Rhyddid i ledu’ch adenydd

Roeddwn i’n weddol hwyr yn rhoi cynnig ar farcudfyrddio, pan oeddwn i’n 21 oed. Roeddwn i eisoes wrth fy modd â hwylfyrddio, ac wrthi’n hyfforddi ar gyfer taith o amgylch y byd (mewn cystadleuaeth broffesiynol) pan gefais gyfle i gael blas ar farcudfyrddio yn Hawaii. A dweud y gwir, doedd Hawaii ddim cystal â hynny gan fod cymaint o bobl yno, a phan ddes i’n ôl adref gallwn weld fod Niwgwl, fy nhraeth lleol, yn well o lawer. Mae’n draeth tywodlyd, hir, gyda digonedd o le – mae’r llinynnau sy’n dal y barcud yn 20 metr o hyd, felly mae’n rhaid cael digon o le i farcudfyrddio.

A dweud y gwir, doedd Hawaii ddim cystal â hynny gan fod cymaint o bobl yno, a phan ddes i’n ôl adref gallwn weld fod Niwgwl, fy nhraeth lleol, yn well o lawer.

Roeddwn i wrth fy modd o’r cychwyn cyntaf. Y peth gorau am ddysgu i farcudfyrddio yw’r cyffro aruthrol wrth ddal y barcud am y tro cyntaf, a theimlo grym y gwynt. Mae’n brofiad anhygoel i ddechreuwyr – a buan iawn y byddwch chi’n gwibio ar hyd y traeth. Mae’n wahanol i hwylfyrddio neu syrffio, gan mai dim ond am ddiwrnod neu ddau y byddwch chi’n ymarfer cyn mynd amdani go iawn. Does dim angen i chi fod yn gryf i farcudfyrddio, chwaith – techneg a rheolaeth yw popeth.

Menyw ar y traeth yn dal bwrdd barcudfyrddio.
Menyw yn y môr yn dal bwrdd barcudfyrddio

Barcudfyrddio, Kirsty Jones

Syrffio gyda dolffiniaid

Ar ôl bod wrthi am ryw ddwy flynedd, yn 2003 penderfynais roi her i fi’n hun a gwneud rhywbeth at achos da, yn hytrach na chystadlu, a’r her honno oedd barcudfyrddio’r holl ffordd o Iwerddon i Gymru. Yng nghanol Môr Iwerddon hedfanodd mulfran wen fawr ychydig lathenni uwch fy mhen, a buodd yn fy nilyn am rywfaint fel angel wrth fy ysgwydd. Wedi bod ar y môr am bump awr, a minnau bron â chyrraedd Broad Haven, gostegodd y gwynt a chefais gryn drafferth mynd yn fy mlaen. Yn sydyn daeth dau ddolffin i’r golwg, yn nofio wrth fy ochr i gyfeiriad Broad Haven, fel petaent yn fy annog i gyrraedd pen y daith.

Y bywyd gwyllt a’r golygfeydd yng Nghymru sy’n gwneud barcudfyrddio yma’n brofiad mor arbennig. Dwi wastad wedi bod yn hoff iawn o draethau gwyllt, ac mae digonedd o’r rheiny yng Nghymru – rheswm arall pam gefais i well hwyl ar farcudfyrddio a magu sgiliau ar ôl dod adref o Hawaii. Does dim byd cystal â barcudfyrddio â morloi – fe allech chi grwydro’r byd i gyd, ond mae’n beth cyffredin yng Nghymru i weld morlo’n codi’i ben uwchlaw’r dŵr wrth eich ymyl chi. Mae bob amser yn gwneud i mi wenu, a chwerthin.

Bottle-nosed dolphin breaching from the sea

Dolffin trwynbwl

Naws braf

Fy hoff lefydd i farcudfyrddio yw Freshwater West a Niwgwl yn Sir Benfro ac Abersoch ar Ben Llŷn – mae Llangenydd ar Benrhyn Gŵyr yn hyfryd hefyd. Ar wahân i Freshwater West, sy’n gallu bod yn beryglus oherwydd y cerrynt cryf a’r creigiau o dan y dŵr, gall unrhyw un ddod i’r llefydd arbennig hyn i roi cynnig ar farcudfyrddio.

Mae rhyw naws braf am y sîn barcudfyrddio yng Nghymru hefyd. Does neb mor gyfeillgar â’r Cymry yn y dŵr – mae pawb y dewch chi ar eu traws wrth farcudfyrddio fel hen ffrindiau, a phawb wastad yn barod i roi help llaw. Fe fydd newydd-ddyfodiaid yn synnu at hyn, a gallwch eu gweld yn meddwl yn ddrwgdybus, ‘mae’n siŵr fod gan hwn neu hon ryw reswm i fod mor gymwynasgar’, ond y gwir amdani yw bod pawb mor garedig.

Llun agos o ddyn yn barcudfyrddio yn y môr gyda dŵr yn tasgu ym mhob man

Barcudfyrddio, Niwgwl, Sir Benfro

Straeon cysylltiedig