Pêl-droed yng Nghymru

Mae pawb yn dwli ar y tîm sydd ddim yn ffefrynnau: pan fo Dafydd yn maeddu Goliath er gwaetha’r tebygolrwydd o lwyddo. Yn draddodiadol fel gwlad rydym ni wedi bod yn gyndyn i chwythu’n corn ein hun. Ond nawr ac yn y man mae ychydig o hud a lledrith yn digwydd. Mae tîm pêl-droed rhyngwladol Cymru wedi bod ar antur fawr yn 2016. Mae’r tîm yn cipio dychymyg ac yn selio eu lle yng nghalonnau cefnogwyr pêl-droed, a’r rheiny nad oedd yn gefnogwyr cynt! Rydym gyda’n gilydd yn gryfach – yn meiddio breuddwydio! Dewch gyda ni.