Y Mwmbwls, Abertawe

Mae’r Mwmbwls, ar gyrion Abertawe, yn lle delfrydol i grwydro o’i gwmpas am ychydig oriau neu i fynd am wyliau bach. Glan môr Bae Abertawe yw prif leoliad y cyffro, gyda’r llwybr ar hyd glan y traeth sy’n rhoi golygfeydd ysgubol dros y ddinas i un cyfeiriad a goleudy’r Mwmbwls a’i greigiau gwyllt i’r cyfeiriad arall. Os yw’r fath beth yn bosib, mae gormod o ddewis o hufen iâ ar gael yma, gyda Ripples, Joe’s, a Verdi’s oll mewn lleoliadau perffaith ar gyfer crwydro ar hyd y lan â rhywbeth blasus o felys. Yn ddiweddar, cafodd y promenâd ddiwygiad ar ffurf datblygiad newydd Oyster Wharf, ble mae gan yr holl fwytai olygfeydd ysblennydd, ond os ydych chi’n ffansïo cael pryd cofiadwy, camwch oddi ar lwybr y glannau a mynnwch fwrdd ym mwyty Patrick’s, sefydliad eithaf crand sy’n gweini goreuon tir a môr. Efallai fod eich dant at rywbeth mwy anffurfiol? Gallwch flasu silod ffres wedi’u ffrio neu granc parod o’r Gower Seafood Hut, reit ar lan y dŵr. Rhaid dringo’r bryn ar hyd Heol Newton i fwynhau siopau annibynnol hyfryd y Mwmbwls, gan gynnwys boutiques, ynghyd ag Olives & Oils rhagorol a Cheers drws nesaf; mae’r cyntaf yn gwerthu cawsiau bendigedig a’r llall yn paratoi gwirod o bob math: perffaith ar gyfer hunanarlwyo neu bicnic ar lan y môr!

Goleudy pen y Mwmbwls ar godiad haul o Fae Breichled.

Y Mwmbwls, Abertawe

Talacharn, Sir Gâr

Daeth Talacharn yn gyfystyr â’r awdur Dylan Thomas, a ddywedodd mai hon oedd ‘y dref ryfeddaf yng Nghymru’. Er gwaethaf amwysedd y gosodiad, roedd gan Dylan feddwl y byd o’r lle hwn.

Bu’n byw yn y dref yn ystod pedair blynedd olaf ei fywyd, gan ysgrifennu Dan y Wenallt o’r cwt ysgrifennu unigryw uwchlaw aber Afon Taf. Mae Dylan a'i wraig Caitlin wedi eu claddu ym mynwent eglwys ganoloesol San Martin. Mae hi’n werth ymweld â Chartref Dylan Thomas, ble roedd y teulu’n byw er mwyn archwilio’i fywyd a’i waith, ac mae Castell Talacharn yn lle heddychlon i grwydro ynddo heddiw; ysbrydolwyd Dylan i ysgrifennu yn nhŷ haf yr ardd yno.

Gan ddilyn yn ôl troed Dylan Thomas, dylech aros gyda’r nos am ddiod neu ddau yn Brown’s Hotel, ble treuliodd yr awdur sawl prynhawn. Mae’r dafarn wedi croesawu enwogion lu, gan gynnwys Mick Jagger, Arlywydd Carter, Elizabeth Taylor a Richard Burton. Ar ôl cyfnod o adnewyddu, ail-agorodd y lle fel gwesty boutique, a’i arddull addurniadol yn deillio o’r 1950au. Mae’n anodd gwella ar The Cors ar gyfer pryd nos, sy’n gweini bwyd brasserie / bistro hyfryd iawn bron bob penwythnos, ynghyd â bwyta preifat ar gyfer hyd at ddeg o bobl. Mae’r gwasanaeth yn anarferol, yng ngolau cannwyll, ac amgylchynir y lle gan ardd fendigedig.

