Mynd mewn canŵ a chaiac ar eich gwyliau

Fe holon ni'r arbenigwyr, a dywedodd pob un ohonynt fod Cymru'n un o'r llefydd gorau yn y byd i fynd mewn caiac yn y môr. Maent hefyd yn awgrymu un daith ganŵio arbennig i deuluoedd, sydd heb ei hail.

Dewiswch antur i'ch siwtio chi wrth badlo yng Nghymru. Mae'n hyfryd mynd mewn caiac i weld yr ogofâu a childraethau di-ri ar hyd yr arfordir. Mae'n fendigedig padlo'n braf gyda'r teulu ar hyd y camlesi, y llynnoedd a'r afonydd.