yma ar hyd llwybr yr arfordir sy’n 125 milltir o hyd, lle cewch chi olygfeydd dramatig o ben clogwyni, baeau tywodlyd hir a childraethau hardd. Mae gwarchodfa natur Coedwig Niwbwrch yn lle poblogaidd gyda’i dwyni tonnog a’i lwybrau troellog drwy’r goedwig.

Porth Padrig, Ynys Môn, Gogledd Cymru.

Porth Padrig, Ynys Môn

Llefydd i fynd â’r ci am dro yn ne Cymru

Mae gan dde Cymru ei siâr o lwybrau mynyddig garw ac arfordiroedd hyfryd. Os ydych chi’n chwilio am deithiau cerdded heriol, anelwch am Fannau Brycheiniog neu’r Mynyddoedd Duon er mwyn codi curiad y galon ar rai o’r llethrau serth. Fel arall, cadwch bethau’n fwy hamddenol ac ewch am dro ar hyd llwybrau gwastad rhannau deheuol Llwybr Arfordir Cymru.

Daeth Ffion Llŷr a’i chi Twts ar draws sawl taith gerdded wych a llefydd yn ne Cymru sy’n addas i gŵn, yn crwydro coedwigoedd, mynyddoedd, traethau a bryniau. Mae digon o bethau i’w gwneud sy’n addas i gŵn ym mhrifddinas Cymru hefyd, yn deithiau cerdded treftadaeth neu’n siopa gyda’ch ci yn gwmni.

Os yw’n well gennych chi aros yn rhywle mwy gwledig, mae Tyndyrn yn Nyffryn Gwy yn lle addas i gŵn, ac felly mae’n dipyn o ffefryn gan berchnogion cŵn. Wrth gerdded strydoedd tawel y pentref hanesyddol fe sylwch chi fod croeso i’n cyfeillion blewog yn y rhan fwyaf o lefydd.

Dewis da arall am le i aros yn ne Cymru sy’n addas i gŵn yw Pen-y-bont ar Ogwr, sy’n lle digon canolog. Wrth aros yma, gallwch chi gyrraedd Caerdydd yn rhwydd, Penrhyn Gŵyr i’r gorllewin a Bannau Brycheiniog i’r gogledd. Os am ddyddiau lle nad ydych chi am deithio, mae digon o fannau lleol i Ben-y-bont lle gallwch chi fynd â’r ci am dro.

Gwraig a chi ar lwybr coetir.
Arcêd y Stryd Fawr, Caerdydd.

Cŵn yn crywdro Cymru

A yw Bannau Brycheiniog yn addas ar gyfer cŵn?

Mae croeso i gŵn ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac mae digon o lefydd i aros sy’n caniatáu cŵn. Gall rhannau o’r llwybrau cerdded yma fod yn serth ac agored, felly ar ddiwrnod poeth byddai eich ci yn gallu blino’n hawdd. Byddwch yn ymwybodol hefyd fod rhai o’r llwybrau yn mynd heibio dibyn clogwyni serth a thros dir caregog, felly cadwch eich ci yn ddiogel bob amser. Os ydych chi’n anelu am yr ucheldir, ystyriwch adael unrhyw gŵn bywiog gartref.

Oherwydd natur serth a chul y llwybrau, mae nifer o bobl yn holi a yw taith gerdded y pedwar rhaeadr, mewn rhan o’r parc a elwir yn Wlad y Rhaeadrau, yn addas i gŵn. Er bod y llwybrau yn gallu bod yn serth mewn rhannau, bydd y rhan fwyaf o gŵn yn gallu cerdded y llwybrau heb unrhyw drafferth.

Rhaeadr Sgwd yr Eira gyda choed yn y cefndir.

Sgwd yr Eira, Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

Llefydd i fynd â’r ci am dro yng ngorllewin Cymru

Mae Sir Benfro yn adnabyddus am ei thraethau hardd a’i harfordir dilychwyn – dyma rhai o’r llefydd yn Sir Benfro sy’n addas i gŵn y bu Lottie Gross a’i chi Arty yn ymweld â nhw. Ond mae rhagor i’w ddarganfod. Nid pawb sy’n gwybod fod Parc Cenedlaethol Sir Benfro yn ymestyn i’r mewndir ar hyd glannau afon Cleddau. Yma, fe ddewch chi o hyd i lwybrau gwych i fynd â’r ci am dro drwy goedwigoedd gwyrdd a glannau tawel y dŵr.

Yn bellach i’r gogledd mae mynyddoedd gwyllt y Preseli sydd, er gwaethaf eu huchder o 536m, yn debycach i fryniau. Dyma’r ardal hynafol lle y cloddiwyd y cerrig gleision oesau yn ôl sy’n sefyll yng nghôr y cewri.

Dyn âi gi

Traeth Maenorbŷr, Sir Benfro 

Mynd ar wyliau gyda chŵn

Beth am drefnu gwyliau gartref gyda'ch chi? Dewisiwch eich llety delfrydol sy’n caniatáu cŵn a rhoi dyddiadau yn y dyddiadur. Ewch amdani!

Ystafell wely gwesty moethus gyda dau gi yn gorwedd ar lawr.

Ystafell wely sy'n addas i gŵn

Straeon cysylltiedig