Dewch ar ymweliad yn ystod Penwythnos Talacharn, i brofi gŵyl lenyddol hyfryd o hamddenol, ble bydd yr awduron yn cymysgu gyda’r trigolion yn nhafarndai’r dref ar ôl cyflwyno’u sgwrs, a bydd partïon yn para hyd oriau mân y bore…

Dau berson yn cerdded ar lwybr sy'n rhedeg heibio adfeilion y Castell
Golygfa o'r aber ar bwys Talacharn

Talacharn, Sir Gâr

Dinbych-y-pysgod, Sir Benfro

Byddai’n hawdd meddwl eich bod wedi camu i ganol llun ar gerdyn post yn Ninbych-y-pysgod, tref ddeniadol yn Sir Benfro wedi’i lleoli ar bentir a amgylchynir gan draethau tywodlyd, braf, a’i strydoedd yn llawn o dai lliwiau losin. Gadawodd y Normaniaid eu hôl yma; adeiladwyd muriau’r castell canoloesol i amddiffyn y dref rhag y Cymry gwrthryfelgar, ac maen nhw’n dal yno heddiw - er yn fwy croesawgar erbyn hyn! O ran atyniadau, yma mae amgueddfa annibynnol hynaf Cymru, Amgueddfa Dinbych-y-pysgod a’r Oriel Gelf hyfryd, ynghyd â Thŷ’r Masnachwr Tuduraidd dan ofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Ond mae’r prif bleserau yn y dref hon yn llai ffurfiol: crwydro’r we o strydoedd cefn hynafol a darganfod parlyrau hufen iâ, caffis a stiwdios artistiaid.

Os ydych chi’n hoffi cwrw brag, cofiwch ymweld â Bragdy Harbwr Dinbych-y-pysgod, sy’n hollol gyfoes er gwaetha’i leoliad mewn warws o’r 18fed ganrif a adferwyd yn gartref i’r busnes blaengar hwn. Mae’n cynnig y profiad ‘Hopys a hwyl’ sy’n cynnwys taith ac, wrth gwrs, cyfle i flasu! Gwerthir y cwrw lleol hwn, ynghyd â llawer o rai eraill mewn tafarndai fel The Hope & Anchor a The Buccaneer. Am ginio, coffi neu hufen iâ llawn naws arbennig, cofiwch chwilio am The Stowaway, sy’n llechu mewn bwa uwchlaw’r harbwr, â’r cyfeiriad hyfryd ‘2 Penniless Cove’. Mae’r brechdanau cranc a weinir yma’n taro deuddeg, a’r siocled poeth yn berffaith ar ddiwrnod garw.

Mae Plantagenet House yn cynnig profiad bwyta gwirioneddol unigryw, ble gallwch fwyta pysgod a bwyd môr ffres yn adeilad hynaf y dref. O Ddinbych-y-pysgod, taith fer ar gwch yw hi drosodd i Ynys Bŷr a’i chymuned o fynachod Sistersaidd, sy’n gwneud ac yn gwerthu sebonau a phersawr moethus gan ddefnyddio perlysiau gwyllt yr ynys. Dyma le perffaith i unrhyw un sy’n caru byd natur, am fod morloi ac adar môr yn amgylchynu’r lle’n aml.

Harbwr Dinbych-y-pysgod gyda'r tai lliwgar yn adlewyrchu yn y môr
Llun o Gaer Ynys Catrin ar Ynys Catrin, a chychod bach yn casglu teithwyr o Ddinbych-y-pysgod

Dinbych-y-pysgod ac Ynys Catrin

Aberteifi, Ceredigion

Mae ymdeimlad o adfywiad ar droed yn Aberteifi, gyda busnesau newydd yn agor a ffynnu, a chanolbwynt newydd egnïol ar ffurf Castell Aberteifi. Enillodd y Castell wobr ‘Adnewyddiad y Flwyddyn’ Sianel 4, a heddiw gallwch ddarganfod 900 mlynedd o hanes yno, mwynhau llwybrau celf, gwrando ar gerddoriaeth, edrych ar arddangosfeydd neu flasu bwyd blasus yn y bwyty, 1176. Os ydych chi’n caru celf, mae Oriel Gelf Pendre yn lle gwych i edmygu a phrynu paentiadau, ffotograffiaeth, gemwaith, crochenwaith, gwaith coed a mwy gan dros 100 o artistiaid lleol. Mae yna gaffi rhagorol yma hefyd, ac weithiau mae’n cynnal nosweithiau coctel hwyliog a nosweithiau cwis.

