Y ddinas

Yng Nghasnewydd gallwch gerdded o un pen o'r ddinas i'r llall mewn cwta ddeng munud - neu'n hirach os treuliwch chi rywfaint o amser yn yr eglwys gadeiriol, yr amgueddfa a'r oriel gelf, a'r farchnad dan do draddodiadol.

Fe welwch chi lawer o waith celf diddorol mewn mannau cyhoeddus, gan gynnwys cerflun er cof am y bardd WH Davies, 'Supertramp' Casnewydd, a gyfansoddodd y cwpled enwog, ‘What is this life if, full of care, we have no time to stand and stare.’

I'ch difyrru, mae Canolfan Casnewydd yn cynnig pwll nofio, meysydd chwarae a neuadd gerddoriaeth sy'n dal dwy fil o bobl. Mae Theatr Glan yr Afon yn cyflwyno amrywiaeth o gomedi, opera, dawns, cerddoriaeth a drama, yn ogystal â chaffi a bar braf iawn lle gallwch eistedd y tu allan ar lannau Afon Wysg.

Mae Casnewydd yn adnabyddus fel tref y Siartwyr, mudiad gweithwyr yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a fu'n ymgyrchu dros ddiwygiad gwleidyddol. Yn fwy diweddar mae'r ddinas wedi gadael ei stamp ar ddiwylliant cyfoes: tyfodd y grŵp rap afreolus Goldie Lookin’ Chain o dan ddylanwad diwylliant anarchaidd strydoedd Casnewydd, ac yn ôl y sôn gofynnodd Kurt Cobain i Courtney Love ei briodi yng nghlwb roc chwedlonol TJ’s.

Tŷ Tredegar

90 erw o erddi hyfryd, ac yn ôl pob tebyg dyma'r plasty gorau ym Mhrydain o gyfnod Siarl II yn yr 17eg ganrif. Mae'n bleser o'r mwyaf i gael treulio diwrnod yn crwydro o amgylch y plasty brics coch a'r gerddi eang.

Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol sydd bellach yn gyfrifol am Dŷ Tredegar, a adeiladwyd gan deulu pwerus y Morganiaid, tirfeddianwyr lleol a ddaeth yn Arglwyddi Tredegar – ond mab enwocaf y teulu oedd y môr-leidr, Syr Harri Morgan (1635-1688). Roedd un arall o'r meibion, Godfrey, yn arwr yn y fyddin a oroesodd Ymosodiad y 'Light Brigade' yn Rhyfel y Crimea. Yn rhyfeddol, daeth ei geffyl Sir Briggs drwyddi hefyd, gan fyw tan oedd yn 28 oed. Claddwyd y ceffyl yn yr Ardd Gedrwydd.

Y tu mewn i'r tŷ gellir olrhain ei hanes fel plasty crand yn yr 17eg ganrif ac ymlaen i gyfnod urddasol Oes Fictoria a'r partïon gwyllt yn y 1930au y bu cymaint o sôn amdanynt.

Ym 1906 adeiladodd y Morganiaid y Bont Gludo gerllaw, un o ddim ond wyth pont o'r fath yn y byd. Fe'i codwyd i gludo nwyddau dros Afon Wysg mewn wagen, sy'n hongian ar reilen ddigon uchel i longau fedru hwylio oddi tani. Mae'n ddigon o ryfeddod, ac mae'n gweithio hyd heddiw - a gallwch yrru'ch car drosti am bunt.

Llun o Dŷ Tredegar

Golygfeydd o Dŷ Tredegar

Gwarchodfa Gwlyptiroedd Casnewydd

Mae gwlyptiroedd Aber Hafren yn ymestyn am 100 cilomedr sgwâr. Fe'u gelwir yn Lefelau Gwent ac yn raddol mae pobl wedi bod yn adfer y tir o dan y tonnau ers miloedd o flynyddoedd. Bu hynny'n dda i'r adar hefyd, ac erbyn heddiw dyma un o'r safleoedd pwysicaf o ran bywyd gwyllt yng Nghymru.

Sefydlwyd Gwarchodfa Gwlyptiroedd Casnewydd fel cynefin i'r adar oedd yn arfer heidio ar draethau lleidiog Bae Caerdydd cyn adeiladu'r Morglawdd yn y 1990au. Dros 438 hectar o dir mae'r ehangder o gorsydd, merllynnoedd, glaswelltir gwlyb a phrysgwydd wedi denu amrywiaeth hyfryd o adar, ac efallai y gwelwch chi degeirian yn blodeuo, iâr fach yr haf neu was y neidr yn gwibio yma ac acw, neu ddyfrgi'n codi'i ben o'r dŵr.

