Darganfod eglwysi Sir Fynwy

Mae treftadaeth grefyddol Cymru yn rhyfeddol, ac yma fe ddewch chi o hyd i gapeli bach syml yn y mynyddoedd, abatai a chadeirlannau hanesyddol, pob un ohonynt â hanes arbennig i'w hadrodd. Aethom am dro gyda'r awdur a'r hanesydd, y Parchedig Lionel Fanthorpe, i ddarganfod beth oedd yn cuddio ym mhellafion Sir Fynwy.

Syniad digon syml sy'n ein cychwyn ar ein taith. Wrth geisio dysgu am hanes a threftadaeth unrhyw wlad, y lle gorau i ddechrau yw tu mewn i'r adeiladau hynaf sydd yno. Ceir addoldai yng Nghymru a fu yno ers dros fil o flynyddoedd, ac mae selogion yn dal i ddod drwy byrth y rhan helaeth o'r hen eglwysi, y capeli a'r cadeirlannau bob dydd. Caiff hanes ei grisialu yn y mannau hynafol hyn, lle byddwch yn gallu gweld yr hyn a welodd pobl ar hyd y canrifoedd, clywed yr hyn a glywon nhw ac anadlu'r un aer.

Dyna'r union deimlad a ddaw drosom ni wrth sefyll yn eglwys fechan Merthyr Isw, Pertrisw, ar lethrau Grwyne Fawr ar y Mynydd Du yn y canolbarth. Ymgartrefodd y Sant Celtaidd Isw yma oddeutu'r chweched neu'r seithfed ganrif, ac ymddengys bod pobl wedi rhoi mawl yma byth oddi ar hynny. Adeiladwyd yr eglwys tua 500 mlynedd ar ôl dyfodiad Sant Isw, ac mae'n dal yn lle sy'n teimlo'n bell i ffwrdd o weddill y byd - un o'r llefydd prin hynny lle'r ydych yn teimlo fod amser yn sefyll yn ei unfan.

Buan iawn y daw'r 21fed genrif yn ôl i'r cof, wrth weld rhyw ddyn mewn coler ficer yn crwydro o gwmpas y fynwent, yn ddigon o sioe mewn siaced ledr Harley Davidson. Y gŵr hynod hwn yw Lionel Fanthorpe. Mae'n awdur sydd wedi ysgrifennu cannoedd o lyfrau ar bynciau amrywiol, gan gynnwys Cristnogaeth, ffuglen wyddonol, meini llafar a llofruddiaethau dirgel. Bu'n cyflwyno rhaglenni ar y teledu ers cyn cof bron, ac mae wedi ennill gwobrau am ei farddoniaeth. Mae hefyd yn aelod o Equity a Mensa. Gellir gweld ei fod yn eithaf cartrefol yn "y mynyddoedd sanctaidd hyn" fel mae'n eu galw. “Un o roddion mwyaf Duw i ni,” meddai, “yw ein chwilfrydedd, ein hawydd i ddarganfod, ac i ddatrys dirgelion sydd wedi peri penbleth i bobl am ganrifoedd. Wrth ddod i eglwys mor hen a rhyfeddol â Merthyr Isw, mae'n anodd peidio mynd i chwilio am ba bynnag ddirgelion sy'n llechu yma. Edrychwch ar y darluniau canoloesol hynod ar y muriau, y gwaith naddu cain ar y groglen bren, y groes hynafol yn y fynwent. Mae'r naws dirgel yn ddwys yma, ac mae hynny'n rhywbeth sydd wastad yn ennyn fy chwilfrydedd.”

Awn yn y car am oddeutu wyth milltir i Gwm-iou yn Nyffryn Euas. Enwyd y rhan yma o'r Mynydd Du ar ôl Ewias, teyrnas Gymreig fechan a ffurfiwyd, yn ôl pob tebyg, ar ôl i'r Rhufeiniaid gilio o Gymru yn y bumed ganrif. Saif Cwm-iou nid nepell o Glawdd Offa a'r ffin rhwng Cymru a Lloegr. Un o nodweddion amlycaf yr ardal yw adfeilion rhestredig Gradd 1 Priordy Llanddewi Nant Hodni, a sefydlwyd ddechrau'r 12fed ganrif. Gerllaw saif Eglwys Sant Martin, adeilad hynod a godwyd yn y 13eg ganrif. Y rhyfeddod mwyaf yw bod yr eglwys yn dal yn sefyll, gan fod rhai'n honni mai dyma'r eglwys fwyaf cam ym Mhrydain, gyda thŵr sy'n pwyso mwy na chwe throedfedd i'r naill ochr - mwy na Thŵr Pisa, mae'n debyg. Ceir hen chwedl sy'n dweud fod yr eglwys ar ogwydd oherwydd daeargryn dychrynllyd a ddigwyddodd ar yr union adeg y croeshoeliwyd Iesu Grist ar Fryn Calfaria. Coeliwch hynny neu beidio, ond pa bynnag wirionedd sydd yn yr hen chwedl, mae Eglwys Sant Martin yn ddigon o ryfeddod.

