Goroesi fel Bear yn y Bannau: antur i’r teulu oll

Ar wal ystafell wely fy merch wyth mlwydd oed mae llun o Bear Grylls, ac wn i ddim beth i'w wneud o hynny, a dweud y gwir. Does ganddi’r un llun ohona’ i. Mae hi weld gwylio pob un o’i raglenni ar y teledu, a’i weld yn rhuthro drwy’r gwylltiroedd, yn cnoi pennau anifeiliaid bach ac yn croesi afonydd rhewllyd heb ddim ond trôns amdano.

Goroesi fel plentyn wyth oed

Bear Grylls Survival Course, Brecon Beacons

Bear Grylls Survival Course, Brecon Beacons

 gan Rafał Maciejczyk

Mae’r newyddion mawr yn ein cyrraedd bod Bear Grylls wedi agor Academi Goroesi yng nghanol golygfeydd godidog Gwlad y Sgydau ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Ar ben hynny, maen nhw’n cynnig cwrs 24 awr yn arbennig ar gyfer rhieni a phlant. Wel, allwn ni ddim peidio â rhoi cynnig arni, does bosib?

Felly dyma ni’n mynd i Neuadd Bentref Pontneddfechan yn fuan un bore gwyntog o Ebrill, i ymuno â phump o oedolion a’u plant sydd am dreulio diwrnod cyfan yn byw yn y gwyllt. Byddwn yn dysgu’r cyfan am y sgiliau angenrheidiol i oroesi, gan gynnwys, mae’n siŵr, sut i groesi afonydd rhewllyd yn ein tronsiau.

Yn mynd gyda ni ar ein hantur mae criw o Lundain a siroedd de Lloegr, gyda’u plant yn amrywio rhwng wyth mlwydd oed a’u harddegau. Bechgyn lleol cyfeillgar fydd yn ein harwain, gan gynnwys Jeff, dyn caled oedd yn arfer bod yn gomando gyda’r môr-filwyr, ac rwy’n amau mai cerrig sydd o dan ei groen, ac nid cig a gwaed.

Tramwyo Gwlad y Sgydau

Zip line at the Bear Grylls Survival Course, Brecon Beacons

Zip line at the Bear Grylls Survival Course, Brecon Beacons

 gan Rafał Maciejczyk

Ar ôl gwisgo’r gêr i gyd ac enw Bear Grylls wedi’i blastro arno, i ffwrdd â ni i’r coed, ar hyd glannau Nedd Fechan, neu Afon Nedd, sy’n llifeiriant mawr wrth ein hymyl. Buan iawn y cawn ni olwg ar yr un gyntaf o blith peth wmbreth o raeadrau. Wrth syllu ar brydferthwch y sgwd mae’n hawdd peidio â sylwi ar raff sy’n hongian yn beryglus yr olwg uwchlaw’r ceunant. Rydyn ni’n dod fesul un i glipio’n hunain ar y rhaff a neidio dros y dibyn, gan hedfan mwy na 30 troedfedd yn yr awyr gyda’r dŵr gwyn yn pistyllio oddi tanom. Byddwn yn wynebu sawl rhwystr arall fel hyn yn ystod y 24 awr nesaf.

Wedi glanio’n ddiogel yn ôl ar lan yr afon, cawn ddysgu sut i hidlo dŵr i mewn i’n poteli i’w buro’n ddiweddarach. Yna cawn wers ar chwilota am y danteithion blasus y gellir dod o hyd iddynt yng ngwaelodion y dyffryn ffrwythlon. Casglwn graf y geifr (garlleg gwyllt) i swper, wrth i ni gael blas ar fara’r gog a dail y ddraenen. Ar ôl i ni hel digon o berlysiau, i ffwrdd â ni ar hyd yr afon ble mae bronwenod y dŵr a siglennod yn cadw cwmni i ni wrth wibio ymysg y creigiau. 

Oes cnonod gen ti?

Eating meal worms on the Bear Grylls Survival Course, Brecon Beacons

Eating meal worms on the Bear Grylls Survival Course, Brecon Beacons

 gan Rafał Maciejczyk
Ac yntau ar fin llamu dros foncyff pydredig hen goeden wedi cwympo, mae ein harweinydd, Owen, yn galw’n sydyn ar bawb i sefyll yn eu hunfan. ‘Dyma dipyn o lwc i ni,’ meddai, wrth dynnu darn mawr o’r rhisgl i ffwrdd o’r boncyff meddal. Oddi tano mae’n ferw o gynrhon y blawd. ‘Pwy sydd am drio un?’ Y plant sy’n rhoi eu dwylo i fyny gyntaf. Hmm. A dweud y gwir, dydyn nhw ddim cynddrwg â’u golwg. Wedi bod wrthi am lai nag awr, mae’r antur hon eisoes yn rhoi gwedd newydd arnom ni bobl y dref.

