Dŵr gwyn gwefreiddiol yng Nghymru

Does yr unman ym Mhrydain lle gewch chi gymaint o ddewis, mae’r golygfeydd yn odidog ac mae’r croeso yn ddigon i’ch cynhesu wrth ddod o’r dŵr oer. “Dewch i’r dŵr,” meddai’r rafftiwr proffesiynol, Matt Blue “mae’n arbennig o wyllt yma yng Nghymru.”

Amrywiaeth o brofiadau ar rafft

Matt Blue with kit on ready to go rafting, standing next to Blue Paddle van
Matt Blue gan Blue Paddle


Rafftiwr proffesiynol ydw i, ac wrth ddilyn fy ngyrfa dwi wedi crwydro i wledydd tramor fel Awstria a Seland Newydd. Fe fues i’n gweithio ar Afon Zambezi yn Affrica am flwyddyn neu ddwy, dwi wedi rafftio yn Chile ac wedi bod ar hyd y Grand Canyon. Rydw i hefyd wedi rasio ledled y byd gyda thîm rafftio Prydain – yn 2009 ym Mosnia fe ddaethon ni’n drydydd drwy’r byd, ac enillon ni’r fedal aur wrth fynd benben yn erbyn y lleill.


Dwi’n byw yng Nghaerfyrddin bellach, a’r peth gorau am Gymru yw’r amrywiaeth o brofiadau rafftio sydd i’w cael mewn gwlad mor fach.
Ers agor canolfan rafftio fasnachol gyntaf Prydain ym 1986, sef Canolfan Dŵr Gwyn Cymru ar Afon Tryweryn ger y Bala, mae pentwr o gwmnïau rafftio wedi lansio yng Nghymru.

Rafting on Tyweryn River

White water rafting on Afon Tryweryn, Snowdonia

Fe allech chi fynd ar rafft ar Afon Dyfrdwy ger Llangollen, ar Lyn Efyrnwy yn y Gogledd, a mannau braf yn y Gorllewin fel Afon Teifi. Reit yng nghanol Caerdydd mae canolfan dŵr gwyn o fewn cyrraedd i bawb yn y ddinas. Mae’n anhygoel. Dwi'n gwybod fod llawer o bobl yn awyddus i roi cynnig ar rafftio, ond fel arfer mae’n rhaid mynd i’r mynyddoedd a’r mannau gwyllt, diarffordd. Mae’r lle yma yng Nghaerdydd yn ei gwneud hi'n hawdd i bobl wthio’r cwch i’r dŵr. Felly mae pobl yn mynd yno, yn mwynhau ac yn meddwl ‘Wyddoch chi beth? Fyddai dim ots gen i fynd ar afon go iawn nawr.’ 

Cardiff International White Water Centre

Cardiff International White Water Centre, Cardiff Bay gan CIWW

Mae amrywiaeth dda o brofiadau ar eich cyfer wrth rafftio yng Nghymru. Mewn rhai mannau does dim ond dŵr garw oddi tanoch ac mae’r adrenalin yn pwmpio. Ond yn y rhan helaeth o lefydd mae pobl yn mynd i rafftio, nid yw’r rhaeadrau’n fwy na Gradd 3. Wrth fynd ar hyd afonydd fel Afon Teifi, neu rannau uchaf Afon Gwy ac Afon Dyfrdwy, fe gewch gyfle gwych i weld byd natur a bywyd gwyllt mewn mannau na fyddech yn mynd ar eu cyfyl fel arall.

Golygfeydd godidog

Yn fy marn i, mae’r olygfa’n rhan annatod o’r profiad – mae’r amgylchedd hyfryd yn un o’r pethau sydd mor unigryw am rafftio yng Nghymru. 

Er bod digon o gyffro i’w gael yma – ewch ar rafft ar Afon Tryweryn neu rannau isaf Afon Dyfrdwy ac fe gewch chi’ch taflu o gwmpas fel doli glwt – mae cymaint o lefydd gwych i ddechreuwyr fynd i ddarganfod byd natur, a mwynhau anturiaethau penigamp gyda’u ffrindiau o’u cwmpas. Dwi wedi sylwi hefyd fod y bobl sy’n gweithio ym maes rafftio yng Nghymru yn arbennig o gyfeillgar a charedig.

Mae rafftio dŵr gwyn yn gamp mor wych, ac mae twf aruthrol wedi bod yn ddiweddar; rydyn ni wir yn torri tir newydd erbyn hyn. Mae’r ysgol agosaf ata i yng Nghaerfyrddin wedi prynu rafft, ac yn cynnig rafftio fel un o’r gweithgareddau i’r plant. Roedden ni yno ar gyfer y seremonïau ar ddechrau a diwedd y Gemau Olympaidd. Anhygoel o beth. Ond mae pobl yn sylweddoli fod rafftio’n digwydd yma, ac yn meddwl ‘Fe hoffwn i wneud hynny’. Wel, pam lai?

Mwy o ddarparwyr rafftio yng Nghymru