Mae rhestru ar Croeso Cymru gan gynnwys gwefannau Travel Trade’ a ‘Meet In Wales’ (Saesneg yn unig) yn parhau i fod yn rhad ac am ddim, ond mae angen i chi hunanardystio manylion eich achrediad gan ddefnyddio’r ffurflen hon.

Mae ein dull newydd, a ddatblygwyd mewn partneriaeth â Cymdeithas Twristiaeth Anturiaeth Cymru (WATO)yn darparu ffordd syml i bobl sy’n ymweld â Chymru ddewis darparwyr gweithgareddau a gweithredwyr yn seiliedig ar eu gallu i gyflwyno ymarfer diwydiant diogel ac effeithiol. Mae hefyd yn caniatáu i ni gydnabod darparwyr gweithgareddau sy’n bodloni ein disgwyliadau o ran:

  • Twristiaeth gweithgareddau cynaliadwy
  • Arferion a safonau da o ran gofal cwsmeriaid

Mae hefyd yn rhoi hyder i ni fod darpariaeth gweithgareddau risg a reolir, o ansawdd da, ar gael ledled Cymru.

Straeon cysylltiedig