Gwersylla go iawn

Shelter building on the Bear Grylls Survival Course, Brecon Beacons

Shelter building on the Bear Grylls Survival Course, Brecon Beacons

 gan Rafał Maciejczyk
Mae’n rhaid i ni wynebu mwy o heriau ar y rhaffau, cyn dringo o’r ceunant i godi ein gwersyll. Welais i erioed wersyll fel hyn yn fy myw. Ffridd gorsiog a diflas heb fawr ddim ond ambell i goeden gnotiog yma ac acw, a rhywfaint o foncyffion pinwydd wedi’u llifio. Rydyn ni’n cael tair llen o darpolin, rîl o linyn parasiwt ac awr i baratoi rhywle i’n cadw’n sych wrth i ni gysgu. I ffwrdd â ni! Ar ôl cryn lifio, chwysu, rhegi a chlymu, rydym yn llwyddo i godi rhywbeth go debyg i dair lloches.

Wedyn cawn ein galw’n ôl i’r gors i ddysgu gwneud clymau a thrin cyllell, ac i chwilota drwy’r goedwig am goed tân cyn amser swper. Ar y fwydlen heno mae crochan o goesau cyw iâr sy’n ffrwtian ar y tân gyda llysiau a pherlysiau wedi’u cael o’r coed. A ninnau’n llwgu cymaint, mae’n edrych fel gwledd hynod flasus.

Cysgu dan gwrlid y sêr

Time for bed on the Bear Grylls Survival Course, Brecon Beacons

Time for bed on the Bear Grylls Survival Course, Brecon Beacons

 gan Rafał Maciejczyk
Erbyn hyn mae’n 10 o’r gloch y nos ac fel y fagddu, ond mae digon o amser i ni ddysgu sut i ddefnyddio’r sêr i chwilio’r ffordd cyn noswylio. Gwyrwn ein pennau wrth fynd i mewn i’n llochesi, a gwnawn ein gorau i wneud gwely clyd i’r plant, sy’n dipyn o gamp a hwythau’n cysgu mewn cors rynllyd heb ddim ond haen denau o neilon a rhedyn browngoch drostynt.

Mewn tywyllwch dudew gorweddwn yn dawel wrth i’r glaw ddechrau disgyn, a gwrando ar wahanol synau Bannau Brycheiniog. Defaid yn brefu. Y gwynt yn ysgwyd y coed. Y plant yn eu lloches yn chwerthin ac yn parablu’n ddi-baid. Rhywun yn chwyrnu’n braf.

Gydag ochenaid rwy’n suddo i mewn i’m sach gysgu, gan ddiawlio Bear Grylls a gobeithio y bydd hi’n braf yn y bore. Yna’r peth nesaf rwy’n ei glywed yw sŵn beic cwad yn y pellter. Braidd yn gynnar i’r ffermwr fod allan, meddyliaf. Wrth sbecian allan o’r sach gysgu i weld beth sy’n digwydd, rwy’n falch o deimlo pelydrau’r haul yn tywynnu arnaf.

Ar ôl i ni fwyta brecwast milwr, mae Jeff yn mynd â ni i ddysgu gosod trapiau a maglau, ac wedyn rydyn ni’n hel ein paciau ar ein cefnau ac yn cychwyn ar ran olaf ein taith. Gallwn glywed cân y gwcw yn y coed wrth i ni gerdded drwy’r cae corslyd, i fyny at y rhostir yn mynd tua’r dwyrain.

Yn olaf, ond nid yn lleiaf...

Gorge walking at the Bear Grylls Survival Course, Brecon Beacons

Gorge walking at the Bear Grylls Survival Course, Brecon Beacons

 gan Rafał Maciejczyk

Dim ond tair awr sydd ar ôl gennym bellach, ac mae pawb yn rhyw amau y bu’r penwythnos yn arwain at ryw fath o uchafbwynt. Wrth ddisgyn ar raff ddwbl i geunant dwfn Afon Mellte, gwelwn bentwr o fflôts ar y lan sy’n gwneud i ni boeni braidd. Ond y newyddion da yw bod dim gofyn i ni dynnu amdanom a cherdded drwy’r afon yn ein tronsiau. Y newyddion drwg yw bod yn rhaid i ni wneud yn ein dillad.

Camwn i’r dŵr rhewllyd at ein pengliniau, gan fynd yn betrus at ymyl ysgafell ac edrych dros y dibyn i weld dŵr dwfn, brown yn llifo’n wyllt oddi tanom. Barod? Cymerwn anadl ddofn. Ewch! Taflwn ein paciau o’n blaen a neidio ar ein boliau i’r dŵr. Mam fach, mae’n oer. Gwnawn ein gorau glas i gicio drwy’r dŵr yn ein hesgidiau trymion, i gyd yn ymdrechu’n daer i gyrraedd y lan, lle’r ydym yn glanio allan o wynt ac yn wlyb at ein crwyn. Dyna oedd y peth gwaethaf y bu’n rhaid i ni ei wneud drwy’r penwythnos – ac yn rhyfedd ddigon, y peth gorau hefyd.

Erbyn i ni gyrraedd ein byncws, ychydig dros 24 awr ers i ni gychwyn ar ein taith, rydyn ni wedi ymlâdd, ond ar ben ein digon. Fe oroeson ni. A dweud y gwir, fe wnaethon ni fwy na hynny – fe gawson ni goblyn o hwyl. 

Mwy o wyliau chwilota bwyd a byw yn y gwyllt yng Nghymru