Atyniadau Cwm Elan
Beth bynnag eich diddordeb, pa bynnag amser o’r flwyddyn, gallwch brofi antur yn y Canolbarth yng Nghwm Elan, un o fannau mwyaf prydferth Cymru. Mae dros 80% o’r cwm yn Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, yn gartref i gronfeydd dŵr, traphontydd dŵr, cannoedd o anifeiliaid a thoreth o gyfleoedd i gael hwyl. Rydym wedi casglu rhai awgrymiadau at ei gilydd am sut i gael amser cofiadwy ac anturus yng Nghwm Elan. Mae’n Flwyddyn Antur, wedi’r cyfan!
Beicio a cherdded
Gyda mynediad agored i’r rhan fwyaf o’r ystâd 70 milltir sgwâr, mae yna sawl llwybr y gallwch eu dilyn er mwyn archwilio’r ardal. P’un ai ydych chi am grwydro’n hamddenol trwy’r gwyrddni a’r argaeau, neu am grwydr mwy heriol ymysg clogwyni creigiog a dyfrffyrdd, bydd yna lwybr addas ar gyfer eich gofynion a’ch gallu. Mae beiciau ar gael i’w llogi’n hawdd, os oes chwant arnoch i weld y golygfeydd ychydig yn gyflymach. Anelwch am Lwybr Cwm Elan os ydych yn chwilio am lwybrau gydag wyneb mwy llyfn.
Syllu ar y sêr
Mae gan Gwm Elan statws Parc Awyr Dywyll Rhyngwladol, sy’n golygu y gallwch weld sêr, planedau a chlystyrau o sêr yn disgleirio ar nosweithiau clir gydag ychydig iawn o lygredd golau. Mae Grŵp Seryddiaeth Cwm Elan yn cwrdd yn aml gyda’r nos yn y ganolfan ymwelwyr er mwyn addysgu ymwelwyr am yr wybren ac yn rhoi cyfle i bobl ei archwilio trwy delesgopau.

Awyr dywyll, Cwm Elan
gan Dŵr Cymru
Anturiaethwyr bach
Mae cadw plant yn brysur yng Nghwm Elan yn eithaf rhwydd. Mae’r ganolfan ymwelwyr yn cynnal gweithgareddau i’r teulu a diwrnodau gweithgar trwy gydol y flwyddyn, felly cadwch olwg ar eu calendr digwyddiadau.
Gwibdaith
Os ydych am archwilio ardal ehangach, beth am yrru o gwmpas yr ystâd? Fe gewch chi’r cyfle i weld golygfeydd trawiadol mewn llai o amser. Neu yn lle hynny, mwynhewch daith wedi ei theilwra ble gallwch ymuno â cheidwad parc ar batrôl mewn Land Rover, yn darganfod nodweddion cuddiedig y cwm. Gallech hefyd gyfuno eich gwibdaith gydag ymweliad i rhywle i gael bwyd, megis Tŷ Penbont, tŷ te traddodiadol Cymreig ger argae Pen y Garreg.
Taith fer i ffwrdd…
Trefyclo
Os mai antur ar droed sy’n mynd â’ch bryd chi mae Canolfan Ymwelwyr Clawdd Offa werth ymweld â hi. Mae yna arddangosfeydd ar hanes yr ardal, ac mae’n rhoi mynediad i Lwybr Clawdd Offa. Mae’r Spaceguard Centre yn Nhrefyclo hefyd, sy’n Ganolfan Wybodaeth Gwrthrychau yn y Gofod (NNEOIC) – yr unig ganolfan yn y DU sy’n delio â’r peryglon o wrthdrawiadau gan gomedau ac asteroidau.
Llanandras
Mae’r hen dref hon yn gyfareddol. Dyma gartref Llety’r Barnwr, sy’n caniatáu i ymwelwyr ddarganfod sut oedd bywyd gweision, barnwyr a gwesteion yna yn ystod Oes Fictoria. Mae The Radnorshire Arms yn adeilad du a gwyn sy’n dyddio yn ôl i 1616.
Rheilffordd Cwm Rheidol
Beth am fynd ar y trên am antur hamddenol? Mae un o Drenau Bach Cymru yn teithio trwy Gwm Rheidol, o Aberystwyth i Arfordir Cambria. Am dros 100 mlynedd mae wedi bod yn cyflwyno teithwyr i olygfeydd prydferth yr ardal.

Rheilffordd Cwm Rheidol, y Canolbarth
Thomas Shop, Penybont
Piciwch i Benybont er mwyn cael gweld yr hen siop a thŷ te unigryw yma. Mae yna amgueddfa hiraethus, orielau a chyfleusterau bwyta.
Neuadd Abbey Cwm Hir
Mae’r hen blasty ôl-Elisabethaidd hwn ar agor i bawb. Camwch i mewn i gael eich syfrdanu gan yr addurniadau a phensaernïaeth gyfoethog y cyfnod.
Canolfan Fwydo Barcutiaid Coch Fferm Gigrin, Rhaeadr Gwy
Mae’r fferm deuluol, weithredol, 200 erw hon yn edrych i lawr dros Gymoedd Gwy ac Elan. Mae’n fwyaf enwog am y Ganolfan Fwydo Barcutiaid Coch, ble gall ymwelwyr wylio cannoedd o’r adar yn gwledda’n ddyddiol.

Barcud coch
Hoffi hwn? Rhannwch gyda ffrindiau