Llwybr yr Arfordir: dringo Everest Cymru

Wrth droelli ar hyd Llwybr Arfordir Sir Benfro fe welwch chi rai o’r golygfeydd harddaf ar arfordir Prydain. Does dim rhaid i chi gerdded o un pen o’r llwybr i’r llall ar un cynnig – ond dyna’n union a wnaeth Amiel Price yn 2013. 186 milltir, bob cam o’r ffordd…

Ychydig wythnosau a gymerodd Amiel Price i gerdded o un pen i’r llall ar Lwybr Arfordir Sir Benfro yn 2013. Mae’r llwybr yn 186 milltir ar ei hyd, ac yn dringo a disgyn cyfanswm o 35,000 troedfedd. Does ryfedd fod pobl yn dweud ei fod fel dringo Everest…

Pen-blwydd i’w gofio

View of Amroth beach

View of Amroth beach, Pembrokeshire

Roedd fy ffrind Jane yn chwilio am ffordd o ddathlu ei phen-blwydd yn hanner cant, a fi oedd yr unig un oedd yn ddigon gwirion i gytuno mynd gyda hi wrth gerdded o un pen i’r llall ar hyd Llwybr Arfordir Sir Benfro! Fe wnaethon ni’r daith mewn ychydig dros bythefnos, gan gerdded tua 13 milltir bob diwrnod ar gyfartaledd. Amroth oedd ein man cychwyn, ac fe aethon ni i fyny fesul dipyn o’r fan honno. Roedd yn gas gennym feddwl am wneud y rhan olaf, y pymtheg milltir o Drefdraeth i Landudoch, ar ôl clywed mai dyma’r rhan anoddaf o’r daith. Ond yn y diwedd chawson ni ddim trafferth o gwbl, ar ôl magu nerth wrth gerdded ar hyd gweddill y llwybr.

Glöynnod yn gwibio

Baby seal near Skomer in Pembrokeshire

Baby seal near Skomer, Pembrokeshire 

 gan Teracy
Roedden ni’n ffodus iawn gyda’r tywydd, cafon ni haul disglair yr holl ffordd. Aethon ni dros ddiwedd mis Gorffennaf a dechrau mis Awst, yng nghanol heidiau o ieir bach yr haf, ac roedd hi’n wych. Un bore braf fe welon ni lwyth ohonynt o’n blaen ar y llwybr, a bu’n rhaid i ni chwifio’n ffyn cerdded i’w hel i’r awyr rhag ofn i ni sathru arnynt. Fe welon ni bob math o fywyd gwyllt – adar, wrth reswm, ond cawsom gip ar forloi hefyd tua’r gogledd o Dyddewi. Eu clywed nhw wnaethon ni yn gyntaf, a’u sŵn yn diasbedain drwy’r creigiau, ac yna fe ddaethant i’r golwg, yn torheulo ac yn nofio yn y môr. Roedden ni wedi disgwyl gweld mwy o nadredd, ond dim ond un wiber welon ni’r holl ffordd.

Allan am y dydd

Fe welon ni lai o bobl na’r disgwyl, hefyd. Roedd digon o bobl i’w gweld allan am y dydd, a phobl leol yn mynd â’u cŵn am dro, ond dim ond llond llaw ohonynt oedd yn cerdded y llwybr cyfan, yn amlwg gyda’u pebyll a’u paciau mawr. Fe ddaethon ni ar draws gŵr o’r Almaen a oedd yn cerdded ar ei ben ei hun a’i babell ar ei gefn, yn gwisgo rhyw het ryfedd, pan oedd e’n tynnu lluniau o’r glöynnod byw. Roedd e newydd ymddeol, ac yn cerdded o Abertawe i Aberystwyth, felly doedd dim brys o gwbl arno. Roedd ar ben ei ddigon yng nghanol cefn gwlad, ac wrth ei fodd ag amrywiaeth yr arfordir.

“Ogofâu a stormdraethau’n llawn cerrig mân…”

Yr uchafbwyntiau

Coasteers jumping off a cliff at Abereiddy's Blue Lagoon

Coasteers at Blue Lagoon, Abereiddy in Pembrokeshire

 gan ALAMO2008
Roedd cymaint ohonyn nhw! Fy hoff rannau o’r llwybr oedd yr ardaloedd tawel tua’r gogledd o Dyddewi, lle mae peth wmbreth o ogofâu a stormdraethau’n llawn cerrig mân, ac ni welon ni’r un copa walltog yno. Pan gyrhaeddon ni Abereiddi erbyn amser paned un ar ddeg, roedd menyw yno mewn fan yn gwerthu bwyd a diod, ac wedi tynnu’n paciau oddi ar ein cefnau fe eisteddon ni’n sidêt iawn ar y traeth gyda’n cwpanau o goffi. Fe welon ni bobl yn arfordira ger y Merllyn Glas, ac yng Nghwm yr Eglwys roedden nhw’n cynnal regata rwyfo leol, felly fe arhoson ni i weld rhywfaint o hwnnw a chael picnic i ginio.

