Pan gwblhawyd Llwybr Arfordir Cymru yn 2012 fe'i canmolwyd i'r cymylau, ac yn haeddiannol hefyd, wrth gwrs. Nid oes yr un wlad arall yn y byd wedi creu llwybr cyhoeddus sy'n mynd yr holl ffordd o amgylch yr arfordir. Ond yng Nghymru rydym wedi hen arfer â hyfrydwch ein harfordir - yn enwedig felly yn Sir Benfro.

Mae Arfordir Penfro yn llain gywrain o glogwyni garw, traethau trawiadol a childraethau bach dirgel lle gallwch chwilota mewn pyllau di-ri. Yma daw'r tir, y môr a'r awyr i gyd at ei gilydd i greu lle perffaith i gerddwyr, syrffwyr, caiacwyr a morwyr.

Llun o Gaer Ynys Catrin ar Ynys Catrin, a chychod bach yn casglu teithwyr o Ddinbych-y-pysgod

Ynys Catrin, Dinbych-y-pysgod, Sir Benfro

Y Parc Cenedlaethol

Ym 1952, dynodwyd yr ardal wyllt, hyfryd hon yn barc cenedlaethol; Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro - yr unig un ar arfordir Prydain. Ymhen blwyddyn roedd cynlluniau ar waith ar gyfer Llwybr Arfordir Penfro ac agorodd y llwybr cenedlaethol hwn yn ffurfiol ym 1970. Bu'n llwyddiant ysgubol byth ers hynny, gan ddangos sut all cadwraethwyr, cerddwyr a ffermwyr gyd-dynnu a chydweithio, a braenaru'r tir ar gyfer datblygiadau mwy cyffrous.

Mae llwybr yr arfordir wastad wedi bod yn arbennig, ond mae'n well fyth nawr ei fod yn rhan o Lwybr Arfordir Cymru sy'n ymestyn am 870 o filltiroedd. Gallwch fynd am dro bach neu fentro'n bell, yn syth yn eich blaen neu rownd mewn cylch, ar dir gwastad neu lethrau serth. Mewn diwrnod gallwch gerdded ar draethau gwyn a thros glogwyni uchel, a ble bynnag yr ewch chi mae'r golygfeydd yn ddigon i fynd â'ch gwynt.

Arwydd Llwybr yr Arfordir gyda phobl yn y cefndir yn cerdded y llwybr
Cwpwl yn cerdded ar hyd Llwybr Arfordir Cymru gyda'r môr ar yr ochr dde

Llwybr Arfordir Penfro

Bywyd gwyllt Sir Benfro

Dewch yma yn y gwanwyn i weld clychau'r gog yn gorchuddio lloriau'r coedwigoedd a dolydd yn gyforiog o flodau fel sampier y geifr, dagrau Mair, bwtsias y gog a gludlys. Yn yr haf fe welwch ieir bach yr haf yn dawnsio ymhlith y gwyddfid a thros berthi clustog Fair ac eithin.

Os bydd arnoch awydd gwyliau bach yn yr awyr agored erbyn yr hydref a'r gaeaf, chewch chi'r unman gwell i'ch bywiogi a'ch cyffroi. Fe ddewch o hyd i ddigonedd o dafarnau a llefydd bach tawel pan fyddwch yn barod i ymlacio a chynhesu.

Mae'r parc cenedlaethol yn lle gwych i weld bywyd gwyllt, hefyd. Unwaith y cawn ni rywfaint o haul yn y gwanwyn fe ddaw criciaid a buchod coch cwta i heidio ar hyd y clogwyni, ac uwchben bydd adar y môr yn sgrechian drwy'r awyr. Daw'r palod ac adar drycin Manaw bob blwyddyn i nythu ar Ynys Bŷr, Gwales, Ynys Sgogwm, Ynys Sgomer ac Ynys Dewi, lle mae'r cwningod yn pori'n braf a'r morloi'n torheulo'n ddiog yn yr haul. O bryd i'w gilydd, efallai y gwelwch chi ysgol o ddolffiniaid yn taro'u trwynau uwchlaw'r tonnau.

Pâl yn dod i dir ar y gwair gyda'r môr yn y cefndir
Pâl yr Iwerydd gyda glaswellt yn ei big

Pâlod ar Ynys Sgomer, Sir Benfro

Ewch allan i'r awyr agored

Fe ddewch chi ar draws safleoedd ac atyniadau hanesyddol ymhobman, fel y gromlech ryfeddol ym Mhentre Ifan, a'r amgueddfa awyr agored yng Nghastell Henllys, lle cewch chi flas ar fywyd yn Oes yr Haearn drwy falu blawd, pobi bara ac anadlu arogleuon hyfryd craf y geifr mewn atgynhyrchiad o dŷ crwn Celtaidd.

Os ydych â'ch bryd ar ddiwrnod ar y traeth, chewch chi ddim eich siomi yn Aberllydan, sydd â digonedd o le i'r teulu oll fynd i grwydro ac anturio; mae Dinbych-y-pysgod yn llawn cymeriad; a fyddwch chi ddim eisiau gadael paradwys Bae Barafundle. Gallwch fwynhau chwaraeon dŵr wrth syrffio yn Freshwater West, hwylio yn Dale a barcudfyrddio yn Niwgwl.

Casgliad o gerrig neolithig ar Fynyddoedd y Preseli, yn edrych draw at gopa Carn Menyn

Bedd Arthur, Mynydd Preseli, Sir Benfro

Dyma draethau o'r radd flaenaf - does yr un sir arall ym Mhrydain â chymaint o Faneri Glas, Gwobrau Glan Môr a Gwobrau Arfordir Glas, heblaw am Ddyfnaint. Mae'r dewis o draethau hyfryd mor eang, fe fyddwch chi'n siŵr o gael mwy nag un ffefryn.

Olion traed ar draeth gwag, gyda chlogwyni yn y cefndir
Harbwr Dinbych-y-pysgod ar lanw isel gyda thai ac Ynys Bŷr yn y cefndir.

Dinbych-y-pysgod, Sir Benfro 

Straeon cysylltiedig