Ychwanegiad cymharol newydd i’r dewis o leoedd bwyta yn Aberteifi, ond un sy’n boblogaidd gan ymwelwyr a phobl leol fel ei gilydd yw’r Pizza Tipi. Yr un bobl sy’n gyfrifol am y lle hwn ag sy’n rhedeg Fforest (sy’n cynnig detholiad rhagorol o ddewisiadau llety anarferol yn yr ardal), sef pedwar brawd a’u criw o ffrindiau hwyliog, ac mae’r Tipi’n gweini pizza blasus o ffwrn goed mewn safle hyfryd uwchlaw Afon Teifi.

Llun heulog o ochr yr eglwys fechan wedi gwyngalchu
Gwydraid o gwrw ar lan yr Afon Teifi

Eglwys y Grog ym Mwnt, a diod bach ar lan yr Afon Teifi

Ceinewydd ac Aberaeron, Ceredigion

Ychydig dros saith milltir sy’n gwahanu Ceinewydd ac Aberaeron, ac mae’r ddau’n lleoedd rhagorol i ymweld â nhw, ble gallwch fwynhau’r machlud dros y môr sy’n rhan mor hanfodol o Orllewin Cymru. Mae llawer yn credu mai Ceinewydd oedd yr ysbrydoliaeth – neu un ysbrydoliaeth o leiaf – a ysgogodd Dylan Thomas i greu ‘Llareggub’, tref ddychmygol Dan y Wenallt; bu Dylan yn byw yma am gyfnod a gallwch ddilyn Llwybr Ceinewydd yn ôl troed yr awdur a’i waith enwocaf, sy’n crwydro drwy strydoedd serth y dref, ei therasau o Oes Fictoria, a’r golygfeydd ysgubol dros yr arfordir.

Os taw hufen iâ yw eich peth chi, cofiwch ymweld â Creme Pen Cei – buan y gwelwch fod angen sawl ymweliad er mwyn gwneud cyfiawnder â’r cyfoeth o flasau amryliw, a weinir mewn tybiau â thyrrau o ffrwythau ffres a blasau arbennig ar ben yr hufen iâ. Mae’r môr o gwmpas yr ardal hon yn boblogaidd gan lamhidyddion a dolffiniaid, felly cofiwch am Ganolfan Forol a Bywyd Gwyllt Bae Ceredigion ar gyrion Ceinewydd, sy’n cynnig teithiau mewn cwch i weld y creaduriaid a dysgu pam fod y fan hon mor ddelfrydol iddyn nhw.  

Wrth droi am Aberaeron, dyma wledd i’r llygaid – byddwch yn estyn am eich ffôn i gael rhoi lluniau o’r tai Sioraidd amryliw ar Instagram, yn enwedig y rhai sydd o gwmpas yr harbwr, wrth i’r lliwiau gael eu hadlewyrchu yn y dŵr rhwng y cychod. Mae’r strydoedd yn llawn o siopau annibynnol a chaffis, ac mae’r dewis o leoedd i fwyta yma yn ddiddiwedd, gan gynnwys ffefrynnau adnabyddus Yr Harbwrfeistr a The Hive, bar, bwyty a pharlwr hufen iâ, sy’n enwog am ei hufen iâ blas mêl.

Golygfa o arfordir Aberaeron gyda tai a mynyddoedd

Aberaeron, Ceredigion

Abersoch ac Aberdaron, Gwynedd

Holwch unrhyw un am Ben Llŷn, ac mae’n debygol y cewch chi eich cyfareddu gan eu hymateb emosiynol wrth iddyn nhw sôn am un o ardaloedd mwyaf cyfareddol a hudolus Cymru. Dyma ardal ag iddi wylltineb garw a fydd yn apelio at anturiaethwyr; harddwch amrwd sydd at ddant artistiaid a rhamantwyr, a thonnau ysgubol i’r rheiny sy’n dwlu syrffio.

