Abaty Tyndyrn – Mae wir yn EPIC

Mae ein llythrennau adlewyrchol EPIC ar daith o gwmpas Cymru yn ystod yr haf, yn ymddangos yn rhai o lefydd mwyaf trawiadol Cymru.

Yr wythnos hon maen nhw yn Abaty Tyndyrn – un o’r eglwysi abaty mwyaf hardd yng Nghymru.

Ysbrydolodd prydferthwch Abaty Tyndyrn y bardd rhamantaidd Wordsworth un tro, ac mae ymwelwyr yn cael eu swyno ganddo hyd heddiw. Crwydrwch yr adfeilion hanesyddol hyn a dysgwch fwy am eu hanes, neu mwynhewch bicnic yn y gerddi hyfryd.

Ond peidiwch stopio fan yna – mae’r adfeilion Gothig hyn yn eistedd yng nghalon tirlun dramatig Dyffryn Gwy sy’n aros i chi ei ddarganfod. Dilynwch lwybrau coediog i weld golygfeydd trawiadol o Devil’s Pulpit, neu gael cipolwg o’r abaty tra’n canŵio ar hyd yr Afon Gwy. A cadwch eich llygaid ar agor am fywyd gwyllt – hon yw un o afonydd mwyaf anghysbell Prydain.