Syllu ar y sêr o dan wybren dywyll Cymru

Mae rhyfeddodau'r bydysawd yn ddigon i gyffroi'r hen a'r ifanc, ac mae Cymru'n un o'r gwledydd gorau yn y byd i chi osod eich telesgop a rhythu ar anferthwch aruthrol y sêr.

Lle da i ddechrau yw Bannau Brycheiniog, a ddynodwyd yn Warchodfa Ryngwladol Awyr Dywyll yn 2012, yr un gyntaf yng Nghymru, ac mae'r Parc Cenedlaethol yn llawn o lefydd gwych i gael hoe o dan awyr arbennig o glir, gan gynnwys y Ganolfan Ymwelwyr ynghanol y Parc – sy'n hawdd ei gyrraedd o bob rhan o Gymoedd y De – a pharc gwledig a chastell Craig-y-nos, sy'n hawdd eu cyrraedd o Abertawe.

Mae Cwm Elan yn y Canolbarth hefyd â statws Awyr Dywyll bellach. Caiff yr ystâd gyfan dros 45,000 erw ei diogelu rhag llygredd golau, er budd y bobl sy'n byw ac yn gweithio yn yr ardal, yn ogystal ag ymwelwyr a'r cyfoeth o fywyd gwyllt sy'n byw yma.

Ym mwthyn Stargazer's Retreat, hen stabl i gadw merlod, fe gewch chi delesgop cyfrifiadurol ac arsyllfa i chi'ch hun, ac mae glannau cronfa ddŵr Llyn Wysg yn lle gwych i fynd am dro a chael picnic ar unrhyw adeg o'r flwyddyn, ond y peth gorau am y lle yw'r awyr dywyll heb unrhyw lygredd golau. Am le llawn awyrgylch i wylio taith y sêr drwy'r awyr, ewch i Gronfa Pontsticill ynghanol y bryniau a'r coed yng Nghwm Taf Fechan.

Mae rhyw deimlad clyd am bentref Crai, ac yn y caeau tawel yng nghysgod yr eglwysi chewch chi ddim eich trafferthu gan olau artiffisial. Ar draeth hyfryd Penbryn yng Ngheredigion, gallwch daenu blanced ar y tywod ac edrych ar dair seren yn y nen (Deneb, Fega ac Altair) wrth i forloi chwarae ar y traeth gyda'r nos. Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol sydd piau'r safle, ac mae wedi creu llwybr hamddenol sy'n dilyn glan y môr sy'n lle delfrydol i gael cip ar seren y Gogledd, a dod i ddeall pam fod morwyr wedi dibynnu arni i ddangos y ffordd ers mwy na 2,000 o flynyddoedd.

Startrails at St Govan's Chapel, Pembrokeshire

Startrails at St Govan's Chapel, Pembrokeshire

 gan Drew Buckley

Wrth glywed y tylluanod yn hwtian, efallai y gwelwch chi'r Llwybr Llaethog uwch eich pen, a rhywle arall sy'n dda i weld y rhyfeddod hwnnw yw Parc Penallta, hen bwll glo lle cewch chi olygfeydd godidog o'r gwlyptiroedd a'r arfordir. Os hoffech chi gael rhywfaint o gymorth wrth geisio dweud y gwahaniaeth rhwng awrora a nifwl, ewch gyda'ch sbienddrych i Ardd Fotaneg Cymru, y man cyntaf o'i fath i'w ddynodi'n Warchodfa Awyr Dywyll, lle cynhelir digwyddiadau yn rheolaidd i helpu pobl i gael gwell golwg ar y bydysawd.

Yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe mae Gardd yr Iard yn lle perffaith i gael golwg ar gytserau a chlystyrau o sêr, a chynhelir sesiynau cyffrous Dangos a Dweud yn rheolaidd, yn enwedig pan fydd y BBC yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau syllu ar y sêr bob mis Ionawr, i wneud y gorau o wylfeydd seryddol bendigedig Cymru.

Mae clogwyni a thraethau Pen Llŷn yn ymestyn i Fôr Iwerddon ac mae'r awyr uwchben yn anhygoel o glir. Dewch o hyd i le i eistedd, ymlaciwch a throwch eich golygon tua'r nen – mae cyn lleied o lygredd golau yma, mae'n ddigon posib y gwelwch chi sêr gwib heb orfod defnyddio unrhyw gyfarpar arbenigol. Ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro, mae canolfan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Ystangbwll yn lle arbennig i fwrw golwg dros yr arfordir o ben y clogwyni, a chewch weld panorama o sêr liw nos. Ble bynnag yr ewch chi i syllu ar y sêr, fe welwch eu disgleirdeb ar eu gorau yn awyr dywyll Cymru.