Dyma rai o uchafbwyntiau chwedlonol y ddinas i ysbrydoli cefnogwyr. Beth am rannu eich profiadau yng Nghaerdydd gyda ni ar Twitter, Instagram gan ddefnyddio #FyNghymru neu #FindYourEpic.

Marchnad Ganolog Caerdydd

Un o sefydliadau mwyaf unigryw Caerdydd ydy Marchnad Caerdydd sy'n atyniad i bawb sy'n mwynhau bwyd, tynnu llun neu am brynu rhywbeth bach i gofio am yr ymweliad. Cerddwch drwy’r prysurdeb byrlymus, heibio i Bakestones, ble mae pice mân yn cael eu coginio o’ch blaen (rhaid eu blasu hefyd, wrth gwrs). Neu beth am fynd am fwyd rhyngwladol yn Thai Asian Delish neu beth am ddewis rôl facwn neu rywbeth iach fel bwyd llysieuol Clancy's.

Tu mewn i Farchnad Caerdydd
Stondin marchnad ym marchnad Caerdydd
Menyw yn coginio pice mân

Marchnad Caerdydd

The Grazing Shed

Mae’r Grazing Shed yn wahanol - ac mae sawl un ohonyn nhw yng nghanol y ddinas. Cwmni bach lleol ydyn nhw, sy’n gweini byrgyrs sydd wedi ennill gwobrau, a wnaed o’r cynhwysion lleol gorau, maent yn gwneud eu diodydd ysgafn eu hunain a sglodion mawr trwchus. Dyma ddewis gwahanol i fwyd cyflym seimllyd, ac os yw’r cynhwysion gystal â hyn, pa ots am y calorïau?!

Dau berson yn eistedd ac yn bwyta o flaen llythrennau mawr ar y wal

Grazing Shed, Caerdydd

New York Deli

Efallai eich bod chi’n meddwl ei bod hi ychydig yn rhyfedd mai arddull America sy’n drwm ar un o brif leoliadau cinio Caerdydd, ond mae’r ddinas wedi gwir gofleidio hoagies a brechdanau ‘milltir o drwch’ New York Deli. Mae’r deli bach blasus hwn ger Castell Caerdydd yn ffefryn mawr gan bobl leol y ddinas. Beth am ddewis ‘Hoagie Caerdydd’ neu ‘Hoagie Diawled Caerdydd’ – teyrngedau blasus i ddinas ragorol (a’u tîm hoci iâ – Diawled am byth!)

Dyn yn dal brechdan fawr

The New York Deli, Caerdydd

The Dead Canary

Mae’n bosib mai The Dead Canary ydy bar coctels mwyaf crand yn y ddinas, ac mae’n werth ymweld ag ef. Bar yn arddull y speakeasy sydd yma, felly chwiliwch am y gloch a’r bluen ar y wal ar hyd Lôn y Barics i ddod o hyd i’r fynedfa. Gwisgwch yn smart a pharatowch eich hun am amser i'w gofio.

Waterloo Tea

Nid pawb sydd eisiau mynd allan i yfed. Efallai mai’r baned berffaith o de yw eich greal chi, ac os felly Waterloo Tea yn Arcêd Wyndham yw’r lle delfrydol i fynd. Mae yma dros hanner cant o fathau gwahanol o de i ddewis o’u plith, a sawl cacen hyfryd. Ewch am baned a gwyliwch y byd yn pasio heibio.

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Cewch ddarganfod popeth - o fyd yr anifeiliaid a gweithiau cerameg, i ffosiliau a ffotograffiaeth - yn yr amgueddfa urddasol hon yng nghanol y ddinas. Yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ceir y casgliad mwyaf o gelf Argraffiadol y tu allan i Baris. Mae’r amgueddfa yn cynnwys gweithiau gan Monet, Millet a Cézanne a llawer o artistiaid eraill.

Cwpwl yn edrych ar gerflun bach, gyda darlun yn y cefndir, a cherflun mawr i'r ochr yn y tu blaen

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Parc Bute

Beth am fynd am dro o gwmpas gerddi hardd Parc Bute yng nghanol y ddinas? Mae’r parc wedi’i leoli y tu ôl i Gastell Caerdydd, sy’n werth ymweld ag ef hefyd. Mae’r parc yn gartref i gannoedd o rywogaethau o adar, pryfed, anifeiliaid yr afon, ffyngau, blodau a choed, ac mae afon hudolus Taf yn llifo drwy ganol y cyfan.

Dwy fenyw yn cerdded ym Mharc Bute gyda choed hydrefol a Chastell Caerdydd yn y cefndir
Grŵp o bobl yn cerdded ym Mharc Biwt

Parc Bute, Caerdydd

Y rhodfeydd siopa

O bob dinas ym Mhrydain, gan Gaerdydd y mae’r casgliad mwyaf o rodfeydd siopa dan-do o gyfnod oes Fictoria, yr oes Edwardaidd a’r cyfnod cyfoes. Fe ddowch o hyd i lawer o siopau annibynnol, caffis a bwytai i oedi ynddyn nhw ynghyd â phensaernïaeth ddeniadol. Mae’r rhodfeydd yma wedi’u lleoli rhwng Heol Eglwys Fair, Stryd y Castell, Stryd y Dug a’r Ais. Fe gewch chi gaws a choffi o’r radd flaenaf, tlysau a thrysorau vintage a phob math o nwyddau difyr i’ch hudo… dyna ffordd ddelfrydol o dreulio prynhawn!

Siopwyr yn cerdded trwy arcêd yng Nghaerdydd.
Dyn a dynes yn cerdded trwy arcêd siopa
Golygfa o du allan siop recordiau.

Arcedau siopa, Caerdydd

Straeon cysylltiedig