Fe welwch chi wahanol fathau o adar ar wahanol adegau o'r flwyddyn, gan gynnwys titwod barfog, pigau mynawyd, adar y bwn, adar dŵr rif y gwlith, bodaod y wern a hebogiaid tramor.

Amgueddfa Genedlaethol Caer Rufeinig Caerllion

Safai Cymru ar gyrion pellaf yr Ymerodraeth Rufeinig, ac ym mlwyddyn 75 adeiladodd y Rhufeiniaid gaer yng Nghaerllion, ychydig filltiroedd o Gasnewydd, lle buont yn cadw golwg ar yr ardal am dros ddau gan mlynedd.

Roedd hon yn un o ddim ond tair caer barhaol a gododd y Rhufeiniaid ym Mhrydain, a dyma ble'r oedd yr Ail Leng Awgwstaidd yn byw. Câi'r pum mil o filwyr a marchogion ddigon i'w difyrru, gan gynnwys amffitheatr, baddonau, siopau a themlau. Wrth fynd I Amgueddfa Genedlaethol Caer Rufeinig Caerllion cewch fentro y tu mewn i'r hyn sy'n weddill o'r gaer, a gweld yr adfeilion mwyaf cyflawn ym Mhrydain o amffitheatr Rufeinig, a'r unig adfail o farics Llengfilwyr Rhufain a welwch chi yn Ewrop. Mae'r amgueddfa hefyd yn cadw casgliad o hanner miliwn o wrthrychau o'r ceyrydd Rhufeinig yng Nghaerllion (Isca) a Brynbuga (Burrium).

Tra boch chi yng Nghaerllion, mae'n werth crwydro o amgylch y dref – mae'n lle bach braf gyda digonedd o dafarndai da, bwytai ac ystafelloedd te, gyda chanolfan gelf a chrefft y Ffwrwm ymhlith y goreuon.

Canolfan y Pedwar Lloc ar Ddeg

Roedd mawrion byd diwydiant yn y ddeunawfed ganrif mewn penbleth ynglŷn â sut i gludo cymaint o lo, haearn, calch a brics yr holl ffordd o'r Cymoedd i ddociau Casnewydd. I ddatrys y broblem agorwyd Camlas Sir Fynwy, ond roedd y bryniau o amgylch Casnewydd yn dal i beri rhwystr sylweddol wrth geisio goresgyn yr 11 milltir yng Nghrymlyn.

Cwblhawyd y Pedwar Lloc ar Ddeg ym 1799, ac mae'n un o'r enghreifftiau gorau yn y byd o ddyfeisgarwch peirianwyr y cyfnod. Yma mae lefel y dŵr yn codi 50 metr, gyda chyfres o byllau, llifddorau a choredau'n ffrwyno llif y dŵr. Mae'n dawel yma erbyn heddiw, ac mae'n hyfryd mynd am dro ar lan y gamlas a mwynhau cefn gwlad a byd natur, gan gynnwys Gwarchodfa Natur Allt-yr-Ynn.

Wrth grwydro ymhellach…

Does unman yn haws teithio iddo yng Nghymru o'r tu allan na Chasnewydd, sy'n un o'r rhesymau pam y cynhelir digwyddiadau byd-eang yn y ddinas fel Cwpan Ryder ac uwchgynadledd NATO (rheswm arall yw moethusrwydd pur Celtic Manor Resort).

Mae'n lle hawdd ei gyrraedd felly, ac yna mae'n hawdd mynd o le i le. Mae Caerdydd ugain munud i ffwrdd yn y car neu ar drên, ac yno fe gewch bopeth y gallwch ei ddisgwyl mewn prifddinas Ewropeaidd. Teithiwch am hanner awr tua'r gogledd i weld Sir Fynwy ar ei gorau, gan ymweld â bwytai rhagorol a threfi marchnad braf fel Trefynwy, Brynbuga a'r Fenni, a gweld cestyll godidog yn Rhaglan, Cil-y-coed a Chas-gwent, wrth sefyll ar drothwy Dyffryn Gwy.

Gan gofio fod cyfoeth Casnewydd wedi dod o allforio glo a haearn, mae'n werth i chi weld ble cafodd y rheiny eu cloddio a'u gwneud – yn enwedig Gwaith Haearn Blaenafon a Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

Golygfa o siafft godi ac adeiladau Pwll Mawr gyda'r dref yn y cefndir

Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

Straeon cysylltiedig