Gwlad Hud Alys yn Llandudno

Bu Alice Liddell, y ferch fach a ysbrydolodd Lewis Carroll i ysgrifennu Alys yng Ngwlad Hud, yn treulio'i gwyliau haf am sawl blwyddyn yn Llandudno. Bellach mae modd mynd ar daith o amgylch y dref a gweld cerfluniau o gymeriadau'r nofel, a chlywed sylwebaeth drwy gyfrwng ap newydd sbon. Mae hyn oll wedi rhoi'r cyfle i'r newyddiadurwr Linn Martinussen, sy'n ddall, gael blas ar brofiadau synhwyraidd Gwlad Hud.

Fy enw i yw Linn Martinussen ac rwy'n newyddiadurwr ac awdur ar fy liwt fy hun. Rwy'n ddall ers pan gefais fy ngeni. Wrth ddewis ble i fynd ar wyliau fyddai ddim yn rhoi llawer o sylw i'r ffaith fy mod i'n ddall. Rwy'n aml yn teithio gyda ffrindiau sy'n gallu gweld, a byddwn yn gwneud pethau y gall pob un ohonom eu mwynhau'r un faint. Mae atyniadau sy'n apelio at amrywiaeth o synhwyrau yn arbennig o dda. Enghraifft wych o hynny yw taith Alys yng Ngwlad Hud yn Llandudno, lle mae'r profiad yn llawn cymaint o hwyl p'un ai ydych chi'n gweld yn berffaith neu'n ddall bost - fel fi.

Swyno'r synhwyrau

Linn Martinussen exploring the statues.

Linn Martinussen exploring the statues, Llandudno gan Kiesha Meikle

Mae arogleuo a theimlo'n arbennig o bwysig i mi, a gallwn deimlo aer y môr cyn gynted ag y daethom oddi ar y trên yn Llandudno. Wrth anadlu i mewn roeddwn bron yn medru blasu'r môr. Rwyf wrth fy modd ag arogl y môr, mae'n fy atgoffa o fod yn blentyn yn chwarae ar y traeth.

Atgofion addas iawn, fel mae'n digwydd, gan mai plentyndod oedd thema'r trip i Landudno. Roeddwn i'n chwilio am ferch fach o'r enw Alice a fuodd ar sawl antur ryfeddol ei hun.

Alice Liddell oedd ei henw llawn. Hon oedd y ferch fach a ysbrydolodd Lewis Carroll i ysgrifennu Alys yng Ngwlad Hud, a bu'n dod i Landudno am flynyddoedd lawer ar ei gwyliau haf. Efallai bod y ffordd y disgrifiodd hi'r hwyl a gafodd ar ei gwyliau wedi rhoi syniadau i Carroll am rai o anturiaethau Alys. 

Dilyn hynt Alys gydag ap

Sut allwn i fynd ar antur fel Alys, felly? Wrth lwc, mae rhywun wedi datblygu ap ffôn clyfar i ddathlu cysylltiadau'r dref â'r nofel, ac i dywys pobl o amgylch y gwahanol lefydd sydd â chysylltiadau ag Alys. Cefais gwrdd â Simon Burrows, aelod o'r tîm a greodd yr ap, i ddysgu ychydig mwy amdano. Mae'r ap yn cyfuno technoleg GPS, realiti estynedig ac animeiddio digidol. Gyda'r ap gallwch ddilyn yn ôl traed Alice Liddell wrth i chi fynd heibio'r gwahanol nodweddion o'r nofel o amgylch y dref. Gellir defnyddio codau QR i ddysgu mwy am Landudno a bydd lleisiau'r cymeriadau 3D yn dod â'r profiad yn fyw.

Fel rhywun sy'n methu gweld, fy hoff ran i o'r ap yw'r hanesion, a'r ffordd y mae'r cymeriadau'n dod yn fyw. Aeth y tîm i drafferth mawr i gael actorion da i wneud y lleisiau, sydd mor bwysig ag unrhyw ddarlun da. Mae'r cerfluniau'n ddiddorol iawn hefyd. Rwy'n teimlo amlinell y rhain gyda fy nwylo yn hytrach na thrwy'r ap, ond mae'r ap yn rhoi disgrifiad o bob cerflun, sy'n ddefnyddiol iawn ar gyfer y cerfluniau hynny sy'n rhy fawr imi gael teimlad cyflawn ohonynt.

Cerfluniau derw

Linn Martinussen with the white rabbit in Llandudno.

Linn Martinussen with the white rabbit, Llandudno gan Kiesha Meikle
Wrth i ni gyrraedd y cerflun cyntaf ar y daith - y Gwningen Wen - esbonia Simon fod pob cerflun wedi'i wneud o dderw. Mae'r gwningen yn teimlo'n feddal ac yn esmwyth. Gallaf ddefnyddio fy nwylo i deimlo'r rhan fwyaf o nodweddion corfforol y gwningen, heblaw am y clustiau sy'n rhy uchel. Rwy'n rhyfeddu at y manylder, a gallaf hyd yn oed ddarllen y rhifau ar wats boced y gwningen, a theimlo pob blewyn o'i gynffon gota. Mae'n llawer brafiach cyffwrdd â derw yn hytrach na marmor neu wenithfaen, er enghraifft, am ei fod yn teimlo mor gynnes. Mae'n rhoi mwy o fywyd i'r cerflun rhywsut.

Nesaf awn tuag at y pier enwog lle mae'r Hetiwr Hurt yn aros amdanom, gyda phathew wrth ei draed a thebot yn ei law. Mae yntau'n teimlo'r un mor feddal ac esmwyth â'r Gwningen, ac mae'n hawdd dweud fod y cerflunydd wedi cael hwyl dda iawn ar ei lunio. Rwy'n teimlo fel plentyn eto, ac yn clywed geiriau cân y Gwningen Wen, "Rwy'n hwyr! Rwy'n hwyr!" yn atsain drwy fy mhen.

Rhywbeth at ddant pawb

Linn Martinussen feeling the writing on the back of Alice's chair.

Linn Martinussen feeling the writing on the back of Alice's chair, Llandudno gan Kiesha Meikle
Daw'r daith i ben wrth i mi roi mwythau i Gath Caer, ac eistedd mewn cadair fawr wrth y pier - mae cefn y gadair ar ffurf llyfr, ac wrth deimlo'r pren gallaf ddarllen y geiriau.

Cefais brofiad gwych yn mynd ar daith gyda'r ap Alys yng Ngwlad Hud, ac ymhlith yr holl luniau a thraciau sain mae rhywbeth at ddant pawb. A finnau'n awdur sy'n adrodd hanesion fy hun, fe wnes i wir fwynhau'r daith. Y peth gorau i mi oedd y ffaith y gallwn ddychwelyd i'r byd o anturiaethau y byddwn yn dianc iddo weithiau pan oeddwn yn blentyn, rhywbeth roeddwn i wedi'i hen anghofio. Rhwng y cerfluniau, lleisiau'r cymeriadau yn yr ap a holl naws y peth, roedd yn brofiad byw o'r hyn roeddwn wedi'i ddarllen rhwng dau glawr y nofel. Ond efallai mai'r rhyfeddod mwyaf i mi oedd darganfod bod hanes Alys yn stori wir. Ddim yn hollol wir, wrth gwrs. Nid oes y fath le â Gwlad Hud Lewis Carroll, ond roedd yno unwaith ferch fach o'r enw Alys, a hi oedd yr ysbrydoliaeth y tu ôl i'r nofel hudolus hon.