Darganfod Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy

Ewch ar gefn ceffyl, neidiwch ar eich beic mynydd neu ei cherdded hi wrth ddarganfod hyfrydwch Gogledd-ddwyrain Cymru yn y bryniau, y coedwigoedd a'r gweunydd. Gallwch olrhain hanes y rhanbarth am filiynau o flynyddoedd, a dyma'r lle diweddaraf yng Nghymru i'w ddynodi'n Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol.

Oes rhywle sy'n rhoi ysbrydoliaeth o'r newydd i chi bob tro yr ewch chi yno?

I'r cogydd adnabyddus Bryn Williams, y lle hwnnw yw Bryniau Clwyd yng ngogledd-ddwyrain Cymru. Ganwyd Bryn mewn cymuned Gymraeg yng nghefn gwlad Sir Ddinbych, ac mae'n dotio ar y rhan dawel a ffrwythlon yma o'r byd, lle mae'r grug yn lliwio'r bryniau a'r porfeydd yn ymestyn am filltiroedd tua'r gorwel.

Bryniau Clwyd yw 'nghartre i. Dyma natur ar ei gorau. Rydyn ni fel teulu wedi cael sawl picnic ar ben Moel Famau i ddathlu pen-blwydd Nain. O'r copa rwy'n gallu bwrw golwg dros Ddyffryn Clwyd ac enwi pob fferm a phob ardal lle mae fy nheulu â chysylltiadau, mae fel hel achau!

AHNE ddiweddaraf Cymru

Dee Valley

Dyffryn Dyfrdwy, ger Llangollen, Gogledd Cymru 

Yn haf 1985, dynodwyd darn 21 milltir o Fryniau Clwyd yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) – rhanbarth lle credir bod y tirlun, y diwyllliant a'r bywyd gwyllt yn gaffaeliad i'r genedl. Yn 2011, ehangwyd ffiniau AHNE Bryniau Clwyd fel ei bod yn cynnwys rhan helaeth o Ddyffryn Dyfrdwy, gan gynnwys creigiau geirwon Eglwyseg, yr Oernant a Mynydd Esclus.

Cerdded dros bant a bryn

Walk Moel

Cerdded ar Foel Fenlli, Bryniau Clwyd, Eryri

Mae AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn lle gwych i gerddwyr. Aiff rhan hyfryd o Lwybr Cenedlaethol Clawdd Offa dros ben y bryniau rhwng Prestatyn a'r Waun. Os dewch chi am tua thridiau bydd modd i chi gerdded yr holl ffordd, ac os byddwch chi'n aros yma'n hirach gallech ddilyn y llwybr tua'r de i ran arall o Gymru sy'n AHNE, Dyffryn Gwy.

Ceir digonedd o lwybrau cylchol lle gallwch fynd am dro bach dros y gweunydd, yn y coedwigoedd a'r parciau gwledig, a gallwch ddal y bws i fynd â chi o le i le. Os mai dim ond ychydig o ymarfer corf sydd ei angen arnoch, rhowch gynnig ar un o Filltiroedd Cymunedol Sir Ddinbych – llwybrau byrion ag arwyddion i ddangos y ffordd, dafliad carreg o drefi a phentrefi'r sir.

Bryniau Clwyd ar gefn beic

Llandegla

Beicio mynydd yng Nghoed Llandegla, Bryniau Clwyd, Eryri

 gan aliweb_gt

Mae pobl wrth eu bodd yn beicio yma. Mae Bryniau Clwyd yn rhan o Ganolfan Rhagoriaeth Beicio Gogledd Cymru, rhwydwaith o ffyrdd, llwybrau, dringfeydd a disgynfeydd y gallwch wibio ar eu hyd. Ar ben de-ddwyreiniol Bryniau Clwyd mae Coed Llandegla, parc coedwig preifat lle mae tua 200,000 o bobl yn dod i feicio bob blwyddyn. Dyma un o'r canolfannau beics mynydd mwyaf yn y DU, yn ymestyn dros 2.5 milltir sgwâr, ac un o'r goreuon hefyd, gyda siop llogi beics, llwybrau dramatig i bob beiciwr beth bynnag eu gallu, a man magu sgiliau lle gallwch ymarfer eich doniau ar bontydd pren a sgafellau a neidio dros y poncydd. Am fwy o syniadau ewch i wefan Beicio Gogledd Cymru neu lawrlwythwch yr ap.

Chwilota ar gefn ceffyl

Mae marchogaeth yn ffordd odidog o fwynhau AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy. Cliriwch brynhawn yn eich dyddiadur, diwrnod neu ddau neu bythefnos cyfan hyd yn oed i dasgu trwy nentydd, crwydro mewn coedwigoedd, trotian ar hyd lonydd gwledig neu garlamu ar draws dolydd yn llawn grug ac eithin. Ceir amrywiaeth o stablau yn yr ardal sy'n gallu darparu ceffylau, cyfarpar a chyngor. Mae rhai ohonynt yn cynnig gwely a brecwast i farchogion a'u ceffylau, os hoffech chi gael gwyliau mwy moethus.

Cael blas ar ddiwylliant lleol a datgelu'r gorffennol

I rai sydd â'u bryd ar ddaeareg, mae modd olrhain hanes yr ardal hyd at 400 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Ceir adleisiau o'r Oes Haearn yma hefyd – mae olion hen amddiffynfeydd i'w gweld yn amlwg ar y bryniau o Gaer Drewyn yn y de-orllewin i Foel Hiraddug yn y gogledd. Saif Castell Dinbych i'r gorllewin o'r bryniau, a disgrifiodd yr awdur Jan Morris y trysor hwn o'r 13eg ganrif fel castell prydferthaf Cymru. Tua'r de yn Llangollen mae hanes a diwylliant yn byrlymu fel Afon Dyfrdwy wrth iddi lifo drwy'r dref fach hyfryd hon.