Trysor cudd: darganfod Pen Llŷn

Yng nghysgod cadernid Eryri saif Pen Llŷn fel mur rhwng Môr Iwerddon a Bae Ceredigion, ac mae natur wyllt, unigryw i'r lle. Daw cerddwyr, tonfyrddwyr a morwyr cychod bach i fwynhau'r haul ar yr arfordir deheuol, a bu pobl ers cyn cof yn mynd i ben draw'r penrhyn ar bererindod i Ynys Enlli, sydd hefyd yn noddfa i fywyd gwyllt.

Gwyliau i'r teulu oll

Criccieth beach and town with a train passing through, Snowdonia

Cricieth, Eryri

 gan welsh snapper


Mae tua chwarter Pen Llŷn yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) lle gallwch ddod o hyd i draethau a chlogwyni gwyllt, hen losgfynyddoedd a bryniau glas sy'n frith o gaerau o'r Oes Haearn.

Y trefi glan môr croesawgar a'r traethau tawel, braf sy'n denu'r rhan helaeth o ymwelwyr i Ben Llŷn, yn enwedig felly yn yr haf. Mae'n lle delfrydol i deuluoedd, a daw pobl yn ôl dro ar ôl tro i drefi deniadol ar arfordir y de fel Cricieth, Pwllheli ac Abersoch, i gwrdd eto â'r ffrindiau a wnaethant dros y blynyddoedd. 

Mae Cricieth, gyda'r hen adfail o gastell uwchlaw'r traeth a rhesi destlus o dai oes Fictoria, yn lle delfrydol i aros wrth grwydro o amgylch Pen Llŷn, tra bod Pwllheli ac Abersoch yn drefi prysur lle mae cychod yn mynd a dod drwy'r amser. 

Yn Hafan Pwllheli, marina anferth y dref, mae lle i dros 400 o gychod ar drothwy dyfroedd bendigedig Bae Ceredigion a glannau Ynys Môn.

Pan ddaw gwyliau'r ysgol bydd bwrlwm yn lledaenu ar hyd yr arfordir. Ym mis Gorffennaf cynhelir Wakestock ym Mhwllheli ac Abersoch, gŵyl anferth lle mae heidiau o bobl ifanc yn dod i fwynhau penwythnos o donfyrddio a cherddoriaeth gyfoes, ac ym mis Awst cynhelir y regata flynyddol yn Abersoch. Dyma ddigwyddiad llawn hwyl lle mae pawb yn cymryd rhan – p'un ai'n rasio mewn cwch neu'n cystadlu wrth ddal crancod, adeiladu cestyll tywod neu addurno cabanau glan môr.


Olrhain adleisiau o'r gorffennol

Hywyns Church

Eglwys Hywyn Sant, Aberdaron, Eryri



Yn ogystal â bod yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, cofnodir rhannau helaeth o Ben Llŷn yn y Gofrestr o Dirweddau o Ddiddordeb Hanesyddol yng Nghymru. Ceir ardaloedd eang lle nad oes neb erioed wedi aredig y caeau na'u clirio ar gyfer datblygiadau trefol, sy'n golygu eu bod wedi aros yn eu cyflwr naturiol ers canrifoedd. Wrth ddarganfod nodweddion archeolegol a phensaernïol Pen Llŷn gallwch olrhain hanes di-dor yn ôl i gyfnod cynhanesyddol.

Mae Llwybr Arfordir Cymru yn ymestyn am 84 milltir o amgylch Pen Llŷn i gyd, yn mynd drwy gaeau â gatiau mochyn wedi'u gwneud â llaw, traethau bach a mawr, clogwyni, eglwysi a cheyrydd. Lle delfrydol felly i gerddwyr neu feicwyr ddod ar eu gwyliau – heliwch eich pac a gallwch dreulio diwrnodau'n crwydro o un lle i'r llall, yn aros dros nos mewn lle gwely a brecwast neu wersylla. Os byddwch chi'n dod dim ond am ddiwrnod neu ddau, fe ddewch chi o hyd i ddigonedd o lwybrau byrrach i fynd am dro arnynt.

Ewch ar bererindod i Ynys Enlli

Bardsey Island, seen from Mynydd Mawr, Snowdonia

Ynys Enlli o Fynydd Mawr, Eryri 

 gan imaginedhorizons


Hwyliwch o Aberdaron neu Bwllheli dros y swnt i Ynys Enlli. Mae Cristnogion wedi bod yn teithio yma ers y chweched ganrif, pan gododd Cadfan Sant fynachlog ar yr ynys. Dywedid bod tair pererindod i Enlli gyfwerth ag un bererindod i Rufain.

Nid oes ond ambell i faen sanctaidd ar ôl yma bellach; erbyn heddiw mae Ynys Enlli'n warchodfa natur lle daw morloi llwydion i dorheulo ar y glannau creigiog, a lle bydd pâl Manaw, adar drycin a gwylogod yn gwneud eu nythod bob gwanwyn. Os dewch chi ar un o'r cychod sy'n dod i'r lan yn hytrach na mynd heibio'r ynys, bydd modd i chi weld yr adar o wylfeydd pwrpasol. Bydd cychod yn mynd i Ynys Enlli bob bore a phrynhawn rhwng y Pasg a mis Hydref, ac os mai gwyliau tawel ym myd natur sy'n mynd â'ch bryd chi, bachwch le yn un o'r bythynnod hunanarlwyo sydd i'w rhentu yma.