phob dyledus barch

Fedrwch chi ddim mynd ar daith i Aberhonddu heb ymweld â'r eglwys gadeiriol Normanaidd ac edmygu'r bensaernïaeth. Os cewch chi gyfle i fynd, beth ddylech chi gael golwg arno - a pham? Fe ofynnon ni i'r Hybarch Geoffrey Marshall - Deon Eglwys Aberhonddu - ein tywys o amgylch ei hoff rannau o'r eglwys. Dyma beth oedd ganddo i'w ddweud:

Mae cant a mil o resymau dros ymweld ag Eglwys Aberhonddu. Ond rwy'n eich annog i weld y pethau hyn cyn dim byd arall pan ddewch chi yma:

    Baneri Bataliwn Cyntaf y Bedwaredd Gatrawd ar Hugain o Droedfilwyr

Regimental colours of South Wales Borders hanging in Brecon Cathedral

Lliwiau Catrodol Cyffinwyr De Cymru, Eglwys Gadeiriol Aberhonddu

 gan Sheepdog Rex
Mor deilwng oedd gwasanaeth y gatrawd Gymreig enwog hon yn Rhyfel y Zwlw ym 1879 fel eu bod wedi ysbrydoli'r ffilm enwog gyda Stanley Baker, Zulu. Caiff y baneri unigryw hyn eu cadw'n ddiogel at genedlaethau'r dyfodol mewn casys persbecs pwrpasol.

Ynghyd â'r baneri ceir Rhestr o'r Gwroniaid i goffáu'r rhai a fu farw yn y ddau Ryfel Byd, ac mae'n werth gweld y placiau personol ar gefn y seddi sy'n coffáu aelodau eraill o'r Bedwaredd Gatrawd ar Hugain.

    Bedyddfaen yr Eglwys

The font at Brecon Cathedral

Bedyddfaen Eglwys Gadeiriol Aberhonddu

 gan Nick Kaye
Dewch â'ch camera gyda chi; mae bedyddfaen yr eglwys gadeiriol yn ddigon o ryfeddod. Hwn yw'r bedyddfaen Normanaidd mwyaf yng Nghymru ac fe'i gosodwyd tua 1150 (ond efallai y'i lluniwyd bron i 200 mlynedd cyn hynny) ac mae symbolau grotésg wedi'u cerfio arno.

    Y Grog

Ym 1538 fe ddinistriodd Brenin Harri VIII groglen Aberhonddu – y llen rhwng y mynachod a'r bobl yn yr eglwys. Arferai croes euraid hongian ar y groglen, ac am ganrifoedd byddai pobl o bob cwr o Gymru a thu hwnt yn dod ar bererindod i'w chyffwrdd. Er cof am hyn, yn ddiweddar fe osodom groes fawr efydd lle'r oedd y  groglen ers talwm. Gwnaethpwyd y groes gan yr artist Helen Sinclair, mae'n pwyso 90 cilogram ac fe'i lluniwyd â broc môr ar draeth Rhosili ar Benrhyn Gŵyr.