"Peth difyr arall am yr eglwys hon yw'r groes o'r 13eg ganrif," dywed Lionel. "Mae'n debyg ei bod yn arfer dangos y ffordd i'r pererinion wrth iddynt deithio tuag Aberhonddu ac yna i Dyddewi yn Sir Benfro. Cadwyd y groes yn ddiogel yn yr eglwys, ond fe ddiflannodd hi ym 1967. Llwyddodd menyw leol i ddod o hyd iddi mewn siop hen greiriau yn Llundain, a daethpwyd â hi'n ôl. Mae'n awr wedi'i gosod yn sownd yn llawr yr Eglwys."

Wrth i ni adael Eglwys Sant Martin fe gaewn y drws mor dawel ag y gallwn, rhag ofn y byddai ei gau'n glep yn dod â'r cyfan i lawr ar ein pennau. Ar ôl i ni ollwng ochenaid o ryddhad, daw golwg ddireidus ar wyneb Lionel wrth iddo sibrwd: “Fe fyddwch chi wrth eich bodd â'r lle nesaf.” Mae'n siwrnai a hanner, yn bendant, er nad ydym yn mynd ond dafliad carreg ar draws y cwm ac i'r gogledd tuag at Fwlch yr Efengyl, y llwybr a droediwyd gan y rhai a fu'n codi arian ar gyfer y Croesgadau yn y 12fed ganrif. Yn araf bach y teithiwn y tu ôl i dractor sy'n tynnu rhywbeth tebyg i das wair y tu ôl iddo. Daw'r gwellt dros ein pennau fel plu eira wrth fynd o dan ganghennau'r coed o boptu'r ffordd, ac mae rhywun ar gefn beic yn gwibio tuag atom, a chael a chael oedd hi ei fod wedi mynd heibio'r car heb inni ei daro.

Pwy yw hwnnw ond Eddie Butler, sylwebydd poblogaidd y BBC. Rydym wedi arfer clywed ei lais ystwyth ar y tonfeddi, ond dyw'r yr hyn sydd ganddo i'w ddweud wrthym yn bendant ddim yn addas i'w ddarlledu. Mae'n briodol fod rhyw naws o'r absẃrd i'r diwrnod wrth i ni gyrraedd Eglwys y Santes Fair ym mhentref bach Capel-y-ffin ger y Fenni. Yn ein croesawu mae addoldy bach pitw nad yw ond yn 26 troedfedd ar ei hyd a 13 troedfedd ar ei led, gyda thŵr cam ar y to sy'n edrych fel cwch gwenyn a ddisgynnodd o'r awyr. Mae pulpud y tu mewn, organ ac oriel, coeliwch neu beidio. Dyma adeilad bach rhyfeddol a godwyd yn y 18fed ganrif ar safle hen eglwys adfeiliedig o'r 15fed ganrif. Bu'r Eglwys yn destun sylw gan Francis Kilvert, y gweinidog a dyddiadurwr o'r 19eg ganrif (fe gymharodd wyneb hynod yr eglwys gydag wyneb tylluan), yn ogystal â'r artist a'r bardd o'r 20fed ganrif, David Jones.

Daeth Jones i Gapel-y-ffin yn y 1920au fel rhan o gymuned o artistiaid a ddilynai Eric Gill, y sawl a greodd ffurfdeipiau Gill Sans a Perpetua. Dywedir mai Gill a naddodd ddwy o'r cerrig beddi yn y fynwent. Bu Gill, Jones a'r criw yn byw am bedair blynedd yn Abaty Llanddewi Nant Hodni nid nepell i ffwrdd, lle hynod arall y mae'n werth olrhain ei hanes. “Mae'n gartrefol yma, tydi?” meddai Lionel â gwên. “Rwy'n cael ambell i gais i ddod i siarad mewn gwasanaethau yn nhai pobl, ac mae hyn yn f'atgoffa o'r teimlad hwnnw a gewch chi wrth gamu drwy ddrws tŷ rhywun, mae'n wahanol iawn i eglwys draddodiadol.”

The Skirrid Mountain Inn is a public house in the small village of Llanvihangel Crucorney, just a few miles north of Abergavenny.

The Skirrid Inn, Llanfihangel Crucorney gan Paula J James

Trown i ffwrdd o odreon y Mynydd Du i fynd i'r Skirrid Inn ym mhentref Llanfihangel Crucornau. Honnir mai hon yw'r dafarn hynaf yng Nghymru, ac er na fedrwn ni byth brofi hynny, go brin fod llawer o lefydd â hanes mor rhyfeddol â'r Skirrid.

