Treftadaeth ein harfordir

Plymiwch i’r gorffennol ar hyd arfordir Cymru, gan oresgyn cestyll hynafol, archwilio cyfrinachau cudd cartrefi hanesyddol, dilyn ôl troed môr-ladron a dod â’r chwedlau’n fyw.

Cestyll y glannau

Harlech Castle

Castell Harlech gan Wales On View

Un o’r pethau hanfodol i’w cofio wrth adeiladu cadarnle yn ystod y 13eg ganrif oedd bod angen gweld y môr wrth leoli castell, am y gallai pob math o ymosodiad ddod o’r cyfeiriad hwnnw. Yng Ngogledd Ddwyrain Cymru, Castell y Fflint oedd y castell cyntaf yng nghyfres Cylch Dur brenin Lloegr, Edward I, sef rhes o amddiffynfeydd a gynlluniwyd er mwyn goresgyn y Cymry. Er nad yw castell y Fflint mewn cyflwr cystal â’i greadigaethau eraill, mae gan yr adfail ddigonedd o awyrgylch o hyd, a hanes cyfoethog – er enghraifft, dyma leoliad cipio Richard II yn y ddrama gan Shakespeare o’r un enw.

Ewch ymlaen ar hyd arfordir Gogledd Cymru, a dewch wyneb yn wyneb â phedwarawd o gestyll Edward I a gedwir gan Cadw: Conwy, Biwmares, Caernarfon a Harlech sydd, ynghyd â Waliau Tref Conwy, yn ffurfio Safle Treftadaeth y Byd UNESCO. Mae’r pedwar yn fawreddog, yn nerthol ac yn ‘gestyll go iawn’ – y mathau y byddech chi’n arfer eu hadeiladu o Lego pan oeddech chi’n fach. Mae gan bob un dŵr crwn ac adeiladwaith ‘waliau o fewn waliau’; yn wir, cyfeirir yn aml at Fiwmares fel y castell ‘mwyaf technegol berffaith’ ym Mhrydain. Mae’r pedwar safle ar agor i ymwelwyr a chynhelir digwyddiadau rheolaidd ymhob un ohonynt. 

Un arall o berlau Gogledd Cymru yw Castell Cricieth, un o’r cadarnleoedd a welodd y mwyaf o ymladd a newid dwylo yn y wlad i gyd. Fe’i hadeiladwyd yn wreiddiol gan Llywelyn Fawr, ond aeth Edward I ati i wneud ychydig o ‘welliannau’ – fel y tŵr i ddal peiriant taflu cerrig – cyn i Owain Glyndŵr gipio’r castell a llosgi’r rhan fwyaf o’r eiddo tua dechrau’r 15fed ganrif, yn ystod gwrthryfel mawr olaf y Cymry yn erbyn y Saeson. Dyw hi ddim yn anodd gweld pam fod Cricieth mor ddeniadol – mae’r lleoliad ar benrhyn rhwng dau draeth, wedi’i amgylchynu â dŵr, yn syfrdanol. Dewch yma i fwynhau golygfeydd godidog.

Aerial view of Llansteffan Castle looking towards the sea

Castell Llansteffan

Mae Sir Benfro’n gartref i bob math o gadarnle, o gestyll cynnar tomen a beili i balasau caerog crand ar gyfer esgobion. Maenorbŷr yw un o’r goreuon ar lan y môr – disgrifiwyd y lle gan Gerallt Gymro, yn ystod ei daith o gwmpas y wlad yn y Canol Oesoedd fel ‘y lle mwyaf dymunol yng Nghymru’. Mae’r cartref barwnaidd Normanaidd yn sefyll uwchlaw traeth godidog, a gallwch archwilio’r grisiau, y tyrau a’r muriau amddiffynnol niferus, ynghyd â gerddi muriog, sy’n fendigedig o heddychlon. 

Castell arall sydd wedi cael ei gyfnewid rhwng y Normaniaid a’r Cymry yw Llansteffan yn Sir Gaerfyrddin. Dyma leoliad heb ei ail uwchlaw traethau eang aber Afon Tywi. Creadigaeth o bridd a phren oedd y castell hwn i ddechrau, a datblygodd yn gadarnle cerrig nerthol a gipiwyd am gyfnod gan gefnogwyr Owain Glyndŵr yn 1405-06.

Tai hanesyddol ar lan y môr – â gerddi gogoneddus…

Plas yn Rhiw looking towards the house and sea over the gardens
Plas Yn Rhiw, Pen Llŷn gan Ymddiriedolaeth Genedlaethol

Ar lan Afon Menai mae Plas Newydd, dan ofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae’r tŷ’n enwog am ei gysylltiad â’r artist Rex Whistler, yn enwedig y murlun enfawr gan yr artist ynghyd ag arddangosfa o’i waith yma. Adeiladwyd y plasty hwn gan feddwl am y golygfeydd ohono – ar draws y Fenai ceir cadernid Eryri yn ei holl ogoniant. Gallwch gerdded drwy’r goedwig yma, ymweld â gardd goed arbennig iawn gyda thyfiant o rhododendrons ar ddechrau’r haf a llwyni’r tri-lliw-ar-ddeg ddechrau’r hydref – dyma dŷ ar gyfer pob tymor.