Hen bentref pysgota yw Abersoch, sy’n croesawu miloedd o ymwelwyr i’w draeth Baner Las bob haf. Fel arfer bydd y syrffwyr a’r caiacwyr yn mentro ymhellach i’r de, i Borth Neigwl, sy’n llawer tawelach na’r pot-jam yn Abersoch. Dyma’r lle delfrydol i fentro ar y dŵr os ydych chi’n ffansïo rhoi cynnig ar hwylio – mae Ysgol Hwylio Abersoch yn gallu hyfforddi pob gallu.

Ar ôl yr holl chwarae yn y dŵr, mae’n sicr y byddwch wedi magu archwaeth am fwyd, a’r lle mwyaf poblogaidd yn lleol i flasu blasau bywiog yw The Coconut Kitchen. Bwyty Thai ydyw, sydd wedi cipio gwobr y gorau yng Nghymru, ac mae’r sawsiau y gellir eu prynu oddi yma i fynd adre gyda chi wedi ennill nifer fawr o wobrau ‘Gwir Flas’.

Dewis rhagorol arall yw Venetia, a leolir mewn tŷ Fictoraidd crand, sy’n gweini pasta a bwyd môr ardderchog. Mae Aberdaron ymhellach i’r gorllewin, ym mhen eithaf Cymru – yn wir, mae’n teimlo eich bod wedi cyrraedd diwedd y byd yma! Ond os mentrwch chi ychydig ymhellach eto, fe ddaw Ynys Enlli hudolus i’r golwg, lleoliad anhygoel ar gyfer darganfod hanes, adara a bwyta afal prinnaf y byd!

Cychod ar y traeth gyda'r môr yn y cefndir

Abersoch, Gwynedd

Porthaethwy, Biwmares a Chaergybi, Ynys Môn

I gyrraedd Ynys Môn, dewiswch groesi drosodd i Borthaethwy dros bont grog ysblennydd Thomas Telford, y cyntaf o’i math yn y byd pan agorwyd hi yn 1826. Yn y dref y mae archfarchnad Waitrose ble arferai Dug a Duges Caergrawnt siopa pan oedden nhw’n byw ym Môn, ond mae’n debygol y byddai’n well gennych chi fwynhau gogoniannau seren Michelin bwyty Sosban and the Old Butchers, a’r rhyfeddol Dylan’s, sy’n fwy hamddenol ond yn rhagorol yr un modd.

Mae gan Biwmares achos da dros fod yn dref harddaf Môn, a dyma un o’r lleoliadau prysuraf ar yr ynys hefyd. Mae’r lleoliad, ar lan y Fenai, yn cynnig golygfeydd gwirioneddol ryfeddol drosodd i Eryri, ac mae’r dref yn llawn o adeiladau Sioraidd hardd, pier crand a Chastell Biwmares, sef ‘castell mwyaf perffaith o ran techneg ym Mhrydain gyfan’ – Safle Treftadaeth y Byd UNESCO, cofiwch – ynghyd â detholiad rhagorol o leoedd bwyta ac yfed. Gallwch gyfuno bwyd a diod yn The Bull, ble mae’r bar clyd yn dyddio’n ôl 400 mlynedd, ac mae’r tân coed yn eich denu i swatio gyda chwrw da am awr neu ddwy. Mae gan y dafarn ddau fwyty bendigedig hefyd, ond cofiwch am awyrgylch hamddenol a bwyd blasus y bwyty Eidalaidd Tredici, sy’n boblogaidd gan bobl leol.

Cyfunir bywyd gwyllt rhyfeddol a golygfeydd eithriadol yn Ynys Lawd, cartref Gwarchodfa Natur RSPB a’r goleudy enwog; ar y creigiau islaw’r goleudy hwn y tynnwyd lluniau’r fodel Jerry Hall wedi’i gwisgo fel morforwyn ar gyfer clawr albwm Roxy Music, Siren! Mae Ynys Lawd dair milltir i’r gorllewin o Gaergybi, sy’n dal i fod yn borthladd prysur ar gyfer croesi i Iwerddon. Bydd hi’n anodd tynnu eich llygad oddi ar yr olygfa, felly pan fydd hi’n amser bwyd, ewch i’r Harbourfront Bistro, mewn lleoliad delfrydol ar lan y dŵr.

Llun o'r bont grog gyda choed a thai yn y cefndir a chwch ar Afon Menai

Pont y Borth ac Afon Menai

Straeon cysylltiedig