-
Ydych chi erioed wedi meddwl yr hoffech ddysgu sut i fyw yn yr awyr agored, gwneud pethau allan o bren a gwneud gwely crog? Mae'n siŵr mai Eryri yw'r lle i hogi'r sgiliau hynny. Dysgwch sut i ganu fel aderyn, sut i glecian tân, chwilota am fwyd gwyllt a gwella'ch cysylltiad gyda byd natur mewn lleoliad anhygoel.
-
Merthyr Mawr Sand Dunes, Glamorgan Heritage Coast gan Paula J James
Crwydrwch ar draws 70 acer o goetiroedd hyfryd ar Ystâd Merthyr Mawr, Pen-y-Bont ar Ogwr, wrth i chi ddysgu sgiliau goroesi mewn awyrgylch cyfeillgar llawn hwyl ar y cwrs hwn. Wedi cynnau tân a dod o hyd i fwyd ffres, gallwch hyd yn oed gysgu mewn tipi brodorol Americanaidd o dan y sêr.
-
Craig Ben ym Mae'r Tri Chlogwyn, Penrhyn Gŵyr
gan Claire_Sambrook
Os ydych erioed wedi meddwl a fyddai brigyn sycamorwydden yn gwneud chwiban effeithiol, neu os fyddai gwneud catapwlt yn hwyl, dyma'ch cyfle i ddod o hyd i'r atebion yng nghwmni grŵp sy'n benderfynol o sicrhau fod sgiliau gwylltir eich teulu yn cyrraedd y safon ym Mhenrhyn Gŵyr.
-
Buzzard Chris Bushcraft gan Buzzard Chris Bushcraft
Mae Buzzard Chris yn cynnig dosbarth meistr o sgiliau byw yn y gwyllt, sy'n cynnwys cynnau tân, adeiladu lloches a gwneud bwâu. Bydd diwrnod yn y coetir hynafol ger Cresswell Quay, neu yn Fir Hill Wood ym Mharc Slebech, hefyd yn rhoi gwell syniad i chi o'r cynefin naturiol o'ch cwmpas, rhywbeth a fydd yn rhoi'r hyder i chi i chwilota ac archwilio ym mhellach yn y dyfodol.
-
Morfa Harlech, Snowdonia gan tedandjen
Mae Morfa Bay yn ganolfan antur awyr agored drawiadol, ond mae'n lle hyd yn oed yn well ar gyfer dysgu sgiliau a drosglwyddwyd o genhedlaeth i genhedlaeth ar hyd y canrifoedd o gwmpas y fforestydd a'r coetiroedd gerllaw. Rhowch gynnig ar grefft-tân, chwilota, cerfio â llaw ac adeiladu lloches, ac mae'r arbenigwyr yn hapus i deilwra eu gwersi ar gyfer pob oed a gallu.
-
Bushcraft Birthdays, South East Wales gan Steph Thompson
Mewn cyfuniad o chwarae o gwmpas yn yr awyr agored a dysgu hen sgiliau a aeth yn angof, mae'r sesiynau hyn – gallwch ddewis rhwng Caerdydd, Pen-y-Bont ar Ogwr a Bro Morgannwg – yn dysgu chwilota, sgiliau a meithrin cysylltiad gyda'r awyr agored. Tân, bwyd a lloches yw'r elfennau allweddol, heb sôn am falws melys wedi eu tostio!
-
Ceunenta yn Eryri
gan bristolsurfer
Os yw sgiliau awyr agored yn cael eu gweld fel rhywbeth sy'n perthyn i'r gorffennol yn y byd modern, technolegol yma, mae'r anturiaethwyr hyn yn Eryri yn benderfynol o brofi fod y rhagdybiaeth yma'n anghywir trwy ddifyrrwch cynnau tân, adeiladu lloches, clymu cwlwm na all dorri, a phenderfynu pa fwydydd yw'r gorau i'w bwyta yn y gwyllt.
-
Shaggy Sheep, Carmarthenshire gan Andrew Price
Mae pawb am fod mor anorchfygol â Ray Mears, ond ddewch chi byth i wybod os allwch chi gymharu'n ffafriol â'i sgiliau goroesi nes i chi roi cynnig arni. Nod yr antur dros nos yma yw eich dysgu sut i buro dŵr, adeiladu lloches a choginio ar dân coed, ymysg talentau coll eraill.
-
Clocaenog Forest, North Wales Borders gan Original Outdoors
Mewn coedwig ger Rhuthun, dyma'ch cyfle i ddysgu sgiliau sydd bron â diflannu ers iddynt gael eu perffeithio gannoedd o flynyddoedd yn ôl. Gallwch ddewis ymhlith cyrsiau megis antur undydd yn meithrin sgiliau syml, a thaith gwersyll cyflawn yn llawn chwilota a chynnau tân.
-
Ceunenta, Bannau Brycheiniog
gan Henry & Jane Rios
O sgrialu dros greigiau a cheunentydd i gyfeiriadu a datrys problemau, mae'r tîm hwn yn trefnu penwythnosau gweithgaredd ym mhrydferthwch Bannau Brycheiniog. Eu nod yw gwella hyder y rheiny sy'n cymryd rhan, ac maent yn cynnig diwrnodau gweithgaredd ar gyfer anturiaethwyr ifanc o gwmpas ardaloedd Merthyr Tudful, Aberhonddu a Chastell-nedd.