Abertawe yw’r lle i chwarae ar hyn o bryd Gêm wrth Gêm

 

O Pacman i Minecraft, mae cyfle i bawb ail-fyw gemau cyfrifiadurol y degawdau a fu, a rhoi tro hefyd ar yr amryw gemau sydd ar gael heddiw a hynny mewn arddangosfa rad ac am ddim ‘Gêm wrth Gêm’ yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe. 

Fe agorodd yr arddangosfa ym mis Hydref ac mae ymlaen yn yr Amgueddfa tan ganol mis Mawrth, 2018 cyn mynd ar daith. Yno caiff ymwelwyr weld consolau o’r wyth cenhedlaeth sydd wedi’u rhyddhau yn y DU hyd yn hyn, a chael cyfle i chwarae rhai o glasuron y gorffennol hefyd fel y gwelwch yn y fideo…