Ffordd Cymru

Teulu newydd o dri llwybr cenedlaethol yw Ffordd Cymru sy’n eich arwain ar hyd yr arfordir, ar draws gwlad o gestyll a thrwy ein perfeddwlad fynyddig.

Mae Ffordd Cambria yn croesi meingefn Cymru am 185 milltir rhwng Llandudno a Chaerdydd, drwy Barciau Cenedlaethol a gofodau gwyrdd eang. Mae Ffordd yr Arfordir yn mynd ar hyd yr arfordir gorllewinol o amgylch Bae Ceredigion - taith ffordd 180 milltir rhwng môr a mynydd. Mae Ffordd Gogledd Cymru yn dilyn 75 milltir heibio i gestyll cadarn i Ynys Môn.

Rydym hefyd wedi awgrymu dolenni ac amdeithiau fel y gallwch ddewis teithio’n igam ogam a chreu eich taith Ffordd Cymru eich hun.

Map of the routes through Wales