Beth i'w weld ym Mharc Cenedlaethol Eryri

Allwch chi feddwl am unrhyw beth mwy cyffrous na gwibio drwy goedwig unig ar feic mynydd, neu gerdded am filltiroedd i sefyll o dan raeadr o ddŵr pur? Beth am fynd i gopa uchaf Cymru ar Drên Bach yr Wyddfa, neu ryfeddu at yr adar yn heidio mewn gwarchodfa natur? Mae pob dydd yn antur yn Eryri.

Eryri yw brenin y parciau cenedlaethol. Fe'i dynodwyd yn Barc Cenedlaethol ym 1951, mae'n ymestyn dros 800 milltir sgwâr ac yn ei ganol saif yr Wyddfa, mynydd uchaf Cymru (1,085 metr o uchder, neu 3,560 o droedfeddi). Felly, dyma'r Parc Cenedlaethol hynaf, mwyaf ac uchaf yng Nghymru.

Rhaeadrau, llynnoedd a rheilffyrdd

Train on the Welsh Highland Line through Snowdonia

Welsh Highland Line, Snowdonia gan archidave
Yn Eryri hefyd mae rhaeadr uchaf Cymru, Pistyll Rhaeadr a'r llyn naturiol mwyaf, Llyn Tegid. Yma mae un o'r gorsafoedd rheilffordd uchaf ym Mhrydain, ac un o'r leiniau bach hiraf yn Ewrop, Rheilffordd Eryri. Mae rhai o lwybrau beicio mynydd gorau'r byd yma i chi wibio ar eu hyd hefyd.

Ond anghofiwch am hynny am eiliad, a chymerwch olwg ar brydferthwch y lle.

Mae'r mynyddoedd mawreddog yn ymgodi uwchlaw coedwigoedd hynafol ac aberoedd sy'n gyforiog o adar. Fe glywch nentydd yn byrlymu wrth droelli o dan hen bontydd cerrig. Yng nghanol hyn oll fe ddewch o hyd i fythynnod bach clyd yng nghefn gwlad a chael croeso cynnes yn y trefi marchnad.

Lle delfrydol i fynd allan i'r awyr agored

Hafod Eryri Snowdon summit visitor centre, Snowdonia

Hafod Eryri - Snowdon Summit Centre, Snowdonia gan Marcher57

Mae'r Wyddfa'n un o'r llefydd mwyaf poblogaidd ym Mhrydain i gerdded, gyda llwybrau da sy'n mynd â chi heibio clogwyni serth a llethrau dan orchudd o laswellt a blodau. Pan mae'r tywydd yn braf bydd y golygfeydd anhygoel yn hwb i chi gyrraedd y copa. Ar ôl cerdded bob cam i ben y mynydd, eisteddwch i lawr am baned o de yng nghanolfan ymwelwyr Hafod Eryri, sydd ar agor rhwng y gwanwyn a'r hydref.

Os ydych chi'n dod i Eryri ar antur, mae digon yn eich disgwyl y tu hwnt i'r Wyddfa. Mae mwy na 90 o fynyddoedd yn y parc, a phymtheg ohonynt yn fwy na 900 metr o uchder, gan gynnwys Aran Fawddwy a Thryfan. Saif saith ohonynt yn uwch na Scafell Pike, y mynydd uchaf yn Lloegr.

Does dim i'ch atal rhag gwisgo'ch esgidiau cerdded a mynd i grwydro ar eich pen eich hun, ond gall fod yn werth chweil i chi ddod o hyd i arbenigwr lleol i'ch tywys ar eich antur. Byddant yn medru tynnu'ch sylw ar nodweddion daearegol sy'n hannu o Oes yr Iâ, wrth sgwrsio am archaeoleg a byd natur Eryri. Os ydy hynny'n mynd â'ch bryd chi, fe fyddwch wrth eich bodd â Gŵyl Gerdded Abermaw a gynhelir ym mis Medi, a gŵyl arall ym Metws-y-coed ym mis Hydref.

Neu ewch ar gefn beic

Mae digonedd o anturiaethau i feicwyr hefyd. Ar lethrau godidog Coed y Brenin ger Dolgellau y dechreuodd beicio mynydd ym Mhrydain. Mae amrywiaeth o lwybrau i chi droelli drwy'r coed arnynt, gan gynnwys rhai go anodd a fydd wrth fodd y beicwyr go iawn. I rai sydd ond megis dechrau ar feicio a cherdded, ceir llwybrau i bobl o bob gallu, ac mae modd mynd â chadair olwyn a choetsis arnynt hefyd, boed glaw neu hindda.

Ewch ar daith ar un o hen drenau bach enwog Rheilffordd yr Wyddfa, Rheilffordd Ffestiniog a Rheilffordd Eryri am un ffordd o gael blas ar ddiwylliant a threftadaeth unigryw Eryri. Gallwch hefyd ddal bws Sherpa'r Wyddfa wrth grwydro o le i le. Ym mannau tawelaf y parc fe gewch y teimlad braf o gymuno â natur, ond nid tir gwyllt na gwarchodfa natur sydd yma – mae hon yn ardal llawn bwrlwm lle mae pobl wedi byw a gweithio ers canrifoedd, yn codi carneddi a chestyll, yn cloddio chwareli ac yn sefydlu pentrefi a ffermydd.

Yma y cyfieithiwyd y Beibl i'r Gymraeg am y tro cyntaf ym 1588, ac mae pobl Eryri yn ymfalchïo yn yr hen draddodiadau. Mae tua 65 y cant o'r trigolion yn siarad Cymraeg, ac os ewch chi i ŵyl leol fel Sesiwn Fawr Dolgellau fe gewch flas ar eu brwdfrydedd angerddol am gerddoriaeth Geltaidd, barddoniaeth a dawnsio.