I’r de, ym Mhen Llŷn mae Plas yn Rhiw bendigedig, hefyd dan ofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae gan y tŷ hwn hanes deniadol iawn; achubwyd y tŷ rhag mynd â’i ben iddo gan y tair chwaer Keating yn 1938. Fe’i hadferwyd yn ofalus ac mae’n llawn o weithiau celf gan gyn-drigolion a’u gwesteion, gyda nodweddion pensaernïol a ysbrydolwyd gan Syr Clough Williams-Ellis (sy’n enwog am greu Portmeirion). O’r gerddi, ceir golygfeydd ysgubol dros Ben Llŷn, ac maen nhw’n llawn o gilfachau rhamantus ble gallwch fwynhau picnic neu ennyd dawel i chi eich hun.

Ymhellach fyth i’r de, cofiwch ymweld â Llanerchaeron, perl arall sydd dan ofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae Llanerchaeron yn enghraifft ragorol o waith cynnar y pensaer John Nash, a aeth ymlaen i gynllunio rhannau o Balas Buckingham. Ar ôl ei gynllunio yn y ddeunawfed ganrif, ni newidiwyd y lle am 200 mlynedd, ac mae ganddo fuarth gwasanaeth penodol sy’n cynnwys bwtri, tŷ golchi, bragdy a thŷ halltu, sy’n rhoi profiad ‘byddigion a gweision’ eithriadol o ddiddorol i’r ymwelydd. Yn ogystal, gallwch ymgolli wrth grwydro o gwmpas y gerddi muriog.

Ymlaen tua’r de-orllewin i Sir Benfro, a down ar draws ‘cartref hanesyddol’ llawer iawn mwy hanesyddol: Caer Oes Haearn Castell Henllys. Bu archeolegwyr yn cloddio yma ers dwy ddegawd, gan arwain at ail-greu adeiladau to gwellt o’r Oes Haearn ar eu sylfeini gwreiddiol. Mae Castell Henllys, a leolir mewn 30 erw o goedwigoedd a dolydd afon deniadol, yn lle gwych i ymweld ag ef, brin ddeng munud o’r arfordir, a gallwch edmygu’r llwybrau cerfluniau a’r moch o’r Oes Haearn (ie, wir), heb sôn am yr Hen Dŷ Crwn, y tŷ crwn hynaf i gael ei ail-greu sy’n dal i sefyll ym Mhrydain.

Hanes byw

Cathedral on a bright day

Eglwys Gadeiriol Tyddewi

Ydych chi’n mwynhau bod yn agos at dreftadaeth – mwynhau cerddoriaeth gorawl mewn eglwys gadeiriol hynafol, neu hyd yn oed gael parti mewn pentref sy’n nodwedd bensaernïol ynddi’i hun? Rydych chi’n ffodus, oherwydd yng Nghymru, mae hyn yn hollol bosib!

Mae eglwys wedi bodoli ar safle Cadeirlan Tyddewi yn Sir Benfro ers y chweched ganrif, a bu gweddïo ac addoli’n rhan o’r lleoliad am 1500 o flynyddoedd neu ragor. Roedd yr Eglwys Gadeiriol, a leolir yn ninas leiaf Prydain, Tyddewi, mor bwysig yn y 12fed ganrif, nes peri i’r Pab gyhoeddi fod dwy bererindod i Dyddewi yn gyfystyr ag un bererindod i Rufain - a bod tair yn gyfystyr â mynd i Jerwsalem! Heddiw mae’r Gadeirlan yn dal i groesawu ymwelwyr ac addolwyr, yn ogystal â phobl sy’n dwlu ar gerddoriaeth, wrth i Ŵyl Cadeirlan Tyddewi ragorol ddod â cherddoriaeth glasurol a chyfoes i bellafoedd Cymru dros ddeng niwrnod ym mis Mai a Mehefin.

Revellers enjoying Festival Number 6 by the outdoor pool at Portmeirion

Gŵyl Rhif 6, Portmeirion

Gŵyl arall mewn lleoliad gwerth chweil yw Gŵyl Rhif 6, sy’n cael ei chynnal ym mhentref hudolus Portmeirion yng Ngogledd Cymru. Treuliodd Syr Clough Williams-Ellis hanner canrif yn creu’r weledigaeth eithriadol hon o bentref Eidalaidd ar arfordir Gogledd Cymru, ac mae’i gariad at y lle’n amlwg yn yr ystâd ryfeddol hon. Agorodd y gwesty yn 1931 a bu’n lletya artistiaid, rhai o’r teulu brenhinol, gwleidyddion a chyfoethogion byd busnes yn ogystal ag awduron a dramodwyr o bwys fel H.G. Wells, George Bernard Shaw a Noël Coward. Mae’r pentref yn cynnal Gŵyl Rhif 6 bob mis Medi a daw â naws y carnifal yn ei sgil i’r strydoedd lliwgar a’r lleoliadau perfformio anarferol.