Fel arfer byddai cael peint o seidr mewn tafarn ag ysbryd yn uchafbwynt y diwrnod, ond heddiw cawn y fraint o ymweld ag Abaty Tyndyrn hefyd. Rydyn ni'n cyrraedd Dyffryn Gwy ar ôl dod ond rhyw ddeng milltir ar hugain yn y car ers cychwyn ein taith ym mhentref bach Pertrisw, ond mae'n wahanol fyd yma yng nghysgod yr Abaty ysblennydd.

Tintern Abbey, Wye Valley

Tintern Abbey, Wye Valley gan Wonderful Wales

Mae tri bardd tra gwahanol wedi cyfansoddi cerddi am yr Abaty – William Wordsworth, Alfred, Lord Tennyson ac Allen Ginsberg – ac fe baentiodd yr arlunydd enwog JMW Turner lun ohoni. Gallwn olrhain gwreiddiau Abaty Tyndyrn yn ôl i'r 12fed ganrif, pan ddaeth y gymuned gyntaf o fynachod Sistersaidd yng Nghymru i ymgartrefu yma. Bu'r gymuned honno'n ffynnu am bron i bedwar can mlynedd – hwn oedd yr abaty mwyaf llewyrchus yng Nghymru, a gynhyrchodd incwm o £192 ym 1535. Flwyddyn yn ddiweddarach, fodd bynnag, daeth Deddf Diddymu'r Mynachlogydd i rym yn sgil chwalu'r berthynas rhwng Eglwys Rhufain a Brenin Harri VIII, a bu'n rhaid i'r mynachod ildio'r Abaty. Wedi hynny aeth Abaty Tyndyrn a'i ben iddo, hyd nes y 18fed ganrif a'i atgyfodiad annisgwyl fel un o'r atyniadau cyntaf i dwristiaid yng Nghymru. Heidiai ymwelwyr i Ddyffryn Gwy i chwilio am 'y pictiwrésg’, cysyniad newydd o waith y Parchedig William Gilpin, gŵr a oedd yn cyflawni'r un swyddogaeth â Trip Advisor yn ei ddydd. Fe soniodd am Abaty Tyndyrn yn ei gyfrol Observations on the River Wye, ac yn sgil hynny daeth pobl o bell ac agos i weld yr adfeilion rhyfeddol. Rhywbeth arall sy'n denu Lionel yma, sef y gymuned a dyfodd o amgylch yr addoldy bendigedig hwn, gan adael gwaddol o hud a lledrith sydd wedi para am ganrifoedd. “Rwy'n meddwl fod pobl yn dod yma i synfyfyrio,” meddai, “ac i ryfeddu, yng ngwir ystyr y gair." A ninnau mewn cystal lle i fyfyrio, dyna'n union a wnawn ni. Rydyn ni wedi dysgu cymaint mewn un diwrnod. Rydyn ni wedi holi peth wmbreth o gwestiynau, er na chawsom ateb i bob un ohonynt. Buom yn ymweld â man geni Cristnogaeth yng Nghymru (yn ôl rhai) ac wedi gweld golygfeydd a fyddai'n peri penbleth i sawl arbenigwr ar ddiogelwch adeiladau. Yn fwy na dim, mae'n teimlo fel ein bod wedi dod yn gyfarwydd iawn â'r ardal brydferth a dirgel hon o Gymru.

“Er mod i'n credu fod pob un o'r llefydd hyn yn cynnig profiadau ysbrydol i ymwelwyr,” meddai Lionel, “does dim rhaid i chi fod yn Gristion, nac yn ddilynwr unrhyw grefydd arall o ran hynny, i fwynhau'r wefr arbennig o ddod i'r eglwysi hyn.

“Bu pobl yn gwneud daioni yn y mannau hyn – roedden nhw'n dod yma i arddel eu ffydd a dysgu sut i fod yn bobl dda. Roeddent yn addo bod yn ffyddlon, yn faddeugar ac yn garedig, nid yn unig tuag at Dduw ond i'w gilydd hefyd. “Mae'n rhyfeddol fod hynny wedi digwydd nid am ychydig flynyddoedd, nac am ddegawdau, ond am ganrifoedd. I mi, mae'n rhaid bod rhyw hud a lledrith yn perthyn i'r mannau hynafol, arbennig hyn.”

Efallai na fyddwch chi'n cytuno, wrth gwrs, ond mae'n anodd dadlau â'r Parchedig. Yma mae darnau bach o dir gyda stôr anferthol o hanesion i'w hadrodd. Mae pobl wedi teimlo atyniad y mannau hyn ers talwm - a byddant yn dal i ddod yma am flynyddoedd lawer i ddod.