Efallai mai'r atyniad mwyaf yw rhai o'r traethau glanaf a mwyaf diogel ym Mhrydain. Does dim rhaid i chi gymryd ein gair ni am hynny, cofiwch. Mae gennym y Baneri Glas i brofi bod y traethau hyn ymhlith y goreuon.

Does dim byd gwell gan y Cymry nag anadlu gwynt y môr - mae mwy na chant o draethau ar hyd yr arfordir - ac o blith y rheiny enillodd 47 ohonynt Faner Las ar gyfer 2018.

Cerflun ar y traeth
Golygfa o gwch a Phont y Bermo, Gwynedd

Y Bermo, Gwynedd

Gwych! Ond beth yn union ydi Baner Las?

Gwobr ryngwladol gydnabyddedig a roddir i draethau a marinâu sy'n lân, yn ddiogel ac yn cynnig cyfleusterau o'r radd flaenaf.

Ble mae'r traethau Baner Las mwyaf poblogaidd?

Mae traethau gorau Cymru ar wasgar ar hyd yr arfordir. Sir Benfro sydd â'r mwyaf ohonynt: Dyfnaint yw'r unig sir arall yn y Deyrnas Unedig sydd â mwy o Faneri Glas. Bydd pobl hefyd yn heidio i Benrhyn Gŵyr, Ceredigion, Eryri ac Ynys Môn. Daw syrffwyr i reidio'r tonnau ym Mae Langland, Niwgwl a'r Porth Mawr, a hwylfyrddwyr i neidio drostynt yn Rest Bay a Dinas Dinlle. Am hwyl hen ffasiwn ar lan y môr ewch i Ddinbych-y-pysgod, Porthcawl neu'r Bermo. Mae llond lle o draethau i deuluoedd o gwmpas y lle hefyd.

Harbwr Dinbych-y-pysgod ar lanw isel gyda thai ac Ynys Bŷr yn y cefndir.
Olion traed ar draeth gwag, gyda chlogwyni yn y cefndir

Dinbych-y-pysgod, Sir Benfro

Pwy sy'n rhoi'r Baneri Glas?

Mae Rheithgor Rhyngwladol y Faner Las yn cwrdd ddwywaith y flwyddyn ac mae'n cynnwys amgylcheddwyr, cadwraethwyr ac achubwyr bywydau. Penodir y gwybodusion hyn gan y Sefydliad Addysg Amgylcheddol (FEE), mudiad dielw sydd â'r nod o hyrwyddo datblygu cynaliadwy ym mhedwar ban byd.

Oes raid iddynt fynd i bob traeth yn y byd i gyd (ac os felly, sut ydw i'n gwneud cais am y swydd)?

Nac oes, dim ond darllen y ceisiadau ysgrifenedig yw eu gwaith nhw. Nid yw pob traeth yn rhoi cynnig arni: yr awdurdodau lleol sy'n gofalu amdanynt sy'n penderfynu pa rai i wneud cais ar eu cyfer. Mae'n rhaid i'r ymgeiswyr i gyd gasglu samplau o ddŵr y môr yn rheolaidd a'u dadansoddi, a llwyddo mewn amrywiaeth o brofion eraill hefyd. Cadwch Gymru'n Daclus sy'n gweinyddu'r drefn yn y wlad hon.

Llun o'r awyr o draeth Llangrannog a'r creigiau

Llangrannog, Ceredigion

Beth yw'r gofynion pennaf er mwyn i draeth ennill Baner Las?

Yn ogystal â bod yn lân, mae'n rhaid bod rheolaeth dda dros y traeth yn gyffredinol. Mae'n rhaid darparu cyfleusterau priodol fel toiledau, dŵr yfed, achubwyr bywydau a chyfarpar cymorth cyntaf. Peth pwysig arall yw rhannu gwybodaeth ac addysgu'r cyhoedd: dylid arddangos mapiau, gwybodaeth am fyd natur a'r manylion diweddaraf am ansawdd y dŵr ar y traeth. Mae'n rhaid bodloni 32 o feini prawf i gyd.

Unwaith mae traeth wedi ennill Baner Las, a fydd yn aros yno am byth?

Na fydd. Rhoddir pob baner am un tymor gwyliau yn unig, a gellir ei dynnu'n ôl os na fydd y traeth yn bodloni'r safonau mwyach. Pur anaml y bydd hynny'n digwydd, a dim ond ar ôl pwyso a mesur y penderfyniad yn ofalus.

Peidiwch â chael eich siomi os bydd un o'ch hoff draethau'n colli ei Faner Las. Mae'n werth i chi holi beth aeth o'i le, gan fod pethau'n newid yn annisgwyl ar adegau – er enghraifft, os bydd hi'n bwrw glaw'n drwm yn yr haf gall mwy o lygredd ddod i'r môr o gaeau ffermydd a'r draeniau mewn trefi mawr. Os mai rhywbeth bach sydd wedi mynd o'i le, bydd modd unioni'r sefyllfa'n fuan yn ôl pob tebyg.

Syrffwyr ar y traeth
Castell tywod ar y traeth

Porth Mawr, Sir Benfro

Beth am y traethau sydd erioed wedi ennill Baner Las?

Ceir llawer o draethau bach anghysbell yng Nghymru ac er mor hyfryd ydynt, ni allant gymryd rhan yng nghynllun y Faner Las. Serch hynny, mae Cadw Cymru'n Daclus yn gweithredu dau gynllun cenedlaethol, sef y Gwobrau Glan Môr ar gyfer traethau a reolir yn dda yng nghefn gwlad a threfi glan môr, a'r Gwobrau Arfordir Glas ar gyfer cynlluniau i ddiogelu'r amgylchedd mewn ardaloedd gwledig. Trwy hyn mae'r traethau bach gorau'n cael y clod haeddiannol.

Gallwch weld ble mae ein holl draethau penigamp drwy fwrw golwg ar fap Cadwch Gymru'n Daclus.

Straeon cysylltiedig