Ewch am dro #1: y rhai tawel

Mae’r rhan fwyaf sy’n mynd am y tro cyntaf eisiau trechu’r Wyddfa – a digon teg yw hynny, ond mae dros ddwsin o gopaon lleol tawelach sy’n uwch na 3,000 troedfedd (914m) o uchder. Mae pob un yn y tair cadwyn gyfagos: Massif yr Wyddfa, Carneddau a Glyderau – lle dewch chi o hyd i’r copa a ddewiswyd fel y ffefryn ymhlith cerddwyr Prydain, sef mynydd gwych Tryfan. Ymhellach i’r de, mae Cadair Idris, sy’n fynydd ysblennydd sy’n amgylchynu llyn rhewlifol; i gyfeiriad y dwyrain, mae tref glan llyn Y Bala sy’n fan cychwyn i anturiaethau yng nghadwyni Aran ac Arenig, lle rydych chi’n debygol o gael y copaon i chi’ch hun.

Dyn a menyw gyda dau gi yn sefyll ar fynydd yn edrych tuag at fwy o fynyddoedd

Cadar Idris, Eryri

Ewch am dro #2: y rhai hawdd

Gallwch barhau i fwynhau’r profiad o ddringo mynydd mawr gyda phlant bach, neu ar gadair olwyn, neu os ydych chi am weld golygfeydd gwych heb chwysu. Er enghraifft, mae’r daith gron o gwmpas Cwm Idwal yn ffordd gymharol hawdd o fynd i galon tirweddau mwyaf dramatig Eryri, tra bod Llwybr Mawddach o gwmpas Abermo yn rhoi golygfeydd epig o’r aber a Chader Idris. Mae gan Barc Cenedlaethol Eryri restr dda o deithiau cerdded mynediad i bawb.

Pont Abermaw wrth iddi fachlud yn edrych draw tuag at y môr

Llwybr Mawddach o gwmpas Abermo

Ewch am dro #3: yr un mawr

Yr Wyddfa yw’r copa uchaf yng Nghymru (a Lloegr o ran hynny), sy’n cyrraedd uchder o 1,085m. Ar ddiwrnod clir, mae’r golygfeydd o’r copa’n rhyfeddol, gan ymestyn yr holl ffordd i lawr i Sir Benfro, i fyny i Ardal y Peak Lloegr a draw i Iwerddon. Mae chwe llwybr i’r copa a chaiff pob man cychwyn eu cysylltu gan fws Sherpa’r Wyddfa, er mwyn i chi allu mynd i fyny un ffordd ac i lawr un arall. Ers 1896, mae Rheilffordd yr Wyddfa wedi pwffian i fyny i’r copa o ddiwedd y Gwanwyn hyd at ddiwedd mis Hydref. Mae’r ganolfan i ymwelwyr ar y copa, sef Hafod Eryri ar agor am luniaeth os ydy’r trên yn rhedeg.

Tri cherddwr ar Lwybr y Mwynwyr yn cerdded tuag at gopa'r Wyddfa.
Copa'r Wyddfa yn edrych allan dros lyn a mynyddoedd

Llwybr y Mwynwyr a Chopa'r Wyddfa

Ewch am antur

Eryri yw prifddinas antur y DU, diolch i ddychymyg entrepreneuriaid lleol sydd wedi cymryd rhannau o’r dirwedd syfrdanol ac wedi meddwl ‘Hmm... beth am wneud HYN?’ Mae rhai ohonynt yn hollol annhebygol, fel y gwifrau sip cyflymaf yn y byd yn Zip World, profiad neidio tanddaearol Bounce Below, a’r daith ar sled 1km o hyd yn Fforest Coaster. Mae Adventure Parc Snowdonia yn cynnwys syrffio, Adrenalin Indoors ac ystod o weithgareddau awyr agored.

I weld y rhain a llawer mwy, ewch i edrych ar y Map Antur lleol.

Dau berson ar gerbyd bychan yn gwibio i lawr y cledrau yng nghanol y coed
Tri pherson mewn coch ar linellau sip cyfochrog yn mynd dros lyn
3 o bobl yn syrffio ar forlyn.

Zip World ac Adventure Parc Snowdonia 

Cyffro gwyllt a gwlyb

Mae’r Ganolfan Dŵr Gwyn Genedlaethol yn cynnig sesiynau hwylio caiac a rafftio ar Afon Tryweryn, ac mae lagŵn syrffio 300m mewndirol Surf Snowdonia yn ganolbwynt i ystod gyfan o weithgareddau wedi’u hysbrydoli gan natur yn Adventure Parc Snowdonia. A bod yn fanwl gywir, mae Afon Menai, sy’n gwahanu Ynys Môn o’r tir mawr, yn cwympo y tu allan i’r Parc Cenedlaethol, ond mae’n ddarn o ddŵr eithriadol. Ffawtlin daearegol ydyw, a gafodd ei sgwrio gan haenau iâ dros 20,000 o flynyddoedd yn ôl, a’i lenwi gan drobyllau a llanw rhyfedd. Mae’n lle gwych i fynd i archwilio ar gwch, naill ai ar daith dan arweiniad hamddenol neu’n llai hamddenol ar y RibRide cyflymaf yn y byd i deithwyr.

