Dianc i’r ynysoedd

I’r anturiaethwr brwd, does dim byd sy’n well na mentro y tu hwnt i’r tir mawr. Mae 50 o ynysoedd i demtio’r teithiwr o gwmpas arfordir Cymru, ble gellir darganfod tirweddau, bywyd gwyllt a threftadaeth unigryw. Beth am ymbellhau ychydig o fywyd bob dydd ac ymhyfrydu yn yr ynysoedd Afallon go iawn hyn?  

Ynys Môn, Gogledd Cymru

Brynsiencyn

Brynsiencyn, Ynys Môn
Mae ynys fwyaf Cymru, sy’n sir ynddi’i hun, Ynys Môn, yn cynnig dewis o brofiadau i’r ymwelydd. Ar hyd gogledd yr ynys, creigiau garw a hanes diwydiannol sydd amlycaf, tra bo’r golygfeydd tua’r de o wastadeddau de-orllewin yr ynys yn rhoi panorama rhyfeddol i chi o fynyddoedd Eryri ar draws Afon Menai, y llain gul o fôr sy’n rhannu’r ynys a Gwynedd.

Mae Anglesey Adventures yn cynnig dewis helaeth o weithgareddau i bobl fentrus, gan gynnwys diwrnodau llawn neu hanner diwrnodau o hyfforddiant mewn arfordira, caiacio môr, sgrialu mewn ceunentydd, dringo creigiau, adeiladu rafftiau ac abseilio. Ar y llaw arall, gallech groesi dros y sarn i Ynys Llanddwyn, sydd ond yn ynys go iawn oddi ar Fôn pan fydd y llanw’n uchel, neu mentrwch mewn cwch i Ynys Seiriol tua’r dwyrain, neu dros y bont i Ynys Cybi.

Ar Ynys Cybi, gallwch dorheulo ar draethau poblogaidd Rhoscolyn a Threarddur a dringo i ben goleudy Ynys Lawd ar daith gyda thywysydd. Mae Ynys Seiriol ar ben dwyreiniol Afon Menai, sy’n gwahanu Môn a Gwynedd. Mae hi’n werth mynd ar daith gwch o Fiwmares i weld y bywyd gwyllt, y golygfeydd o’r dŵr, ac i bysgota yn y môr ffrwythlon sy’n amgylchynu’r ynys.

Cyrraedd yno: Gellir mynd i Ynys Môn (ynghyd ag Ynys Cybi ac Ynys Llanddwyn) ar hyd y ffordd fawr o Fangor, 3 milltir (5 km) i ffwrdd dros Bont y Borth; neu mae’r trên yn croesi Ynys Môn i Gaergybi. Bydd angen i chi archebu lle ar daith mewn cwch er mwyn ymweld ag Ynys Seiriol – mae Sea Coast Safaris yn cynnig teithiau.

Ynysoedd Sir Benfro, De Orllewin Cymru

Priory Bay on Caldey Island, Pembrokeshire

Ynys Bŷr, Sir Benfro gan Paula J James
Mae’r triawd o ynysoedd cyfagos, Sgomer, Sgogwm a Gwales, yn benthyg eu henwau gan ymwelwyr hynafol Llychlynnaidd. Lleolir yr ynysoedd oddi ar arfordir de Sir Benfro, ac maen nhw’n rhagori fel cartrefi i fywyd gwyllt eithriadol. Dynodwyd y tair ynys gyda’i gilydd fel Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, ac maen nhw’n cael eu cynnwys ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro yng Ngorllewin Cymru.

Mae Sgomer, yr ynys fwyaf, yn gartref i haid lwyddiannus o balod, a daw ymwelwyr yn llu i weld yr adar bach doniol hyn â’u pigau mawr lliwgar. Os ewch am dro o gwmpas llwyfandir uchel yr ynys, fe ddewch ar draws yr hen fferm a chewch olygfeydd ysgubol o’r creigiau uchel a’r moroedd o gwmpas yn fyw gan adar y môr. Gallwch aros dros nos ar Sgomer mewn llety hunanarlwyo – ac mae’n brofiad a hanner pan fydd hi’n gyfnod nythu adar drycin Manaw, wrth i’r adar ddychwelyd gyda’r nos o’u helfa, i sain iasol eu cân arallfydol.

Mae Sgogwm gyfagos yn fwy garw. Mae’r creigiau’n gogwyddo i lawr i Fôr Iwerddon, sy’n torri’n wyllt ar hyd ei glannau, gan greu tirwedd ddramatig a gwyllt i ffotograffwyr. Mae Sgogwm yn enwog am yr wylfa adar sydd yma, lle sy’n denu pobl â diddordeb mewn bywyd gwyllt i ddod yma o bob cwr o’r byd.

