Darganfod Ynys Môn

Yn swyddogol yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, mae Ynys Môn yn lleoliad hyfryd, gydag arfordir heb ei ddifetha ar gyfer cerdded, trefi prydferth a digonedd o lefydd ar gyfer diod neu bryd o fwyd cysurus, mae’n lle rhamantus iawn. 

Darllen mwyYnys Môn: ynys y cariadon 

Llun o'r traeth a'r goleudy ar Ynys Llanddwyn

Ynys Llanddwyn, Ynys Môn

Byw yn y bryniau

Os ydych chi’n chwilio am ychydig o amser tawel gyda’ch gilydd, gallwch ddianc i gaban gwledig neu fwthyn hunanarlwy yn y bryniau. Byddai rhywle fel Lily Pond Lodge yn Aberhonddu’n berffaith: caban pren wrth bwll prydferth llawn bywyd gwyllt, yn guddiedig rhag pawb arall. Gyda llwybrau cerdded wrthlaw a golygfeydd dramatig rownd pob cornel, mae Aberhonddu yn fan gwych i ddianc iddo.

Edmygu gwir brydferthwch byd natur

Cyfunwch arhosiad ymysg y coed gyda chyfle i agosáu at natur. Mae Fforest yn lle perffaith i wneud hyn - yn unrhyw un o’u tri safle yng Ngheredigion - a gallwch brofi arhosiad ymlaciol yn y goedwig, nofio mewn dŵr naturiol ac archwilio’r coetiroedd. Bydd yn wyliau bythgofiadwy. Cerddwch ar hyd glogwyni Ynys Lochtyn gerllaw i weld golygfeydd hyfryd o’r môr, neu grwydro ar draws rhai o’r ceunentydd.

Llun o babell siâp cromen a chaban bychan mewn cae
Llety yn Fforest yn edrych allan i gefn gwlad

Fforest, Ceredigion

Rhuthun rhamantus

Yng Ngogledd Ddwyrain Cymru mae profiad chwedlonol go iawn yn aros amdanoch. Ganrifoedd yn ôl roedd ymwelwyr brenhinol yn aros ym moethusrwydd Castell Rhuthun. Ers hynny mae wedi ei addasu i fod yn westy neilltuol, ble gallwch ddewis i aros mewn ystafelloedd sydd â themâu anarferol ac wedi eu haddurno’n grand i blesio’r brenin neu’r frenhines rydych chi’n eu gwahodd!

Rhamant yn y Preseli

Mae bryniau hyfryd y Preseli’n wyllt a throellog, ac yn teimlo’n anghysbell iawn diolch i’r boblogaeth wasgaredig. Mae’n ddelfrydol ar gyfer mynd am dro tawel, preifat, yn eich gardd gefn anferthol. Wedi hynny, galwch draw i Felin Tregwynt, melin wlân wedi ei gwyngalchu mewn dyffryn coediog diarffordd, am gipolwg ar ddiwydiant gwlân traddodiadol Cymru. Efallai byddwch hefyd am brynu carthen gynnes i gwtsho oddi tanodd. 

Casgliad o gerrig neolithig ar Fynyddoedd y Preseli, yn edrych draw at gopa Carn Menyn

Bedd Arthur, Mynyddoedd y Preseli, Sir Benfro

Dod o hyd i dwyni tawel ar Benrhyn Gŵyr

Mae Penrhyn Gŵyr yn llawn traethau prydferth – dyma oedd y lle cyntaf yng Nghymru i gael ei ddynodi’n Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Mae sawl rhan o’r arfordir yma yn cynnig mannau tawel, heddychlon i gariadon eistedd a myfyrio. Gwisgwch yn gynnes ac ymuno â’ch cymar i wylio’r machlud yng Nghastell Pennard, neu yfed siocled poeth gyda golygfa o Fae Rhosili ym mistro The Bay.

Llun o Fae Rhosili o uwchben

Rhosili, Penrhyn Gŵyr

Datgysylltu o’r rhwydwaith

Mae dod o hyd i amser ar eich pen eich hun yn hawdd yng Nghwm Elan. Mae cymaint i’w archwilio a’i chwilota, bydd gennych chi ddim amser i chwilio am 4G. Yn ymestyn dros 72 milltir sgwâr, mae yna lwybrau cerdded di-ben-draw ymysg bywyd gwyllt, nifer o argaeau a chronfeydd dŵr o oes Fictoria a digonedd o lwybrau beicio. Dyma oedd y parc mewn perchnogaeth breifat, ond sy’n hygyrch i’r cyhoedd, cyntaf i ennill statws Parc Awyr Dywyll Rhyngwladol. Beth sy’n fwy rhamantus na syllu ar y sêr gyda’ch gilydd?

Llun o dŷ yng nghanol coedwig hydrefol, wedi ei amgylchynu â tharth
Dau berson yn mynd â dau gi am dro dros bont, gyda choed hydrefol yn y cefndir

Cwm Elan, Powys

Tretiwch nhw ac aros yn The Grove

Ewch â’ch cariad am benwythnos rhamantus yn un o westai bach bwtîc gorau Cymru. Mae gan The Grove yn Arberth gynnig arhosiad rhamantus – dychmygwch champagne, siocled a dwsin o rosynnau cochion yn aros amdanoch wrth i chi gyrraedd, yn ogystal â bwydlen swper a choctels flasus. Mae tref Arberth gerllaw yn rhamantus hefyd, gyda siopau bach annibynnol, tai te cysurus a chyflymder hamddenol i fywyd.

Ymweld â Bae Caerdydd

Cymerwch gam yn ôl o brysurdeb canol y ddinas a chrwydro’r Bae. Beth am fwynhau sioe yng nghanolbwynt diwylliant y Bae, Canolfan Mileniwm Cymru? Neu beth am wledda ar y bwyd blasus sydd ar gael yn y llefydd bwyta annibynnol? Mae gan deisennau bach Portiwgeaidd Nata & Co enw da iawn, tra fod Fabulous Welshcakes yn rhagori gyda fersiynau cyfoes a thraddodiadol o’n hoff ddanteithion Cymreig. Coronwch ddiwrnod i’r brenin gyda thaith ramantus ar gwch o amgylch dyfrffyrdd Caerdydd.

BAe Caerdydd, gydag adeilad y Pierhead, y Senedd a Chanolfan Mileniwm Cymru

Bae Caerdydd

Mwynhau brêc champagne rhamantus

Mae Ynyshir, sydd berchen ar bedwar rhosglwm AA a dwy seren Michelin, yn westy gwledig a bwyty moethus ar gyrion Machynlleth fyddai’n medru meddalu’r galon galetaf. Sbwyliwch eich hunain gydag arhosiad yn un o’u hystafelloedd crand, ble gallwch archebu therapydd ar gyfer triniaethau megis tylino neu adweitheg. Yna, profwch un o’r bwydlenni blasu sydd ar gael yn y bwyty, sydd wedi ennill nifer fawr o wobrau, gyda gwydraid o rhywbeth byrlymus. Bydd y staff yn mynd allan o’u ffordd i sicrhau fod eich achlysur arbennig yn berffaith, felly os ydych chi’n trefnu rhywbeth hollbwysig, gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi gwybod iddynt.

Darllen mwy: Sêr Michelin sîn bwyd a diod Cymru

Llun o fwyn mewn dwy ddysgl fach frown

Ynyshir Restaurant and Rooms, Eglwys Fach, y Canolbarth

Straeon cysylltiedig