Cyfrinachau Cymru: mannau arswydus i'w gweld yn yr hydref

Mae llefydd yng Nghymru sy'n ddigon i godi gwallt eich pen, o goedwigoedd a mynwentydd hynod i blastai mawr gothig. Os ydych chi wrth eich bodd â straeon arswyd neu ddod wyneb yn wyneb â phethau dychrynllyd, goruwchnaturiol, dyma rai syniadau i godi arswyd arnoch dros yr hydref.

De a Gorllewin Cymru

The Skirrid Mountain Inn, Wye Valley gan David Williams
Yn ôl y sôn, y Skirrid Inn yn y Fenni yw'r dafarn â'r mwyaf o ysbrydion ynddi yng Nghymru, ac o fewn y muriau hyn ar hyd y blynyddoedd credir fod gwrachod wedi bod yn bwrw'u hud, a phobl wedi cael eu dienyddio. Yn wir, gallwch weld olion rhaffau'r crogwr hyd heddiw ar y distiau yn y nenfwd. Ond cymerwch ofal - mae llawer i ymwelydd wedi clywed lleisiau'n sibrwd, drysau'n cau'n glep a sŵn dychrynllyd rhywun yn cerdded yma ac acw. Mae triawd o gestyll arswydus yn y De - Castell Rhaglan, Castell Margam a Chraig-y-nos - ac efallai y gwelwch ysbryd ymhob un yn eu tro - y llyfrgellydd lloerig, y ciper cas ac enaid y gantores opera Adelina Patti. I rai sy'n ymchwilio i'r byd goruwchnaturiol mae Llancaiach Fawr ger Ffos-y-gerddinen yn llawn dop o bethau brawychus. Mae rhai'n dweud eu bod wedi clywed arogl fioled rhyfedd yno, clywed ysbrydion plant bach drwg yn codi twrw, a gweld Mattie, hen feistres y tŷ, yn crwydro yn y cysgodion.

Mae'n dywyll yn y coed heno...

Pembrey Woods, Carmarthenshire gan Chris
Mae llefydd eraill i chi fynd nad ydynt mor amlwg, efallai, fel Arddangosfa Doctor Who ym Mae Caerdydd lle gwelwch chi estroniaid erchyll o'r gofod, borgs a dalecs. Wrth fynd ar daith dywys y Pwll Mawr ym Mlaenafon fe gewch eich gollwng 300 troedfedd o dan y ddaear i dywyllwch dudew'r hen waith glo. Cewch glywed hanesion dirdynnol am y bechgyn oedd yn arfer cario'r glo i'r wyneb, a sonir bod eu hysbrydion yn dal o dan y ddaear. Byddwch yn wyliadwrus rhag i rywbeth dynnu ar eich dillad a chadwch lygad am ddrychiolaethau rhyfedd, ac efallai y clywch chi sgrechfeydd yn atsain drwy'r twnelau tywyll. Glywsoch chi erioed am wŷr y bwyelli bach ym Mhen-bre? Byddant yn defnyddio'u llusernau i ddenu llongau tua'r lan ac yn ymosod arnynt ar ôl iddynt ddryllio. Mae'r trigolion lleol yn dweud eu bod wedi gweld y bwyellwyr yn crwydro Coed Pen-bre, sy'n sefyll ers 400 mlynedd cyn Crist. A fentrwch chi yno?

Y Canolbarth

Tretower Court in the Brecon Beacons

Tretower Court, Brecon Beacons gan Fred255 Photography
Adeiladwyd Llys Tre-tŵr fel y mae heddiw yn y 15fed ganrif gan Syr Roger Vaughan, a sonir bod 'y Ladi Wen' yn byw yn y plasty hwn yng Nghrucywel, ysbryd gwraig Syr Roger, yn ôl y sôn. Mae pethau dychrynllyd wedi digwydd yng Ngwesty Maesmawr Hall ger Caersws, lle mae pobl yn taeru iddynt weld llengfilwyr Rhufeinig yn gorymdeithio, meistresi o Oes Elisabeth ac ysbryd hen darw, Robin Ddrwg, sydd yn ôl y sôn yn crwydro'r gerddi. Os ydych am fentro i'r seler, rhyngoch chi a'ch pethau! Ym Mhontarfynach y bont isaf o'r tair a godwyd yn yr 11eg ganrif yw'r man y sonir fod hen wraig gyfrwys wedi twyllo'r Diafol. Caiff ymwelwyr eu siarsio i gymryd gofal wrth fynd dros y bont liw nos, rhag ofn i'r Diafol 'ddial' arnynt am dwyll yr hen wraig. Mae hen chwedl Bedd y Lleidr yn sôn am John Davies (o Wrecsam) a grogwyd yn Nhrefaldwyn am ladrata pen ffordd. Mynnodd ei fod yn ddieuog gydol yr adeg wrth sefyll ei brawf a chael ei ddedfrydu, gan ddatgan na fyddai Duw yn gadael i'r un blewyn o laswellt dyfu ar ei fedd am gan mlynedd ar ôl iddo farw. Mae'n siŵr fod arnoch eisiau gwybod a oes glaswellt yno erbyn heddiw. Bydd yn rhaid i chi fynd yno i weld â'ch llygaid eich hun! Am brofiad brawychus i godi gwallt eich pen, ewch i'r Hafn Ddu ym Mhrofiad y Mynydd Arian, Ponterwyd. Byddwch yn ofalus gyda'r holl orcod o gwmpas!

Y Gogledd

Beaumaris Castle at night, Anglesey gan Kris Williams
Mae sôn am bethau dychrynllyd yn digwydd ym Miwmares, ac yn y Castell a'r Carchar mae pobl wedi clywed llafarganu rhyfedd, wedi teimlo rhywun neu rywbeth yn edrych arnynt, wedi clywed sŵn allweddi'n cloncian a gweld cysgodion duon yn symud o'u cwmpas. Y castell hwn oedd yr un olaf o blith y rhai a gododd Edward I yng Nghymru, ac mae'n dechnegol berffaith, ac yn y Carchar fe gewch syniad o'r driniaeth arw a gâi pobl o dan glo yn y 19eg ganrif. Adeiladwyd Castell Bodelwyddan yn y 15fed ganrif ac mae hanes erchyll i'r lle, gan gynnwys sgerbydau'n cuddio yn y muriau a drychiolaethau hen filwr, gwraig mewn gwisg Fictorianaidd a'r Wraig Las. 

Boneddigesau brawychus y Gogledd

Talacre Lighthouse, North East Wales gan Ian Wright
Mae digwyddiadau dychrynllyd ar droed ym Mhlas Newydd hefyd, lle bu 'Dwy Foneddiges Llangollen', y Foneddiges Eleanor Butler a Miss Sarah Ponsonby, yn byw. Credir fod y ddwy foneddiges yn aflonyddu ar y plasty hwn yn Llangollen hyd heddiw, yn gwneud synau anesboniadwy ac yn dod â rhyw deimlad oeraidd, trwm i rannau o'r tŷ.  

Does neb yn gweithio yng Ngoleudy Talacre bellach ('y Parlwr Du' ger Prestatyn, a adeiladwyd yn y 19eg ganrif) ond credir fod ysbryd y Ceidwad olaf yn dal yno, ac mae rhai pobl wedi'i weld mewn golau dydd, yn bwrw'i olygon tua'r môr.