Ynys bellennig, fechan Gwales yw pwynt mwyaf gorllewinol Cymru, ac mae 11 milltir o fôr rhyngddi hi ac arfordir Sir Benfro. Cewch gyfle i weld haid enwog yr ynys o huganod drwy gyfrwng taith fôr agored, ynghyd â dolffiniaid, llamhidyddion a morloi.

Gallwch gael profiad hollol wrthgyferbyniol drwy fentro drosodd yr ychydig lathenni i Ynys Bŷr, yn agos i dref glan môr enwog Dinbych-y-pysgod. Mynnwch daith o gwmpas y Fynachlog Sistersaidd, a thorheulwch ar y traeth perffaith sydd yma. Cofiwch beidio â gadael cyn ymweld â’r siop anrhegion a’r Swyddfa Bost: mae’r mynachod yn gwneud ac yn gwerthu’u persawr lafant a bisgedi brau eu hunain, yn cyhoeddi stampiau’u hunain ac yn defnyddio’u harian unigryw ar yr ynys.

Cyrraedd yno: Gellir mynd i Sgomer, Sgogwm a Gwales am y dydd ar fad neu ar daith o gwmpas yr ynysoedd o St. Martin’s Haven, ger Dale. Gellir cael cwch i Ynys bŷr o Ddinbych-y-pysgod.

Ynys Enlli, Gogledd Cymru

Sunset and Bardsey Island courtesy of Bardsey Island Trust

Ynys Enlli, Gogledd Cymru gan Ymddiriedolaeth Ynys Enlli
Rhaid teithio i ben pellaf Llŷn yng Ngogledd Cymru, ac yna mynd ar gwch ar draws y Swnt, i gyrraedd Ynys Enlli. Wrth groesi, mae’n debygol y gwelwch chi balod ar y dŵr, yn y tymor cywir, wrth gwrs.

Mae ‘ynys yr ugain mil o seintiau’ yn lle hudolus, wrth i niwl y môr glirio copa Mynydd Enlli, pwynt uchaf yr ynys, gan roi golygfa i chi dros y fferm weithredol, olion yr abaty a’r morloi sy’n gorffwyso ar y creigiau.

Cyrraedd yno: Archebwch daith mewn cwch o Aberdaron gyda Theithiau Cychod Enlli er mwyn ymweld â’r ynys. 

Pen Pyrod, De Cymru

Sunset on Worm's Head

Pen Pyrod
Breuddwyd pob cynllunydd cardiau post yw Pen Pyrod, sy’n ymwthio allan o benrhyn Rhosili ym mhen pellaf Gŵyr yn Ne Cymru. Am chwe awr pan fydd y llanw allan, gallwch sgrialu dros y creigiau cyn dringo i’r gefnen ac – os ydych chi’n ffodus – weld morloi’n ymlacio yn y dŵr islaw. Mae’n lle ardderchog i edrych yn ôl ac edmygu traeth hir Rhosili, ble mae syrffwyr wrth eu bodd, heb sôn am deuluoedd yn cael diwrnod mas a pharau rhamantus hefyd. Gallwch gael amserau croesi yng Nghanolfan Ymwelwyr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Rhosili, neu gwiriwch ymlaen llaw ar-lein.

Cyrraedd yno: Gellir ymweld â Phen Pyrod am y dydd o Abertawe, 20 milltir (32km) i ffwrdd.

Ynys Echni, De Cymru

Flat Holm island which can be seen from Lavernock Point
Ynys Echni, De Cymru

O argae Bae Caerdydd yn Ne Cymru, gellir gweld Ynys Echni (Flat Holm) draw dros y tonnau, fel pe bai ynghanol Môr Hafren. Mae creigiau Ynys Ronech, Seisnig, yn sefyll fel cawr dros Echni wastad, Gymreig, wrth ei hymyl. Ymunwch â thaith dywys o gwmpas yr ynys i ddysgu am hanes smyglo yn ei gorffennol, a’r goleudy sy’n dal i gynorthwyo morwyr. Oddi yma, yn 1897, y darlledwyd y signalau diwifr cyntaf ar draws môr agored gan y ffisegydd o’r Eidal, Guglielmo Marconi. Yn yr un modd ag y gofynnodd neges gyntaf Marconi: “Ydych chi’n barod?”.

Cyrraedd yno: Gellir ymweld ag ynys Echni am y dydd o Gaerdydd fel rhan o daith 5 milltir (8 km) mewn cwch. Gallwch gyrraedd yr ynys ar gwch Ynys Echni.