Canolfan Dŵr Gwyn Genedlaethol, Y Bala

Mae’r dŵr gwyllt yn arllwys yn syth o argae i fyny’r afon i Ganolfan Dŵr Gwyn Cymru. Felly, yn wahanol i’r llif ysgafn a gewch chi ar afonydd eraill yng Nghymru, mae Afon Tryweryn yn cynnig gwerth dros hanner milltir o raeadrau bach nerthol gradd 3-4. Does dim angen bod ofn – bydd arbenigwyr yn eich tywys bob cam o’r ffordd, ac maen nhw’n dweud mai’r rafftwyr mwyaf petrusgar sy’n gwenu fwyaf ar ddiwedd y daith.

Mae rhan ychydig yn dawelach yno hefyd sy'n cynnig profiad mwy hamddenol. Mae hon yn daith hardd trwy goetir a chefn gwlad Parc Cenedlaethol Eryri. Os ydych chi'n lwcus efallai y byddwch chi'n gweld dyfrgi hyd yn oed. 

Afon Dyfrdwy, Llangollen 

Gallwch fwynhau Dyffryn Dyfrdwy ar gwch cul neu drên stêm, neu ar gyfer rhywbeth ychydig yn fwy anturus, ar rafft! Mae rhan Llangollen o’r Ddyfrdwy yn 2.5 milltir o ddŵr gwyn gwefreiddiol, gan gychwyn wrth Raeadr y Bedol a gorffen wrth Raeadr y Dref. Mae rhai dyfroedd gwyllt heriol ar hyd y ffordd ond mae yna ddigonedd o adrannau haws lle gallwch chi ymlacio a mwynhau'r golygfeydd. Mae gan y daith yma un o'r mannau gorffen gorau hefyd, sef canol tref Llangollen. Gall eich ffrindiau a'ch teulu wylio o'r bont uwchben wrth i chi blymio dros y rhaeadrau dramatig!

Afon yn llifo ger adeilad gwesty mawr gwyn mewn tref. Mae'r awyr yn las ac mae bryn o goed yn y cefndir.

Afon Dyfrdwy yn llifo drwy Langollen

Afon Teifi, Ceredigion

Mae angen cawod dda o law i ddod a rhan uchaf yr Afon Teifi i lefel rafftio, ond mae'n wych unwaith mae'r lefelau yn iawn. Mae rhan isaf y Teifi yn daith fwy hamddenol gyda dyfroedd gwyllt haws. Byddwch yn padlo heibio cestyll Cilgerran ac Aberteifi, a thrwy geunant hynod Teifi, lle gallwch weld glas y dorlan os yn lwcus. Byddwch yn cychwyn y daith mewn dŵr ffres ac yn gorffen mewn dŵr mor - does dim llawer o deithiau rafftio yn cynnig hynny!

Dŵr Gwyn Rhyngwladol, Caerdydd

Mae plant a dechreuwyr wrth eu bodd yma, felly beth sy’n denu’r padlwyr proffesiynol i gwrs Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd? Y gyfrinach yw’r pwmp sy’n addasu llif y dŵr yn ôl gallu pob rafftiwr. Pa faint bynnag o brofiad sydd gennych fe gewch chi’r holl gyffro y byddech yn ei gael wrth rafftio ar hyd yr afon, a hynny ar un cwrs 254 metr. 

Wrth i'r dŵr gael ei bwmpio gellir rheoli'r lefelau; mae’n cael ei ostwng ar gyfer anturiaethau teuluol a’i newid i’r eithaf ar gyfer rafftio dŵr gwyn eithafol (os ydych chi’n barod am yr her?). Ac nid y dŵr yn unig sy’n epig – mae cludfelt enfawr yn cario'r rafft (a chi) yn ôl i ben y cwrs fel y gallwch chi rafftio'r cyfan eto.

Darllen mwy: Bwrlwm Bae Caerdydd

Grŵp o bobl yn eistedd mewn rafft ac yn padlo i lawr y cwrs dŵr
Grŵp o bobl mewn cwch rafft gyda rhwyfau yn Dŵr Gwyn Rhyngwladol Cymru

Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd

Straeon cysylltiedig