“Byddai daearegwyr ar ben eu digon yma… yr haenau yn y creigiau, yr anticlinau a’r synclinau, lle gallwch weld crychion y graig yr holl ffordd i fyny’r clogwyn serth…”

Mae Pwll y Wrach, ar y ffordd i Drwyn Cemaes, yn fendigedig. Ffurfiodd y pwll pan ddymchwelodd ogof, ac mae’r llwybr yn mynd dros fwa yn y graig. Roedd hi’n gyffrous gweld pobl yn mynd mewn canŵ oddi tanom ar eu ffordd i’r pwll. Byddai daearegwyr ar ben eu digon yma, yn ôl pob tebyg, oherwydd yr haenau yn y creigiau, yr anticlinau a’r synclinau, lle gallwch weld crychion y graig yr holl ffordd i fyny’r clogwyn serth.

Mynd o le i le

Jane Caley sitting down on a section of Coast Path overlooking the sea

Jane Caley on a section of the Pembrokeshire Coast Path gan Amiel Price

Roedd Malcolm, gŵr Jane, a’u tri mab yn eu harddegau wedi gwirfoddoli i’n cefnogi ar ein taith. Buom yn aros mewn tri gwahanol faes gwersylla ar hyd yr arfordir, a gyda’r nos byddai Malcolm yn coginio pryd o fwyd i ni, neu’n mynd â ni i dafarn leol. Aeth Jane a fi â dau gar gyda ni, ac fel arfer roedden ni’n gadael fy nghar i ar ddiwedd pob rhan o’r daith, fel na fyddai’n rhaid i neb loetran wrth aros amdanom ar ddiwedd y dydd.

I’r rhai nad ydynt yn cerdded

View of Newgale beach

View of Newgale Beach in Pembrokeshire gan Visit Pembrokeshire
Roedd Malcolm wedi trefnu mynd i bysgota a marchogaeth, ac roedd y bechgyn wedi dod â chanŵ gyda nhw hefyd. Y peth gorau a wnaethon nhw oedd mynd mewn hofrennydd. Roedden nhw wedi gobeithio dod i’n hysio ar hyd y llwybr oddi fry, ond roedden nhw hefyd eisiau hedfan dros Gastell Penfro, ac erbyn hynny roedd y ddwy ohonon ni eisoes wedi cerdded heibio Niwgwl. Y noswaith honno roedden nhw’n llawn edmygedd am ein bod wedi cerdded mor bell, a hwythau wedi gweld y llwybr o’r awyr.

“Erbyn i chi gerdded Llwybr Arfordir Sir Benfro ar ei hyd, byddwch wedi dringo’n ddigon pell i gyrraedd copa Everest.”

Codi gwydraid ar ben y daith

Amiel Price and Jane Caley celebrating with champagne

Friends Amiel Price and Jane Caley celebrating the end of their 186-mile hike, near St Dogmaels gan Amiel Price

Daeth y bechgyn i gwrdd â ni yn Llandudoch gyda photel o siampên. Erbyn i chi gerdded Llwybr Arfordir Sir Benfro ar ei hyd, byddwch wedi dringo’n ddigon pell i gyrraedd copa Everest. Rwy’n hoff iawn o’r ffaith honno – rydw i wedi dringo Everest! Mae’n beth mor braf i fod wedi rhannu’r profiad yma, y pleser a’r boen, a medru hel atgofion braf am y daith.

Fentrwch chi ddringo ‘Everest Cymru’

Close of Cabbage white butterfly on Lavender in Pembrokeshire

Cabbage white butterfly on Lavender, Pembrokeshire gan Simon M Turner
Llwybr Arfordir Sir Benfro yw un o’r llwybrau cerdded gorau yn y byd. Mae’n drueni fod cymaint o gerddwyr yn mynd nerth eu traed i gyrraedd pen y daith, yn lle crwydro tua’r mewndir lle gallant ddod o hyd i drysorau lu. Gŵyr pawb, wrth gwrs, am y trefi harbwr bendigedig – Dinbych-y-pysgod, Saundersfoot, Abergwaun a’r Parrog.

Ond fe fyddwn i’n bendant yn argymell i chi fentro ychydig oddi wrth yr arfordir (beth yw milltir rhwng ffrindiau?) a mynd i ddinas fach hyfryd Tyddewi. Wrth i chi ddynesu bydd y llwybr yn mynd ar i waered i Borthclais, harbwr bach sy’n ddigon o ryfeddod, lle mae Afon Alun yn llifo i’r môr. Y Rhufeiniaid adeiladodd y rhannau hynaf o fur yr harbwr, ond nid yw’r gweddill ond yn 900 o flynyddoedd oed, wedi’i adeiladu i allforio coed a glo.

“[Roedden ni’n cerdded] yng nghanol heidiau o ieir bach yr haf… Clywed y morloi wnaethon ni yn gyntaf, a’u sŵn yn diasbedain drwy’r creigiau, ac yna fe ddaethant i’r golwg, yn torheulo ac yn nofio yn y môr...”

Ewch i fyny’r lôn am ryw filltir a daw tŵr nodweddiadol Eglwys Tyddewi i’r golwg yn codi o’r pant o’ch blaen.  Adeiladwyd yr eglwys yn y 12fed ganrif, lle safai’r fynachlog a sefydlodd Dewi Sant 700 mlynedd ynghynt. Mae adfeilion godidog Llys yr Esgob gerllaw yn werth eu gweld hefyd, yn enwedig pan lwyfannir dramâu yn yr awyr agored yno.