Does dim ots os ydych chi’n debycach i Bambi nag i Torvill a Dean; mae sglefrio iâ yn ffordd dda o gadw’n heini a mwynhau ar yr un pryd, beth bynnag eich gallu. Cymerwch olwg ar y llefydd gwych yma lle gallwch chi sglefrio, sy’n addas ar gyfer pob oed a gallu.

Canolfannau sglefrio i’w mwynhau trwy'r flwyddyn

Canolfan Iâ Cymru, Bae Caerdydd

Os nad ydych chi erioed wedi sglefrio o’r blaen, neu i'r gwrthwyneb rydych yn awyddus i gystadlu yng Ngemau Olympaidd y Gaeaf y tro nesaf, mae Canolfan Iâ Cymru yn cynnig cyrsiau addas ar gyfer pob oed a lefel. Neu gallwch archebu lle mewn sesiwn sglefrio agored, llogi sgidiau sglefrio a mentro eich ffordd eich hun ar yr iâ.

Wedi ei leoli ym Mae Caerdydd, mae’n safle aml-ddefnydd unigryw ac iddo ddau lawr sglefrio a seddi gwylio i dros 3,000 o bobl. Mae hefyd yn gartref i dîm hoci iâ y Cardiff Devils, sy’n chwarae yng Nghynghrair Elît Hoci Iâ Prydain, sef y safon uchaf posib ar gyfer hoci iâ yn y Deyrnas Unedig.

Dau berson yn sglefrio ar draws yr iâ.
Dyn a phlentyn yn sglefrio ar yr iâ yn dal gafael ar un o’r teclynnau cymorth i blant.

Canolfan Iâ Cymru, Caerdydd

Arena Iâ Glannau Dyfrdwy, Sir y Fflint

Mae’r ganolfan yn cynnig gwersi sglefrio iâ i grwpiau oedran amrywiol, cymorth sglefrio, bar byrbrydau, a hyd yn oed disgo ar iâ. Dyma un o ddim ond dwy arena yng Nghymru a chaiff ei defnyddio fel safle hyfforddi i’r sêr sy’n cymryd rhan ar raglen deledu ITV, Dancing on Ice. Archebwch docynnau o flaen llaw.

Lloriau iâ tymhorol y tu allan

Gwledd y Gaeaf ar y Glannau yn Abertawe

15 Tachwedd 2023 - 05 Ionawr 2024. Mae Gwledd y Gaeaf ar y Glannau yn dod â’r cyffro Nadoligaidd i ganol dinas Abertawe. Mae’r cytiau alpaidd a’r atyniadau ffair wedi symud i Barc yr Amgueddfa ger Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, ac mae hynny ar ben y llawr sglefrio mawr ar gyfer pob oed a’r llawr sglefrio llai i blant yn unig. Beth am fanteisio ar yr ymweliad a mynd i wneud ychydig o siopa Nadolig yr un pryd yng nghanolfan siopa’r Quadrant neu ar hyd Stryd Rhydychen.

sglefrwyr iâ ar lawr sglefrio tu allan dan orchudd a goleuadau lliwgar
llun gyda’r nos o’r ffair yng Ngwledd y Gaeaf a theganau ym mlaen y llun, pobl yn cerdded rhwng atyniadau ac olwyn fawr wedi ei goleuo yn y cefndir

Gwledd y Gaeaf ar y Glannau, Bae Abertawe

Gŵyl y Gaeaf, Ynys y Barri

O Hydref 2023 - Ionawr 2024. Mae'r llawr iâ wedi ei leoli o fewn y parc antur 'Barry Island Pleasure Park' felly ar ôl y sglefrio rhowch gynnig ar y reidiau.

Llawr sglefrio a llwybr iâ, Castell Caerdydd

16 Tachwedd 2023 – 07 Ionawr 2024. Mae Gŵyl y Gaeaf Caerdydd yn ôl yn fwy ac yn well nag erioed. Mae Castell Caerdydd unwaith eto’n gartref i’r atyniad hynod boblogaidd hwn – ewch draw i’r llawr sglefrio dan do a’r llwybr cerdded iâ hudolus am ddigonedd o hwyl yr ŵyl. 

 

olwyn fawr wedi ei oleuo gyda’r nos.
Arwydd Caerdydd wedi ei oleuo.
arwyddion wedi eu goleuo ac arwydd addurniadol ar gyfer hoci iâ.

Nadolig yng Nghaerdydd

Sglefrio yn ICC Cymru, Casnewydd

15 Rhagfyr 2023 - 04 Ionawr 2024. Mwynhewch sesiwn sglefrio yn ICC Cymru yng Nghasnewydd, gyda phrisiau yn cychwyn o £8. Mae yna stondinau bwyd a diod Nadoligaidd a marchnad i wneud eich siopau Nadolig.

Straeon cysylltiedig