5 o bobl yn sefyll ar fyrddau syrffio

Adventure Parc Snowdonia

Ymweld â chastell

Mae rhai o gestyll canoloesol gorau’r byd wedi’u clystyru o gwmpas ymylon gogleddol Eryri. Gyda’i gilydd, mae’r pedwar mwyaf grymus, sef BiwmaresHarlechCaernarfon a Chonwy, yn ffurfio Safle Treftadaeth y Byd UNESCO. Cawsant eu hadeiladu gan Edward I (1272-1307) er mwyn darostwng y Cymry, ond ni lwyddodd yn gyfan gwbl yn y tymor hir: mae’r ardal hon yn parhau i fod yr un gryfaf o ran siaradwyr Cymraeg yng Nghymru, ac mae’n ddrwg gennym Edward, ond baner y ddraig goch sy’n hedfan drostynt heddiw. Roedd tywysogion Cymru’n eithaf da am bensaernïaeth filwrol hefyd. Fel rheol, mae cestyll Cymreig brodorol yn llai o faint na’u cymheiriaid Normanaidd ond maen nhw wedi’u lleoli mewn mannau trawiadol o hyfryd – ewch i weld DolbadarnDolwyddelanDinas Emrys a Chastell y Bere. Dydyn nhw ddim yn fawr, ond maen nhw’n ddigon.

Adfeilion castell gyda golygfa o fynyddoedd yn y cefndir
Y tu allan i gastell gyda phont bren

Castell Dolbadarn a Chastell Biwmares

Archwiliwch ein trefi

Mae hoff bencadlys y dringwyr ym Metws y Coed yn galw ei hun yn ‘ddrws i Eryri’, tra bo Beddgelert yn dewis cael ei alw ‘pentref hyfrytaf Eryri’ – ac mae’n anodd dadlau gyda’r un ohonynt. Saif Blaenau Ffestiniog yng nghanol y Parc Cenedlaethol, ond yn rhyfedd, nid yw’n rhan ohono: nid ystyriwyd bod ei loerwedd cloddio llechi’n ddigon prydferth pan luniwyd y ffiniau yn 1951. Yn hytrach, mae wedi ail-greu ei hun yn wych fel canolfan antur. Ymhellach i’r de, mae trefi marchnad bendigedig Dolgellau a Machynlleth ar bob ochr i fynyddoedd Cader Idris, wrth i Abermo ac Aberdyfi gynnig cyrchfannau glan môr hyfryd. Yn ogystal, rhaid ymweld â Phortmeirion: y pentref ffantasi a adeiladwyd gan y pensaer Clough-Williams Ellis o 1925 i 1973.

Tai cerrig a phont wrth yr afon

Beddgelert

Archwilio’n treftadaeth

Mae gan Eryri filoedd o flynyddoedd o weithgarwch dynol i’w mwynhau, o siambr gladdu neolithig Capel Garmon i’r ganolfan trydan dŵr mwy diweddar ar y Mynydd Gwefru. Rhyngddynt, mae’r holl gestyll a grybwyllwyd gennym, y masnachdy o’r 14eg ganrif yn Aberconwy ac Amgueddfa Lechi Cymru. Mae treftadaeth iaith Gymraeg gref y rhanbarth yn amlwg pan fyddwch yn camu i mewn i siop neu dafarn, ond dyma ambell i bwynt ychwanegol: mae cartref plentyndod y bardd rhyfel Hedd Wyn, Yr Ysgwrn, wedi dod yn fan cysegredig i ddiwylliant y wlad, wrth i’r Bala fod yn dref sy’n llawn o hanes Cymru.

Llun o'r tu allan i hen ffermdy cerrig

Yr Ysgwrn, Trawsfynydd

Ar dy feic

Mae beicio wedi mynd yn hynod boblogaidd yng Nghymru, boed ar y ffordd neu oddi arni: yn ôl y gwrw beicio Prydeinig, Syr Dave Brailsford, mae gennym ddigon o lonydd tawel a dringfeydd mawr. Tyfodd i fyny yn Eryri ac mae wedi’i anrhydeddu â dau lwybr beicio trawiadol, sef Ffordd Brailsford, sydd o gwmpas ei hen fro mynydda cyfarwydd. I’r rhai sy’n hoff o feicio mynydd, Coed y Brenin oedd canolfan un trac wedi’i hadeiladu i bwrpas gyntaf a mwyaf y DU ac mae sawl canolfan a lleoliad beicio mynydd arall wedi ymuno â hi – gweler Y Ganolfan Beicio Mynydd.

Beiciwr yn mynd trwy lwybr beicio mynydd yng Nghoed y Brenin
 Beiciwr yn edrych ar raeadr a chreigiau

Coed y Brenin

Trenau bach gwych

Cafodd Rheilffordd yr Wyddfa ei hadeiladu’n bwrpasol i dwristiaid yn 1896, ond gwnaeth y diwydiant llechi hefyd adael etifeddiaeth wych o reilffyrdd stêm sydd wedi cael pwrpas newydd, a hynny er mwyn hwyl. Ac mewn gwirionedd, mae’r 40 milltir (64km) cyfunol o Reilffyrdd Ffestiniog ac Eryri yn ei gwneud yn ffordd ymarferol, yn ogystal â thrawiadol o hyfryd i deithio o gwmpas. I weld y rhain a mwy, ewch i’n tudalen trenau bach a rheilffyrdd cul.

Red and green steam train travelling through the mountains

Rheilffyrdd Ffestiniog ac Eryri

Straeon cysylltiedig