Gogledd Cymru

Mae Gogledd Cymru yn Gymreig i'r carn. Mae'n rhanbarth sy'n angerddol dros yr iaith, cerddoriaeth a hanes, ac fe ddewch chi ar draws cestyll mawreddog, rheilffyrdd ac ambell i ŵyl. Mae'r golygfeydd yn odidog – traethau braf, afonydd yn troelli yma ac acw, ac wrth gwrs mynyddoedd Eryri, ei llynnoedd a'i rhaeadrau.