Yn ôl i’r chweched ganrif – a safleoedd o ddiddordeb crefyddol: mae Capel San Trillo, a leolir ar lan y traeth yn Llandrillo yn Rhos, yn dyddio’n ôl tua 1500 o flynyddoedd, a dim ond lle i ryw chwech o bobl i addoli sydd ynddo, ond mae’n dal i gael ei ddefnyddio hyd heddiw. Dyma gapel lleiaf Prydain, ac mae’n sefyll ar safle ffynnon sanctaidd o gyfnod cyn-Gristnogol, a’r allor wedi’i hadeiladu dros ben y ffynnon – defnyddiwyd y dŵr i fedyddio babanod yn y plwyf. 

Oes gennych chi ddiddordeb yn nhreftadaeth llechi diddorol Cymru? Anelwch oddi wrth y glannau o harbwr prysur Porthmadog ar Reilffordd hanesyddol Ffestiniog, i Blaenau Ffestiniog, ac ewch i archwilio Ceudyllau Llechi Llechwedd, sy’n adrodd hanes y diwydiant llechi drwy gydol y 1800au drwy gyfrwng Taith o Dan y Ddaear, antur ‘Anturiaethwr y Chwarel’ mewn cerbyd 4x4 a gweithdai llechi  ymarferol.

inside bounce below

'Bounce Below', Llechwedd

Beth am rywbeth hollol wahanol? Mae Zip World Caverns a Bounce Below yn ddau brofiad antur sy’n sicr o gyflymu eich calon, wrth i’r hen chwareli llechi gael eu hailddefnyddio ar gyfer rhoi profiadau llinell sip a thrampolîn gwefreiddiol!

Chwedlau a straeon

Looking at St Govan's Chapel towards the cliff and shore

Capel Sant Gofan, Sir Benfro gan Visit Pembrokeshire

Mae gan bob nodwedd hanesyddol yn y tir stori i’w hadrodd, ond aeth rhai ymhellach na hynny, a throi’n ‘chwedl’. Un enghraifft o hyn yw Capel Sant Gofan; rhaid dringo i lawr yn ofalus dros risiau serth i gyrraedd cell y meudwy yn ei lleoliad ysblennydd, mewn hollt yn y creigiau ger Bosherston yn Sir Benfro. Yn ôl y chwedl, os cyfrwch chi’r grisiau wrth fynd i lawr, chewch chi byth yr un rhif wrth ddringo’n ôl i fyny!

Efallai mai anturiaethau o natur mwy herfeiddiol sydd at eich dant; os felly, byddwch chi wrth eich bodd o glywed fod llawer o fôr-ladron enwocaf ein hanes yn Gymry o dras. Roedd y môr-leidr mwyaf llwyddiannus erioed yn dod o Sir Benfro hefyd – o Gasnewy’ Bach ger Abergwaun, a bod yn fanwl gywir. Nid eich môr-leidr arferol mo Bartholomew Rogers, neu ‘Barti Ddu’, a oedd yn adnabyddus yn ei gôt ysgarlad – byddai’n cynnal gwasanaethau eglwysig ar fwrdd ei long, a’i hoff ddiod oedd te, nid rym. Serch hynny, llwyddodd Barti i ysbeilio dros 400 o longau yn ystod ei fywyd, ond yn y pen draw, ei gôt sgarlad fu’n ddiwedd iddo – ac yntau’n hawdd anelu ato, saethwyd Barti, a phan sylweddolodd fod y diwedd ar ddod, dywedodd: “Bywyd llon a bywyd byr fydd f’arwyddair’. Mae’n debyg mai’i gyfraniad mwyaf i hanes oedd dyfeisio baner y penglog a’r esgyrn croes, arwydd i unrhyw un fod môr-ladron ar droed! Un arall o fôr-ladron herfeiddiol Cymru oedd y Capten Harri Morgan, a fenthycodd ei enw i fath adnabyddus o rym. Casglwch eich criw o fôr-ladron at ei gilydd a rhowch gynnig ar Ŵyl Fôr-ladron De Cymru, ail-gread blynyddol sy’n dod â chymeriadau lliwgar o blith cymuned y môr-ladron yn fyw eto, i frwydro, a mwynhau lluniaeth a weinir mewn tafarn o’r 1700au!

Babs the car on Pendine Sands

'Babs', Traeth Pendine gan Cyngor Sir Gar

Os yw arwyr moduro’n eich ysbrydoli, anelwch am Draeth Pentywyn yn Sir Gaerfyrddin ble cafodd sawl record cyflymder ar ddaear eu gosod a’u torri ar un o draethau hiraf Cymru. Yn y fan hon, yn 1925 y gosododd Syr Malcolm Campbell, un o’r dewrion rasio ceir mwyaf erioed, record cyflymder ar ddaear o 150mya, record a dorrwyd ganddo fe’i hun ddwywaith yn rhagor ar y traeth. Torrwyd y record gan y Cymro J.G. Parry-Thomas yma hefyd, ond yn drist iawn, bu yntau farw ar ei ymgais olaf i dorri’r record, yn ei gerbyd ‘Babs’; gallwch weld Babs – wedi’i hadfer i’w hen fawredd – yn yr Amgueddfa Gyflymder.