Gwyliau a gweithgareddau dros y Nadolig

Mae'r Nadolig yn amser i fwynhau gyda theulu a ffrindiau. Os ydych chi'n chwilio am rywle i fynd ar wyliau dros y Nadolig lle cewch chi flas ar hwyl yr ŵyl, bwyd blasus a gweithgareddau sy'n dod â phawb at ei gilydd, does unman gwell na Chymru.

Sanau trwchus. Siwmperi truenus. Mins peis. Mae gennym ni ddigonedd o'r rheiny. Ond hefyd gallwn gynnig chwa o awyr iach ar hyd Llwybr Arfordir Cymru, cyfle i wledda yn un o'r marchnadoedd Nadolig niferus, a phrofiad Nadoligaidd hen ffasiwn yn un o'n cestyll godidog. Pan ddaw'r amser i ddod i mewn o ganol y gaeaf oerlwm, mae digonedd o lefydd hyfryd i chi gynhesu'ch dwylo ac ymlacio mewn awyrgylch gartrefol.