Gwyliau ar Ynys Môn

Mae Ynys Môn heb ei thebyg o ran ei harddwch, anturiaethau anhygoel, llonyddwch llwyr a chroeso cynnes. Mae'r ynys unigryw hon yn un hawdd ei chyrraedd ac fe ddewch chi o hyd i ramant ac adfywiad ar yr arfordir, traethau amrywiol a threfi hanesyddol. Mae digon o fywyd yma hefyd, gyda pheth wmbreth o wyliau'n dathlu bwyd lleol, cerddoriaeth, diwylliant a'r awyr agored. Mae hefyd yn gartref i enw lle hiraf Ewrop, Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllantysiliogogogoch.

Ewch i wefan swyddogol Ynys Môn am fwy o wybodaeth: croesomon.co.uk